Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Cyflwyniad gan Wendy Walters, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae’n bleser gennyf gyflwyno’r Strategaeth Gorfforaethol hon ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n nodi ein cyfeiriad a’n blaenoriaethau fel sefydliad.

Wrth ddatblygu’r Strategaeth hon rydym wedi neilltuo amser i adlewyrchu ac adnewyddu ein hymagwedd yn dilyn trafodaeth ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys cynghorwyr, swyddogion a phartneriaid allanol. Rydym hefyd wedi ceisio adborth gan drigolion, staff, busnesau ac undebau llafur ar eu barn am y Cyngor a’i flaenoriaethau ac mae’r safbwyntiau hyn wedi llywio ein hamcanion llesiant.

Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, myfyrio ar ein profiadau o’r pandemig, ac edrych i’r dyfodol at y cyfnod hynod heriol sydd o flaen gwasanaethau cyhoeddus o ran galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol, rydym wedi mabwysiadu agwedd newydd at ein Strategaeth Gorfforaethol a’n hamcanion llesiant drwy ganolbwyntio ar lai o amcanion sy’n seiliedig ar boblogaeth wrth nodi ein blaenoriaethau thematig, blaenoriaethau gwasanaeth a galluogwyr busnes craidd.

Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y canlynol:

  1. Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)
  2. Galluogi ein Trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)
  3. Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)
  4. Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

Wrth wraidd y dull hwn mae integreiddio a chydweithio ar draws y Cyngor a chyda’n rhanddeiliaid, a byddwn yn canolbwyntio wrth symud ymlaen ar:

 

Datblygu Sir Gâr Gyda’n gilydd: Un Cyngor; Un Weledigaeth; Un Llais

 

Yn y Strategaeth hon rydym wedi nodi cyfres o flaenoriaethau thematig a gwasanaeth sy’n cyd-fynd â’n hamcanion llesiant. Bydd cynlluniau cyflawni manwl yn amlinellu’r camau i’w cymryd ar gyfer pob blaenoriaeth thematig a gwasanaeth a bydd mesurau clir i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcan llesiant cyffredinol.

Yn ystod cwrs y Strategaeth hon, byddwn yn herio’r sefyllfa bresennol yn barhaus, yn gofyn cwestiynau i ni ein hunain ynglŷn â sut yr ydym yn gweithredu ac yn ystyried arfer gorau yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn hunanasesu ein perfformiad yn feirniadol ac yn ceisio adborth gan randdeiliaid fel y gallwn barhau i ddysgu a gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio.

Ein staff sy’n ysgogi’r Cyngor ac mae eu hymrwymiad a’u penderfyniad i wneud eu gorau dros bobl Sir Gaerfyrddin yn rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono.

Wrth inni ddechrau ar gyfnod heriol arall i wasanaethau cyhoeddus, byddaf yn sicrhau bod y Cyngor yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb i beth bynnag a ddaw yn sgil hynny.O ran y dyfodol, mae ffocws ar drawsnewid gwasanaeth parhaus yn mynd i fod yn bwysig iawn, a byddaf yn hybu’r trawsnewidiad hwn o fewn y sefydliad i wneud yn siŵr ein bod yn gallu addasu, bod yn arloesol ac ymateb gydag anghenion ein trigolion yn ganolog i bopeth a wnawn er gwaethaf yr heriau sydd o’n blaenau.