Cadeirydd 2023 - 24

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/12/2023

Y Cynghorydd Louvain Roberts yw Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023/2024.

Fe’i hetholwyd yn Gadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 24ain Mai 2023, a bydd yn gwasanaethu tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf a gynhelir ym mis Mai 2024. 

Mae'r Cynghorydd Roberts wedi bod yn Gynghorydd Sir ers mis Mai 2017 ac yn aelod o Gyngor Tref Llanelli.

Mae'n cynrychioli'r Cyngor Sir yn Ward Glanymôr yn Llanelli, ac mae'n Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, yn rhan o Gyrff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Coedcae ac Ysgol Penrhos, ac yn cynrychioli'r Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda, Bwrdd Rheoli Cymdeithas Tai Teulu, a Rhodd May Price SRN.

Mae'r Cynghorydd Roberts wedi ymddeol o'i swydd flaenorol fel bydwraig ond mae'n ei chadw ei hun yn brysur gyda'i diddordebau mewn gwaith elusennol, darllen a nofio, ac mae'n aelod o'r Grŵp Gwau a Sgwrsio lleol.

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.

Fel arfer, mae Cadeirydd y Cyngor Sir yn codi arian ar gyfer elusennau lleol yn ystod y cyfnod wrth y llyw. Bydd y Cynghorydd Roberts wedi dewis Canolfan Deuluol St Paul’s, Ymatebwyr Cyntaf Llanelli a Hosbis Tŷ Bryngwyn, Llanelli fel ei helusennau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Y Cynghorydd Handel Davies yw'r Is-gadeirydd ar gyfer 2024/2025.