Proffil Wardiau Etholiadol a Sirol

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/05/2022

Mae Sir Gaerfyrddin yn sir amrywiol iawn o ran ei phobl a'i daearyddiaeth. Y drefn a fu oedd bod y sir yn cynnwys 58 o wardiau etholiadol gyda 74 o aelodau etholedig. Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad sylweddol o ffiniau etholiadol gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, o etholiadau lleol Mai 2022 ymlaen, bydd y sir yn cynnwys 51 o wardiau a 75 o aelodau. Gellir dod o hyd i'r ffiniau wardiau newydd o fis Mai 2022 ymlaen ar y tudalennau canlynol  - Rhanbarthau Etholiadol

Mae gan y newid hwn rai goblygiadau o ran data'r Llywodraeth rydym yn ei ddefnyddio i gynhyrchu nifer o'n hadnoddau. O'r herwydd, mae'r proffiliau ward sydd ar gael isod yn gysylltiedig â hen ffiniau'r wardiau, tra byddwn yn aros i'r data diweddaraf gael ei ryddhau yn seiliedig ar y ffiniau daearyddol newydd. Mae'r proffiliau'n defnyddio ystod eang o ffynonellau data, sef Cyfrifiad 2021 yn bennaf, gyda'r data i'w ryddhau o fis Gorffennaf 2022. Ar ôl eu diweddaru, bydd proffiliau'r wardiau yn rhoi darlun clir a chynrychioliadol o wardiau'r sir, yn seiliedig ar y data diweddaraf hwn oedd ar gael.

I gael gwybod pryd bydd y proffiliau ward hyn ar gael neu i gael rhagor o wybodaeth neu gymorth gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â data, cysylltwch â ni data@sirgar.gov.uk

Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r proffiliau (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021) yn cynnwys ffynonellau gwybodaeth newydd gan gynnwys:

  • Ystadegau Amcangyfrif Poblogaeth Canol Blwyddyn 2019 (Swyddfa Ystadegau Gwladol, ONS)
  • Data am nodweddion poblogaeth, cyfansoddiad cartrefi a statws gweithgaredd economeg (Cyfrifiad 2011)
  • Math o Dai a Daliadaeth (Cyfrifiad 2011)
  • Amcangyfrif Incwm Cartrefi (CACI 'Paycheck' 2020)
  • Data NS-Sec (safle economeg gymdeithasol yn seiliedig ar alwedigaeth, Cyfrifiad 2011)
  • Yr ystadegau'r farchnad llafur a budd-daliadau diweddaraf
  • Ystadegau Troseddau Cofnodedig 2020-2021 (Heddlu Dyfed Powys)

Cyngor a Democratiaeth