Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Drafft 2019
- Y cyfnod ymgynghori: 06/02/2019 - 01/05/2019 ~ 16:00
- Cynulleidfa: Pob preswylydd, busnes a sefydliad.
- Ardal: Unrhyw Ward/Ardal
- Adran / gwasanaeth y Cyngor: Amgylchedd, Stephen Pilliner
Pam yr ydym yn ymgynghori
Mae Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin yn manylu ar sut y bydd y Cyngor Sir yn cynllunio'n strategol ar gyfer rheoli, datblygu a hyrwyddo'r rhwydwaith hawliau tramwy, a thir arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
Rydym wedi drafftio Cynllun Gwella Hawliau Tramwy diwygiedig ar gyfer y Sir yn lle'r Cynllun blaenorol, gan gymryd i ystyriaeth yr amrywiol newidiadau sy'n effeithio ar ddarpariaeth mynediad cyhoeddus sydd wedi digwydd yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.
Er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd, busnesau a sefydliadau wneud sylwadau ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy diwygiedig cyn iddo gael ei gwblhau, byddwn yn ymgynghori ynghylch y ddogfen ddrafft am 12 wythnos.
Sut i gymryd rhan
Llenwch yr arolwg ar-lein. Neu, os byddai'n well gennych, gallwch anfon sylwadau ysgrifenedig at SMB-Carmarthenshire.rowip@capita.co.uk neu at sylw: Martin Dolan, Capita, St David’s House, Pascal Close, Llaneirwg, Caerdydd. CF3 0LW
Camau nesaf
Defnyddir yr adborth i lywio dogfen derfynol y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a fydd yn cael ei chyhoeddi ac ar gael i'r cyhoedd mewn amrywiol fformatau.
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau, ASau a ASEau
- Eich Cynghorydd Sir
- Sut mae bod yn Gynghorydd
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Cynulliad Cymru
- Aelodau Seneddol
- Aelodau Senedd Ewrop
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
Canllawiau Brexit
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth