Craffu

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/03/2024

Mae i’r swyddogaeth graffu rôl allweddol bellach o ran gwella gwasanaethau a ddefnyddir gan pobl a phlant Sir Gaerfyrddin. Hefyd, mae’r swyddogaeth graffu yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod polisïau’r Cyngor yn amlygu blaenoriaethau cyfredol, yn hyrwyddo effeithlonrwydd, ac yn annog cydweithio effeithiol â chyrff allanol. Mae gan Cyngor Sir Caerfyrddin 5 Pwyllgor Craffu:

  • Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg
  • Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio
  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
  • Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

Fel arfer, bydd y Pwyllgorau yn cwrdd 8 gwaith y flwyddyn, tua bob 6 wythnos, er mwyn ystyried pynciau ac adroddiadau sydd wedi eu cynnwys yn y flaenraglen waith graffu, a ddatblygir ar gychwyn pob blwyddyn y cyngor (h.y. Mai - Ebrill). Ar adegau, caiff cyfarfodydd ychwanegol eu trefnu os bydd angen, neu gall cyfarfodydd arbennig / ar y cyd gael eu cynnal er mwyn trafod materion brys neu drawsbynciol. Mae’r pwyllgorau craffu yn wleidyddol gytbwys ac yn adlewyrchu patrwm gwleidyddol y Cyngor cyfan, i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Penodir cadeiryddion ac is-gadeiryddion yn flynyddol gan y Cyngor Sir am gyfnod o flwyddyn (Mai - Ebrill) ar ddechrau blwyddyn y cyngor.

Caiff y rhan fwyaf o benderfyniadau eu cymryd gan y Cabinet sydd ag aelodaeth o 10 cynghorydd. Mae craffu yn cynnig cyfle i’r 65 cynghorydd arall i ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny ac i fod yn ‘ffrind beirniadol’. Hefyd, mae’r swyddogaeth graffu yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod polisïau’r Cyngor yn amlygu blaenoriaethau cyfredol, yn hyrwyddo effeithlonrwydd, ac yn annog cydweithio effeithiol â chyrff allanol.

Prif rolau a chyfrifoldebau’r pwyllgorau craffu yw:

  • Archwilio pa mor dda y mae’r Cabinet a’r Cyngor yn perfformio.
  • Dal y Cabinet yn atebol a cheisio hyrwyddo proses penderfynu agored a thryloyw.
  • Monitro perfformiad gwasanaethau a swyddogaethau’r Cyngor.
  • Adolygu ac archwilio penderfyniadau’r Cabinet lle bo hynny’n briodol.
  • Cynorthwyo’r Cabinet i ddatblygu, monitro, ac adolygu polisïau.
  • Fel rhan allweddol o’r broses ymgynghori, craffu ar strategaeth y gyllideb refeniw a’r rhaglenni buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig.
  • Galluogi sefydliadau a phartneriaid allanol i gyfrannu at ystyried materion a all effeithio ar y modd y cyflawnir blaenoriaethau’r Cyngor a’r sir gyfan.

Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg

Mae’r pwyllgor hwn yn gyfrifol am drosolwg a chraffu ar y Cabinet a’r Portffolios Cabinet canlynol a’u meysydd gwasanaeth perthnasol:-


Cymunedau, Cartrefi & Adfywio

Mae’r pwyllgor hwn yn gyfrifol am drosolwg a chraffu ar y Cabinet a’r Portffolios Cabinet canlynol a’u meysydd gwasanaeth perthnasol:-


Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r pwyllgor hwn yn gyfrifol am drosolwg a chraffu ar y Cabinet a’r Portffolios Cabinet canlynol a’u meysydd gwasanaeth perthnasol:-


Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd

Mae’r pwyllgor hwn yn gyfrifol am drosolwg a chraffu ar y Cabinet a’r Portffolios Cabinet canlynol a’u meysydd gwasanaeth perthnasol:-


Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

Hwn yw’r prif bwyllgor trosfawol sydd a chyfrifoldeb allweddol dros fonitro materion polisi a pherfformiad ar draws yr awdurdod gyfan ynghyd â chraffu ar waith Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin.  Mae’n gyfrifol am drosolwg a chraffu ar y Cabinet a’r Portffolios Cabinet canlynol a’u meysydd gwasanaeth priodol:-

Mae’n ofynnol fod pob Pwyllgor Craffu yn llunio ac yn cyhoeddi rhaglen o waith a gynllunnir yn ystod blwyddyn y Cyngor (h.y. Mai-Ebrill), sy’n cael ei alw’n Blaengynllun (BG). Mae’r BG yn cynnwys amryw o faterion ac adroddiadau a fydd yn cael sylw yn ystod y flwyddyn. Fe’i llunnir, gan amlaf, i adlewyrchu’r materion sy’n deillio o BG y Cabinet.

Datblygir y BG gan aelodau’r Pwyllgor Craffu unigol ac maent hyblyg ei natur fel bod modd i’r pwyllgorau ymateb i faterion brys. Mae’r BG hefyd yn adlewyrchu rôl y pwyllgorau craffu o ran monitro perfformiad, datblygu polisïau a gwaith ymchwil. Mae Pwyllgorau Craffu’r Cyngor Sir wedi datblygu eu BG ar gyfer Mai i Ebrill yn y flwyddyn canlynol ac mae rhain fel arfer, yn cael eu cadarnhau gan y pwyllgorau yn eu cyfarfodydd yn ystod Mai/Mehefin pob blwyddyn.

Gweler Blaengynlluniau diwygiedig diweddaraf

Fel rhan o’i rôl ymchwilio, fe all Pwyllgor Craffu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen pob blwyddyn, o fewn blwyddyn y cyngor.

Is-grwpiau o’r prif bwyllgorau yw rhain fydd yn ymchwilio pynciau penodol. Wedi iddynt adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau a’i argymhellion ac wedi derbyn cymeradwyaeth gweddill y pwyllgor, caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cabinet.       

Nôd y grwpiau gorchwyl a gorffen yw i gyfrannu at ddatblygu polisiau newydd neu i ymgymryd at ddarn o waith ymchwil ac maent wedi bod yn allweddol yn y broses o gryfhau rôl ymchwil / datblygu polisi craffu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhestr yr adolygiadau a gwblhawyd yn ddiweddar isod:

Mae cyfraniad trigolion lleol, sefydliadau a phartneriaid yn y gymuned yn rhan bwysig o broses graffu Sir Gaerfyrddin ac mae ein Cynghorwyr wedi ymrwymo i ymateb i sylwadau a phryderon trigolion.

Cymryd rhan yn y broses graffu yw un o'r ffyrdd gorau o ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn y Cyngor, gan y bydd cynghorwyr yn cael clywed am eich profiadau yn uniongyrchol. Gallwch gymryd rhan yn y gwaith craffu yn y Cyngor mewn nifer o ffyrdd:

  • Mynd i gyfarfod Pwyllgor Craffu
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y broses graffu
  • Awgrymu pwnc i'w adolygu
  • Cyfrannu tystiolaeth at adolygiadau craffu

Mae holl gyfarfodydd Pwyllgorau Craffu yn agored i'r cyhoedd, ac eithrio pan fo angen trafod gwybodaeth eithriedig. Rhestrir dyddiadau cyfarfodydd ac agendâu yn nyddiadur cyfarfodydd y Cyngor. Os hoffech ddod i gyfarfod, yr unig beth y mae'n rhaid ichi ei wneud yw dod i fan cynnal y cyfarfod (a nodir ar flaen yr agenda).

Mae'r broses graffu'n rhoi cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Cyngor. Gallwch wneud cais am osod eitem ar yr agenda, ac os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, yn berchen ar fusnes yn Sir Gaerfyrddin neu'n cael eich cyflogi yno, gallwch ofyn cwestiynau mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Craffu. Rhoddir rhagor o wybodaeth yn ein dogfen, Rheolau'r Weithdrefn Graffu 10.3 a 10.4 neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y broses graffu

Mae nifer o ffyrdd y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y broses graffu, er enghraifft gallwch:

  • Danysgrifio i ffrwd RSS ar ein gwefan a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn awtomatig pan fydd agendâu a chofnodion yn cael eu cyhoeddi. Ystyr RSS yw "Syndicetiad Syml Iawn" ac mae'n ffordd hawdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor Craffu. Mae modd tanysgrifio drwy wasgu'r botwm ar frig y dudalen hon.
  • Lawrlwytho'r ap Modern.gov a fydd yn caniatáu i chi lawrlwytho a gweld papur y cyfarfod yn awtomatig
  • Edrych ar ein ffrwd ar Facebook a Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.

Awgrymu pwnc i'w adolygu

Os ydych yn credu bod pwnc y dylai'r Pwyllgor Craffu ei drafod, rhowch wybod inni. Gallwch awgrymu pwnc i'w adolygu drwy anfon neges e-bost atom, neu drwy lawrlwytho a phostio ein ffurflen awgrymu pwnc.

Cyfrannu tystiolaeth at adolygiadau craffu

Wrth wneud gwaith craffu, yn enwedig adolygiadau manwl, mae cynghorwyr yn gobeithio cael ystod eang o dystiolaeth gan nifer o ffynonellau. Bydd cyflwyno tystiolaeth yn helpu i sicrhau eich bod yn cael lleisio'ch barn a bod y cynghorwyr yn gwneud argymhellion a fydd yn gwella'r gwasanaethau o safbwynt y defnyddiwr. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw faterion a'ch bod am gyflwyno tystiolaeth, cysylltwch â ni:

Y Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP

Ffon: 01267 224028 | E-bost: craffu@sirgar.gov.uk

Cyngor a Democratiaeth