• English
  • Hepgor gwe-lywio

Trafod Iaith

Trafod Iaith

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 pan welwyd dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr i 43.9% o’r boblogaeth (lawr o 50.3% yn 2001), cytunodd Cyngor Sir Gâr i sefydlu Gweithgor Tasg a Gorffen o aelodau etholedig traws-bleidiol i ymchwilio i’r ffactorau sydd wedi arwain at y dirywiad ac i lunio argymhellion er mwyn ymdrin â’r sefyllfa. Fel rhan o’r ymchwil comisiynwyd Dr Dylan Phillips i baratoi adroddiad ystadegol manwl ar sefyllfa’r Gymraeg yn Sir Gâr.

Cyflwynwyd adroddiad ac argymhellion y Gweithgor i’r Cyngor llawn ym mis Ebrill 2014 a thrwy derbyn yr adroddiad ‘Yr iaith Gymraeg yn Sir Gâr‘ (Mawrth 2014) mae Cyngor Sir Gâr wedi cadarnhau ei ymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn y sir a’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.

Mae adroddiad y Gweithgor a gwaith y Cyngor yn canolbwyntio ar yr wyth maes canlynol:

  • Cynllunio
  • Addysg
  • Iaith ac Economi
  • Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a gweinyddiaeth y Cyngor
  • Effaith sefydliadau sy’n gweithio er budd y Gymraeg megis y Mentrau Iaith
  • Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau’r sir
  • Trosglwyddiad Iaith yn y teulu
  • Marchnata’r Iaith

Mynd yn bell ac yn glou gyda dwy iaith...

Yn Sir Gâr y nod yw bod pob plentyn yn cael y cyfle i adael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn y sir, a thrwy Gymru gyfan, yn chwilio am weithwyr sy’n gallu gweithio’n gyfforddus yn y ddwy iaith.

Ac mae siarad dwy iaith yn helpu mewn sawl ffordd arall hefyd...

Mae ymchwil o sawl rhan o’r byd yn dangos bod plant sy’n siarad dwy iaith yn dda yn gallu meddwl yn fwy creadigol ac yn tueddu i fod yn well mewn profion IQ.

Mae cael dau air ar gyfer popeth yn help mawr! Mae ymchwil yn yr Unol Daleithiau, Canada, Gwlad y Basg, Catalwnia a Chymru yn dangos bod plant sy’n siarad dwy iaith yn rhugl yn cael canlyniadau da mewn arholiadau.

Yng Nghanada maen nhw wedi gweld bod darllen yn dod yn haws i blant bach sy’n siarad dwy iaith; maen nhw ar y blaen gyda’u darllen yn 4 – 6 oed.

Yn Sir Gâr mae siarad dwy iaith yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, i ddod yn rhan o’r gymdogaeth leol a theimlo’u bod yn perthyn.

Yn ôl yr Athro Colin Baker sy’n arbenigwr ar ddwyieithrwydd, “Mae gallu symud yn naturiol o un iaith i’r llall a medru siarad â phobl wahanol yn help i blant deimlo’n dda am eu hunain... gall wneud gwyrthiau i godi hunanbarch plentyn.”

Ar draws y byd peth hollol normal yw siarad dwy, tair neu bedair iaith. Ac erbyn hyn mae ymchwil o sawl rhan o Ewrop yn dangos bod siarad dwy iaith yn ei gwneud hi’n haws dysgu ieithoedd eraill.

Nod yr Undeb Ewropeaidd yw gweld pawb yn siarad eu mamiaith a dwy iaith arall.

Gyda dwy iaith mae plant yn cael dau ddiwylliant a storfa fawr o hanes, caneuon a cherddoriaeth, straeon, llyfrau, chwedlau. Gall hynny roi profiadau a phleser sy’n para oes a rhywbeth arbennig iawn i blant fod yn falch ohono.

A fydda i’n gallu helpu gyda gwaith cartref?

Gyda gwaith cartref, nid eich help chi sy’n cyfrif ond eich cefnogaeth a’ch diddordeb. Does dim rhaid i chi fod yn bianydd da i’ch plentyn gael hwyl ar y piano. Cefnogi a chreu naws braf i ymarfer yw’r peth. Ac mae’r un peth yn wir am waith cartref.

A fydd Saesneg fy mhlentyn yn dioddef wrth dyfu?

Mae ffigyrau gan Estyn (2014) yn dangos bod plant yng nghyfnod allweddol 2 a 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gwneud yn well mewn Saesneg na phlant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Maen nhw’n gwneud yn well o ryw 2 bwynt canran yng nghyfnod allweddol 2 a 5 pwynt canran yng nghyfnod allweddol 3.

A oes angen Cymraeg ar ôl yr ysgol gynradd?

Fyddai neb yn meddwl dweud, rhowch y gorau i fathemateg yn 11 oed – gadael job ar ei hanner fyddai hynny. Er mwyn cael y sgiliau i fedru defnyddio’r Gymraeg mewn swydd yn nes ymlaen a chael yr holl gyfleoedd sy’n dod gyda hynny, mae’n bwysig parhau gyda’r Gymraeg yn yr ysgol uwchradd hefyd. Mae defnydd parhaus yn cynnig cyfleoedd ychwanegol.

Felly, rhowch y cyfle gorau posib i’ch plant – rhowch y cyfle iddyn nhw siarad dwy iaith. Yn Sir Gâr, mae’r cyfle hwnnw ar ein stepen drws.

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani