Strategaeth Drawsnewid 2022 - 2027

Pwrpas y Strategaeth Drawsnewid

Prif nod y Strategaeth Drawsnewid yw darparu fframwaith strategol i gynnal rhaglen o newid sefydliadol o bwys fydd yn cefnogi’r Cyngor i gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach fel y’u cyflwynir yn ei Strategaeth Gorfforaethol.

Bydd y Strategaeth Drawsnewid yn cyflwyno nodau ac amcanion i helpu i wireddu gweledigaeth benodol.

Bydd y Strategaeth yn ceisio amlinellu sut mae’r sefydliad yn bwriadu gwella ei allu a’r ffordd mae’n defnyddio ei adnoddau i gynnig mwy o werth a buddion i’w gwsmeriaid a’i drigolion.

Bydd yn ceisio cyflymu’r broses foderneiddio ymhellach fyth ar draws y Cyngor, ac yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, cost-effeithiol yng nghyd-destun amgylchedd allanol heriol.

Bydd y Strategaeth yn ceisio annog ymagwedd gynhwysol ac integredig at drawsnewid sy’n gwneud y defnydd gorau o’i bobl, systemau a phrosesau. Bydd yn ceisio cyflwyno achos busnes dros fuddsoddi ymhellach yn ein staff, adeiladau a thechnoleg ac annog mabwysiadu arferion gweithio modern a chyflymu prosesau. Bydd yn anelu hefyd at ddatblygu’r sgiliau, diwylliant ac ymddygiadau sydd eu hangen i wneud newid yn bosib.

Bydd yn ceisio cyflwyno’r ymagwedd fydd yn sail i weithredu Rhaglen Drawsnewid, fydd yn cynnwys mwy o ffocws ar ‘gyflawni’ a chreu cyflymdra ac egni i gyflawni’r math o newid sydd ei angen.

Dylid ystyried trawsnewid yn broses barhaus, ac o’r herwydd bydd hon yn Strategaeth ddeinamig y bydd angen ei hadolygu a’i diweddaru bob blwyddyn.

 

Strategaeth Gorfforaethol

               

Rhaglen Drawsnewid

               

Strategaeth Drawsnewid

 

 

Trawsnewid – Ein taith hyd yn hyn

Bu Rhaglen TIC y Cyngor yn un o’r prif gyfryngau ar gyfer cefnogi newid a thrawsnewid ar draws y sefydliad yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Prif nod y rhaglen oedd cefnogi’r gwaith o sicrhau ffordd gynaliadwy o drawsnewid y sefydliad; ffordd o weithio fyddai’n galluogi’r Cyngor i gyrraedd ei darged ar gyfer arbedion ariannol, tra’n diogelu safonau ac ansawdd gwasanaethau rheng flaen ar yr un pryd.

Llwyddodd y Rhaglen i gyflawni’r amcanion hynny ac mae wedi helpu datblygu arferion gwaith mwy modern a chydnerth.

 

Ymateb y Cyngor i bandemig Covid-19 – trawsnewid heb ei gynllunio

Ym Mawrth 2020, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin ar fin dechrau un o'r cyfnodau mwyaf heriol a wynebodd llywodraeth leol erioed. Cyflwynodd effaith pandemig Covid-19 ledled y byd heriau unigryw i'r holl wlad, a derbyniwyd y byddai angen i gynghorau fod wrth wraidd yr ymateb lleol i'r argyfwng.

Roedd dyfodiad argyfwng Covid yn golygu fod rhaid i wasanaethau addasu’n gyflym i roi trefniadau amgen ar waith ar gyfer defnyddwyr a staff i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau.

Roedd y Cyngor yn awyddus felly i gofnodi a defnyddio’r hyn a ddysgodd o’i ymateb i’r pandemig – i ddeall beth weithiodd yn dda a beth na weithiodd cystal, a sut allai hynny newid ‘beth rydym yn ei wneud’ a ‘sut rydym yn ei wneud’, yn y dyfodol.