Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Amcan Llesiant 2

Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

  1. Mae tlodi ac amddifadedd yn cael effeithiau niweidiol difrifol ar bob agwedd ar lesiant. Mae dros draean (35.6%) o’n haelwydydd yn parhau i fyw mewn tlodi, sef lefel sydd wedi cynyddu 0.9% dros y deng mlynedd diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i tua 29,500 o aelwydydd, sy’n awgrymu bod bron i 600 o aelwydydd ychwanegol wedi llithro o dan y trothwy incwm dros y deng mlynedd diwethaf. Roedd cyfran fawr o ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar yn cytuno bod tlodi yn broblem yn eu hardaloedd priodol.
  2. Mae costau byw yn cynyddu ar draws y DU, ac mae mwy o deuluoedd sy’n gweithio yn wynebu tlodi.
  3. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae gan Sir Gaerfyrddin boblogaeth sy’n heneiddio, ac mae 11% o boblogaeth y sir dros 75 oed (yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 9.8%). Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r GIG a’r Awdurdod Lleol gynllunio ar gyfer y galw cynyddol disgwyliedig am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Nodwyd mai Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd y thema bwysicaf o ran blaenoriaethu buddsoddiad gan drigolion Sir Gaerfyrddin drwy ymgynghoriad diweddar.
  4. Yr her yw atal afiechyd, mae byw bywydau iach yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial, gwireddu eu dyheadau addysgol, a chwarae rhan lawn yn economi a chymdeithas Sir Gaerfyrddin, ac mae llawer o’r gwasanaethau a’r ymyriadau ataliol y tu allan i iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Rhagwelir y bydd nifer yr achosion o ddementia yn cynyddu’n sylweddol yn y 15 mlynedd nesaf.
  6. Mae salwch meddwl yn rhywbeth bydd un o bob pedwar oedolyn yn ei brofi yn ystod eu hoes. Ar y cyfan, roedd trigolion yn cytuno’n gryf ei bod yn bwysig ystyried cefnogi iechyd meddwl a lles pobl.
  7. Mae digartrefedd, a’r risg o ddigartrefedd, yn peri cryn berygl i lesiant rhywun ac yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol yn ogystal â bod yn arwydd o amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd gwael.
  8. Mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn hybu iechyd a llesiant, gan ddiwallu anghenion unigol y trigolion a chreu cymunedau cynaliadwy cryf a lleoedd y mae pobl am fyw ynddynt. Mae’n dda i’r economi hefyd - er mwyn ffynnu, mae angen i fusnesau newydd gael mynediad hwylus i’w gweithlu a bydd tai o safon yn helpu i ddenu’r garfan hon. Ar y cyfan, roedd y trigolion lleol yn cytuno’n gryf ei bod yn bwysig bod pobl leol yn cael eu cefnogi i brynu cartrefi yn lleol.
  9. Mae cartrefi fforddiadwy o ansawdd da sy’n defnyddio ynni’n effeithlon yn dda i’r bobl a’r amgylchedd – mae cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n dda gyda’r technolegau arloesol diweddaraf nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon ond hefyd yn hybu cynhesrwydd fforddiadwy i’n trigolion.
  • Cymorth a chefnogaeth i liniaru effeithiau’r argyfyngau ‘costau byw’ a thlodi yn y Sir.
  • Gwasanaethau integredig di-dor rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Gwasanaethau hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy sy’n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden.
  • Gwell gwasanaethau ataliol i fodloni gofynion poblogaeth sy’n heneiddio.
  • Gostwng a gweithio tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd.
  • Argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da ac ynni-effeithlon yn y Sir.
  • Cydnabod a cheisio cyfyngu ar y rhwystrau anghymesur y mae grwpiau ymylol yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth sy’n caniatáu iddynt fyw a heneiddio’n dda.
  • Gwell cyfleoedd i’r holl breswylwyr mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol i uwchsgilio ar gyfer cyflogaeth.
  • Cefnogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd lleol boed hynny trwy ddechrau busnes, ennill cymwysterau neu gael cyflogaeth ystyrlon.

Fel Cyngor byddwn yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth a ganlyn a bydd cynlluniau cyflawni manwl ar wahân yn amlinellu ein dull o wneud cynnydd yn erbyn ein canlyniadau ym mhob un o’r meysydd.

Mae tlodi ac amddifadedd yn cael effeithiau niweidiol difrifol ar bob agwedd ar lesiant. Mae’n cyfyngu ar y cyfleoedd a’r gobeithion ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn niweidio ansawdd bywyd teuluoedd a chymunedau.

Gall tlodi fod yn rhwystr o ran cyfrannu’n llawn at gymdeithas, ac yn rhy aml o lawer mae’n brofiad sy’n pontio’r cenedlaethau ac sy’n peri bygythiad sylweddol i lesiant cadarnhaol yn awr ac yn y dyfodol.

Gyda phwysau ychwanegol yr argyfwng costau byw yn effeithio ar drigolion, busnesau a sefydliadau, mae angen dull cwbl integredig a chydweithredol o ymateb a chefnogi yn y meysydd y gallwn ddylanwadu arnynt.

Mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn ogystal â buddsoddiad sylweddol parhaus mewn cartrefi presennolyn hybu iechyd a llesiant, gan ddiwallu anghenion unigol y trigolion ac adeiladu cymunedau a lleoedd cydnerth a chydlynol y mae pobl eisiau byw ynddynt. Bydd gwaith ar gartrefi presennol ac argaeledd darpariaeth newydd ar draws ein cymunedau gwledig a threfol ar draws y Sir yn allweddol i alluogi cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol ar draws ystod o feysydd grŵp cleientiaid yn debygol o weld cynnydd yn y galw dros y blynyddoedd nesaf ac wrth i’r sector wynebu pwysau sylweddol o ran capasiti’r gweithlu, mae angen hoelio sylw ac ymateb yn arloesol.

Bydd datblygu’r gwaith o gydweithio ac integreiddio ymhellach ag iechyd yn hanfodol i gyflawni’r egwyddorion a’r safonau allweddol sy’n ymwneud ag atal, llif systemau, gofal rhagweithiol a gofal wedi’i gynllunio, a gofal hirdymor. Y nod hirdymor yw, lle bynnag y bo modd, helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth gartref cyhyd â phosibl, atal derbyniadau diangen i’r ysbyty a chefnogi rhyddhau amserol o’r ysbyty i sicrhau bod y rhai sydd angen gofal ysbyty da yn gallu cael mynediad ato.