Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Amcan Llesiant 3

Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

 

Pam y mae hyn yn bwysig?

1. Mae darparu swyddi diogel sy’n talu’n dda i bobl leol yn hanfodol gan fod cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i drechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Mae hyn yn cael effaith ddramatig ar ein hiechyd a’n gallu i weithredu mewn cymdeithas bob dydd.

2. Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd anweithgarwch economaidd uchel. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i dwf yn Sir Gaerfyrddin, gan fod y rhai economaidd anweithgar yn cynrychioli ffynhonnell sylweddol o gyflenwad llafur sy’n elfen hanfodol o farchnad lafur sy’n gweithredu’n dda. Mae hyn hefyd yn peri pryder o ystyried y gall bod yn segur am gyfnod hir o amser gael effaith negyddol ar lesiant, iechyd a boddhad bywyd person.

3. Rhwystr i gyflogaeth i lawer yw diffyg cymwysterau neu sgiliau. Mae hyn yn berthnasol i’r rhai nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl a’r rhai sy’n dymuno ail-sgilio neu uwchsgilio i wella eu hunain a cheisio cyflogaeth lefel uwch neu swydd arall. Mae hwn yn fater perthnasol i Sir Gaerfyrddin, gan fod gan y sir nifer uwch na’r cyfartaledd o bobl heb unrhyw gymwysterau a chyfran is na’r cyfartaledd o bobl â chymwysterau lefel uwch.

4. Mae cyfraddau genedigaethau busnes yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf o gymharu â chyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r cyfradd dechrau busnes segur hon yn rhwystr i dwf ac yn awgrymu diffyg hyder a chapasiti o fewn yr economi. Mae tystiolaeth a amlygwyd mewn gwaith diweddar ar ragolygon Arloesi ar gyfer y sir yn awgrymu bod gallu entrepreneuraidd posibl y sir ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Felly, er bod angen cymorth perthnasol ar fusnesau presennol y sir, mae angen canolbwyntio hefyd ar greu ecosystem sy’n harneisio’r ysbryd entrepreneuraidd presennol a gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle deniadol i ddechrau busnes.

5. Nodweddir y sir gan fentrau micro a bach sy’n cyfrif am 97.2% o gyfanswm demograffeg busnesau. Er mai dyma sylfaen ecosystem economaidd a diwylliannol y sir, mae eu trosiant blynyddol cyfun yn sylweddol is na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu gan 430 (2.8%) o fentrau canolig a mawr y sir. Os ydym am wireddu twf economaidd nodedig a chynyddu cynhyrchiant, mae angen canolbwyntio ar gefnogi’r busnesau hyn i uwchraddio. Amlygwyd yr economi leol fel y drydedd thema bwysicaf ar gyfer blaenoriaethu buddsoddiad gan ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar. Roedd hyn yn cynnwys is-themâu megis buddsoddi mewn busnesau lleol ac adfywio canol trefi.

6. Mae mynediad at wasanaethau yn her mewn rhai achosion oherwydd dwysedd poblogaeth is a gwledigrwydd. Mae pellteroedd teithio mawr yn cynyddu’r amser a’r gost ar gyfer cyrchu gwasanaethau, a all lesteirio gallu unigolyn i deimlo’n gysylltiedig â’i gymunedau, gwaethygu unigedd a lleihau teimladau o falchder a pherthyn lleol. Mae hyn yn berthnasol iawn i grwpiau sydd ar y cyrion. Mae canfyddiadau arolwg diweddar o drigolion Sir Gaerfyrddin yn amlygu, er bod cytundeb cyffredinol ymhlith yr ymatebwyr y gallant gael mynediad hawdd at wasanaethau, roedd cyfran fawr yn anghytuno.

7. Mae cludiant a phriffyrdd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chynnal ein cymunedau, mae’n darparu’r seilwaith hanfodol sy’n cysylltu pobl â’i gilydd, yn dod â chymunedau ynghyd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae economi lwyddiannus a modern yn dibynnu ar symud pobl a nwyddau yn effeithlon ac yn ddiogel a rhoi cyfleoedd i bobl gael mynediad at gyflogaeth, addysg, iechyd, hamdden a siopa.

Roedd rhan fwyaf yr ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf bod cysylltiadau trafnidiaeth da o’u cwmpas.

8. Mae ardaloedd yn y sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig llifogydd. Mae ychydig dros 15,000 o eiddo (preswyl yn bennaf) yn y sir ar hyn o bryd mewn rhyw lefel o berygl llifogydd. Mae 3,151 o’r tai hyn mewn perygl mawr. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu nifer y tai, seilwaith a gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd. Bydd lleoedd nad ydynt yn gorlifo ar hyn o bryd yn troi’n rhai lle mae perygl o lifogydd a bydd y rhai sydd eisoes mewn perygl o lifogydd o dan fwy o risg.

Amlygwyd bygythiadau’r argyfyngau hinsawdd a natur gan drigolion fel pryder. Cyfeiriwyd yn arbennig gan rai at y bygythiadau a achosir gan lifogydd.

9. Mae amgylchedd naturiol bioamrywiol yn dda ar gyfer llesiant, gydag ecosystemau iach a gweithredol, sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Mae cynllunio yn rhan annatod o wireddu gweledigaeth y Cyngor.

10. I leihau allbynnau carbon a chyrraedd targedau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ni gyflawni ein Strategaeth Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu a chyrraedd ein targedau ailgylchu statudol (70% erbyn 2025 / 100% erbyn 2050) a rhwymedigaethau ehangach gan gynnwys gwella ansawdd deunyddiau ailgylchadwy neu wynebu cosbau ariannol.

11. Mae data Cyfrifiad diweddaraf 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg, sef 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Mae’r ffigur hwn yn ostyngiad o 5,210 ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011, sy’n cyfateb i ostyngiad pwynt canran o 4.0. Dyma’r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru. Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011. Mae’r ffigurau newydd hyn yn golygu bod gan y sir bellach yr ail nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl awdurdodau lleol Cymru a’r pedwerydd uchaf o ran y ganran o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r sir yn parhau i fod yn gadarnle strategol allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg ac mae manteision cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd yn cael eu cydnabod yn eang. Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy’r arolwg trigolion yn dangos bod ymatebwyr yn gyffredinol yn cytuno ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a’i diogelu.

Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy’r arolwg trigolion yn dangos bod ymatebwyr yn cytuno ar y cyfan ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i diogelu.

12. Mae cyfraddau troseddu yn cynyddu mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag mae’r sir yn parhau i fod ymhlith yr ardaloedd mwyaf diogel yn y DU, ac mae Sir Gaerfyrddin yn y 13eg safle mwyaf diogel o’r 22 sir yng Nghymru gyda chyfradd o 83.6 o droseddau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Ar y cyfan, roedd cytundeb bod trigolion yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.

  • Cefnogi busnesau a darparu cyflogaeth.
  • Cefnogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd lleol boed hynny trwy ddechrau busnes, ennill cymwysterau neu gael cyflogaeth ystyrlon.
  • Cefnogi busnesau i fanteisio ar gadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd caffael.
  • Pobl yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i fyw bywydau egnïol ac iach trwy fynediad at wasanaethau a darpariaeth sy’n addas i’r diben
  • Ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau ailgylchu cenedlaethol.
  • Parhau i weithio tuag at ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030.
  • Ceisio gwella argaeledd a fforddiadwyedd lleoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws y sir, i fynd i’r afael ag un o’r rhwystrau cyffredin a wynebir gan unigolion sy’n dymuno dychwelyd i, neu ddod o hyd i gyflogaeth.
  • Ceisio gwella mynediad at wasanaethau trwy well rhwydweithiau trafnidiaeth a seilwaith.
  • Gwella datblygiadau presennol ac archwilio datblygiadau newydd i gyfyngu ar effeithiau llifogydd a bygythiadau amgylcheddol eraill sy’n effeithio ar ein trigolion a defnyddwyr gwasanaeth.
  • Cynnal cyfraddau troseddu isel a pharhau i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r cyfraddau cynyddol sy’n amlwg mewn rhai ardaloedd o’r sir.
  • Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
  • Mwy o hyder a defnydd o’r Gymraeg fel iaith lewyrchus.

Fel Cyngor byddwn yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth a ganlyn a bydd cynlluniau cyflawni manwl ar wahân yn amlinellu ein dull o wneud cynnydd yn erbyn ein canlyniadau ym mhob un o’r meysydd.

Mae cryfder ein heconomi leol yn ganolog i lesiant ehangach ein cymunedau ac wrth symud ymlaen byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion adfywio ar ddatblygu ein busnesau, ein pobl a’n lleoedd. Yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol byddwn yn galluogi Sir Gaerfyrddin i ddod yn fwy cynhyrchiol wrth fod yn fwy cyfartal, yn wyrddach ac yn iachach ac yn cefnogi gwydnwch a thwf busnesau a chymunedau.

Mae’r Amgylchedd Naturiol yn elfen greiddiol o ddatblygu cynaliadwy. Mae’r Cyngor eisoes wedi datgan ei ymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur a bydd yn parhau ar ei lwybr tuag at ddod yn Awdurdod Lleol Carbon SeroNet erbyn 2030 a mynd i’r afael â’r materion sy’n sbarduno dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi adferiad byd natur.

Mae Sir Gaerfyrddin yn gadarnle ar gyfer y Gymraeg ac ystyrir bod y sir o bwysigrwydd strategol mawr i ddyfodol yr iaith. Mae dwyieithrwydd o fudd i’r economi ac i unigolion drwy fuddion gwybyddol a chymdeithasol. Byddwn yn gweithio tuag at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a chefnogi defnydd cyson o’r iaith ar draws pob agwedd ar ein bywydau bob dydd.

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol yn cael effaith gadarnhaol amlwg ar ddechrau’n dda, byw’n dda a heneiddio’n dda. Rydym am i genedlaethau’r dyfodol gael eu trwytho yn niwylliant cryf, diddorol a chwbl unigryw Sir Gaerfyrddin sy’n adlewyrchu ein gorffennol ac yn llywio ein dyfodol.

Mae diogelwch a theimlad o berthyn yn bwysig i lesiant personol ac mae rhagor o bobl bellach yn gwerthfawrogi pwysigrwydd caredigrwydd a bod yn rhan o gymuned. Mae cefnogi cymunedau cydlynol a sicrhau bod y rhai o gefndiroedd gwahanol yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo’n ddiogel yn eu cymdogaeth, a bod ganddynt ymdeimlad o barch at ei gilydd a gwerthoedd a rennir yn ganolog i gael cymunedau gweithredol a ffyniannus.

Mae Cydnerthedd Cymunedol hefyd yn hanfodol er mwyn galluogi cymunedau i ymateb i sefyllfaoedd andwyol, eu gwrthsefyll a’u hadfer. Pan fydd cymunedau’n gallu gweithio gyda’i gilydd i gefnogi ei gilydd mae’n meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn sy’n allweddol ar gyfer llesiant cymdeithasol.

Mae Chwaraeon a hamdden, diwylliant a hamdden awyr agored yn ganolog yn ein cymunedau. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu ystod o weithgareddau, cyfleusterau a rhaglenni iechyd a llesiant i gefnogi ein trigolion a’n cymunedau i fyw bywydau iach, diogel a llewyrchus.

Yn yr un modd mae hyrwyddo ein Sir fel lle deniadol a masnachol hyfyw i ymweld ag ef a buddsoddi ynddo yn ffactor economaidd a llesiant allweddol.

Byddwn yn parhau i ddatblygu’r gwasanaethau hyn mewn ymateb i anghenion ein trigolion, busnesau ac ymwelwyr.

Mae economi gylchol yn cadw adnoddau a deunyddiau mewn defnydd cyhyd . phosibl ac yn osgoi pob gwastraff. Mae symud i economi gylchol yn allweddol i gyflawni canlyniadau amgylcheddol hanfodol o ran y cyfle i leihau ein hallyriadau carbon a’n heffaith ar adnoddau naturiol wrth gynorthwyo adferiad byd natur. Byddwn yn sicrhau ein bod yn datblygu dull newydd o reoli gwastraff sy’n ymgorffori egwyddorion yr economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin.

Mae ein rhwydweithiau priffyrdd a thrafnidiaeth yn sail i ffyniant economaidd Sir Gaerfyrddin, gan hwyluso mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a dysgu, cysylltiadau cymdeithasol, iechyd, hamdden, teithio llesol a darparu gwasanaethau sy’n cyffwrdd â phob cartref bob dydd. Mae cysylltedd a hygyrchedd yn ganolog i hwyluso llesiant economaidd a chymdeithasol a byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella ein seilwaith lleol i gefnogi ein cymunedau.