Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/02/2024

Mae addysg yn y cartref yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pryd mae rhieni a gofalwyr yn addysgu eu plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol. Nid yw addysgu eich plentyn yn y cartref yn benderfyniad y dylid ei wneud ar chwarae bach. Bydd yn golygu ymrwymiad mawr o ran eich amser, eich egni a'ch arian.

Os ydych yn ystyried addysgu'ch plentyn gartref, bydd angen ichi ddarparu addysg addas. Dylai'r arddull dysgu fod yn:

  • Eang: Dylai'r addysg gyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i'r plant.
  • Cytbwys: Dylid dyrannu amser digonol i bob Maes Dysgu.
  • Perthnasol: Dylid addysgu pynciau o ran profiadau personol y disgybl a'i fywyd fel oedolyn a dylid bod yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol.
  • Gwahaniaethol: Cyd-fynd â galluoedd a dawn y plentyn.

Mae gennych yr hawl i addysgu eich plentyn yn y cartref ar yr amod eich bod yn bodloni gofynion Adran 7 Deddf Addysg 1996, sy'n rhoi dyletswydd ar rieni pob plentyn o oedran ysgol gorfodol i dderbyn addysg amser llawn effeithlon sy'n addas ar gyfer eu hoedran, eu gallu a'u dawn, ac ar gyfer unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod ganddynt, naill ai drwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall.

Gellir dehongli'r ymadrodd "amser llawn" yn wahanol, gan fod addysg plentyn gartref yn aml yn cael ei lunio ar sail unigol. Os ydych yn penderfynu addysgu eich plentyn yn y cartref, mae'n rhaid i chi fod yn barod i ysgwyddo'r holl gyfrifoldeb ariannol, gan gynnwys unrhyw gostau archwilio cyhoeddus. Mae'n bwysig iawn eich bod yn ystyried natur yr addysg yr ydych yn bwriadu ei chyflwyno i'ch plentyn cyn eich bod yn dechrau ei addysgu yn y cartref. Er enghraifft, dylech feddwl am y meysydd dysgu a phrofiad y byddwch yn eu darparu ac a fyddant yn caniatáu i’ch plentyn gyrraedd ei botensial, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan gynnwys a yw eich plentyn yn dymuno sefyll arholiadau cyhoeddus fel TGAU.

Mae cwricwlwm da yn cynnwys addysg bersonol a chymdeithasol, addysg iechyd, addysg awyr agored ac amgylcheddol, dinasyddiaeth, gyrfaoedd, technoleg bwyd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Mae cyfleoedd i gymysgu a chysylltu â phlant eraill ac oedolion hefyd yn bwysig i ddatblygiad personol a chymdeithasol plentyn.

Mae'r gyfraith yn mynnu bod plentyn yn cael addysg o ddechrau'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bum oed tan y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol y mae'n 16 oed.

Rydym yn parchu'r hawl i addysgu eich plentyn yn y cartref ac yn anelu at ddarparu gwybodaeth ac arweiniad i rieni sy'n ystyried neu sydd wedi penderfynu addysgu eu plant yn y cartref.  

Os yw eich plentyn yn yr ysgol, dylech ysgrifennu at y pennaeth i adael iddo wybod am eich bwriad i gymryd cyfrifoldeb am addysg eich plentyn a’i dynnu oddi ar y gofrestr. Bydd y pennaeth wedyn yn tynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr a rhoi gwybod i'r awdurdod lleol.

Os byddwch yn tynnu eich plentyn o’r ysgol heb roi gwybod i'r ysgol yn ysgrifenedig (nid yw hysbysu’r ysgol ar lafar yn ddigon) gallech gael eich erlyn am nad yw’n mynychu  o dan adran 444(1)(1A) o Ddeddf Addysg 1996. Nid oes angen caniatâd yr awdurdod lleol arnoch i addysgu eich plentyn yn y cartref (oni bai bod eich plentyn ar gofrestr ysgol arbennig).

Os nad yw eich plentyn erioed wedi mynychu'r ysgol, argymhellir yn gryf eich bod yn rhoi gwybod inni oherwydd gallech gael cefnogaeth, ffoniwch ni ar 01554 742369 neu anfonwch e-bost at: EHEenquiries@sirgar.gov.uk

Pan fydd yr hysbysiad wedi dod i law, bydd un o’r Ymgynghorwyr Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) yn cysylltu â chi ac yn cadarnhau bod eich plentyn wedi’i dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol o dan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010, a byddant yn trefnu ymweliad/cyfarfod i drafod addysg eich plentyn a chynnig cyngor a gwybodaeth.

Dylai'r cyfarfod cychwynnol gyda'r Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref gael ei gynnal cyn pen pedair wythnos ysgol wedi ichi benderfynu darparu addysg yn y cartref. Byddwn yn cyfarfod â chi i drafod ein rôl wrth fonitro addysg eich plentyn. Gorau oll bod eich plentyn yn dod i'r cyfarfod er mwyn inni gael gwell dealltwriaeth o'i ddymuniad a'i farn a beth sy'n bwysig iddo/iddi.

Cytunwyd ar becyn cymorth gydag awdurdodau lleol unigol ac fe'i hamlinellir isod.

  • Mae gan deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref gyfle i sefyll arholiadau mewn canolfan leol.
  • Mae teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref yn gallu gofyn i awdurdodau lleol benderfynu a oes gan eu plentyn ADY (anghenion dysgu ychwanegol).
  • Mae teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref yn gallu gwneud atgyfeiriadau i'w plentyn gael mynediad at gwnsela.
  • Dylai teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref fod yn ymwybodol o brosesau atgyfeirio at gynghorwyr gyrfaoedd. • Mae mynediad gwell ar gael i lyfrgelloedd (i fenthyg mwy o lyfrau).
  • Bydd awdurdodau lleol yn darparu cynnig lleol, sy'n cynnwys cynnig gweithgaredd lleol pwrpasol a dyraniad o ddeunyddiau, lle mae unrhyw arian grant addysgu yn y cartref yn caniatáu hynny.
  • Bydd gan deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref fynediad i safleoedd Cadw.
  • Bydd teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref yn cael eu atgyfeirio at gymorth iaith Gymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan hon mewn perthynas â’r cynnig hwn ond cysylltwch â’r tîm EHE os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol: ffoniwch ni ar 01554 742369 neu anfonwch e-bost at EHEenquiries@sirgar.gov.uk

Yn ogystal, rydym am weithio gyda'r holl rieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref ac anelu at:

  • darparu cyngor a chymorth ar faterion y cwricwlwm
  • darparu gwybodaeth am sefydliadau sy'n cynorthwyo'r rheiny sy'n addysgu yn y cartref
  • darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaeth Gyrfa Cymru
  • darparu gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau cymorth

Os nad yw’r awdurdod lleol yn sicr eich bod yn darparu addysg addas, naill ai oherwydd diffyg gwybodaeth gennych chi, neu oherwydd nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd gennych yn ei gwneud yn glir bod yr addysg yn addas ac effeithlon, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i ymgysylltu â chi. Gwneir pob ymdrech i ddatrys materion am y ddarpariaeth drwy broses o gynnal trafodaeth barhaus.

Os na fydd y drafodaeth yn llwyddiannus a bod yr awdurdod lleol, ar ôl gwneud pob ymdrech resymol drwy drafod â chi, yn parhau i fod yn anfodlon bod yr addysg yr ydych yn ei darparu yn addas ac yn effeithlon, byddwn yn dilyn prosesau ffurfiol a amlinellir mewn deddfwriaeth. Mae 2.15 Adran 437(1) Deddf Addysg 1996 yn nodi ‘Os yw’n ymddangos i awdurdod addysg lleol nad yw plentyn o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal yn cael addysg addas, naill ai drwy bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol neu fel arall, bydd yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant yn ei gwneud yn ofynnol iddo fodloni’r awdurdod o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad bod y plentyn yn cael addysg o'r fath'.

Bydd yr hysbysiad hwn yn caniatáu cyfnod o 15 diwrnod o leiaf i rieni ddarparu gwybodaeth bellach inni ynghylch addasrwydd yr addysg. Gall y rhiant ddewis gwneud hyn trwy gwrdd â'r Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref naill ai gartref neu mewn lleoliad y cytunwyd arno.

Ar ôl derbyn yr hysbysiad o fwriad, gall y teulu naill ai ddarparu gwybodaeth am addysg yn y cartref, neu herio barn yr awdurdod nad yw addysg yn digwydd.

Fodd bynnag, os yw’r awdurdod lleol yn dal i fod â phryderon, ac felly’n ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r plentyn fynychu’r ysgol, rhaid iddo gyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol (SAO) i’r rhiant neu ofalwr. Ar unrhyw adeg yn ystod yr achos, gall y teulu achosi i’r Gorchymyn Mynychu’r Ysgol gael ei atal trwy roi tystiolaeth neu ddangos fel arall i’r awdurdod lleol bod y plentyn yn cael addysg addas yn y cartref.

 

 

Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae gennych yr un hawl i'w addysgu yn y cartref, ond mae'n rhaid ichi wneud darpariaeth addas ar gyfer ei anghenion. Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn mynychu ysgol arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd yr awdurdod lleol cyn ei dynnu oddi ar gofrestr yr ysgol a gofyn i’r awdurdod lleol ddiwygio datganiad eich plentyn neu adolygu ei CDU.

Os oes gan eich plentyn CDU neu ddatganiad, bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol am gyfnod y CDU neu'r datganiad, a fydd yn cynnwys adolygu a yw geiriad y cynllun yn dal yn briodol ac a oes angen iddo barhau yn ei le. Mae'r hawl i apelio i Tribiwnlys Addysg Cymru neu Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn dal yn berthnasol.

Gall rhieni a gofalwyr plentyn sy’n cael ei addysgu yn y cartref nad oes ganddo CDU neu ddatganiad ofyn i’r awdurdod lleol benderfynu (adran 13 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘Deddf 2018’)) a oes gan eu plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, mae'n rhaid iddo baratoi CDU ar gyfer y plentyn (adran 14 o Ddeddf 2018).

Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y plentyn ADY, rhaid iddo baratoi a chynnal CDU a sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun hwnnw . Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu y Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn uniongyrchol. Er enghraifft, pan fo'r CDU yn nodi’r Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol fel cymorth un-i-un, gallai hyn gael ei ddarparu gan y rhiant neu’r gofalwr sy’n addysgu’r plentyn yn y cartref (gweler paragraffau 18.21 i 18.23 o’r Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru). 2021). Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod y Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn cael ei chyflawni. Byddai hyn yn cael ei asesu fel rhan o'r adolygiad CDU a gynhelir gan yr awdurdod lleol yn flynyddol.

O dan Adran 175(1) Deddf Addysg 2002 mae dyletswydd ar yr Awdurdod Addysg Lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

Mae'r adran hon yn nodi: 'Bydd awdurdod addysg lleol yn gwneud trefniadau i sicrhau bod y swyddogaethau a roddwyd iddo yn ei rôl fel awdurdod addysg lleol yn cael eu harfer gyda'r bwriad o ddiogelu a hyrwyddo lles plant.'

Mae Deddf Plant 2004 ('Deddf 2004') yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau plant. Mae Adran 10 Deddf 2004 yn nodi fframwaith statudol ar gyfer trefniadau cydweithredol i'w dilyn gan awdurdodau lleol gyda'r bwriad o wella lles plant yn eu hardal.

Nid yw penderfyniad rhiant i addysgu yn y cartref yn sail ynddo'i hun i bryderu am les y plentyn. Fodd bynnag, yn yr un modd â phlant sy'n cael eu haddysgu yn yr ysgol, efallai bydd materion lles plant yn codi mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Os daw materion lles plant i'r golwg wrth weithio gyda phlant a theuluoedd, rhaid rhoi gwybod am y pryderon hyn syth a gweithredu'n briodol.

Os hoffech anfon eich plentyn i ysgol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cais ar-lein am le mewn ysgol. Os hoffech gyngor a chymorth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Lles Addysg drwy e-bost educationwelfare@sirgar.gov.uk  neu ffoniwch  01554 742369.

Gwneud cais am le mewn ysgol

Er mwyn ein helpu i gynnal cofnodion cywir, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi gwybod i'r Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref am unrhyw newid cyfeiriad yn ysgrifenedig neu drwy ffonio ni ar 01554 742369 neu anfon e-bost at EHEenquiries@sirgar.gov.uk.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu rhywfaint o gyllid grant i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, i gydnabod y costau ychwanegol sydd gan deulu sy'n addysgu yn yg cartref wrth ddarparu adnoddau a chyfleoedd sydd fel arfer ar gael am ddim yn yr ysgol. Er enghraifft, cost:

  • Cymwysterau (yn amodol ar wneud penderfyniadau lleol a fforddiadwyedd)
  • Cyrsiau Cymraeg
  • adnoddau dysgu fel gwerslyfrau a deunyddiau
    meddalwedd dysgu;
  • llogi cyfleusterau i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau grŵp.
  • ariannu gweithgareddau lleol i gyfoethogi’r profiad dysgu, e.e.
  • addysg awyr agored, gweithgareddau cerdd,

Nid yw'r awgrymiadau uchod yn hollgynhwysfawr. Yn Sir Gaerfyrddin, mae rhan o'r cyllid hwn wedi'i ddefnyddio i ariannu nifer o fentrau gan gynnwys:

  • Yr Ardd Fotaneg: pasys i deuluoedd sy’n addysgu yn y cartref yn ddewisol a mynediad i weithdai gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg a dysgu yn yr awyr agored
  • Rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar i bobl ifanc
  • Gwersi Cymraeg i bobl ifanc
  • Sesiynau addysg bywyd gwyllt
  • Gweithdai llenyddiaeth a drama
  • Tanysgrifiadau dysgu ar-lein

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at EHEenquiries@sirgar.gov.uk neu cysylltwch ag un o aelodau ein tîm addysg ddewisol yn y cartref:

  • Becky Thomas: 07976466399
  • Ceri Bevan: 07813393783
  • Su Crowther: 07813393782
  • Mary Holmes: 07557488415

Gwenud cais am gyllid grant

Gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad gwerthfawr i'ch plentyn a'ch teulu cyfan.

Mae Clwb Cwtsh yn gwrs blasu Cymraeg 8 wythnos ar gyfer oedolion i ddatblygu’r iaith y byddwch yn ei defnyddio gyda’ch plentyn. Mae'r cyrsiau hyn am ddim, ac mae adloniant am ddim ar gael i blant bach hefyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i meithrin.cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol learnwelsh. cymru .

Mae ystod eang o gyrsiau Cymraeg i oedolion.

dysgucymraeg.cymru/dysgu/dod-o-hyd-i-gwrs/

Mae ffioedd yn amrywio o gwrs i gwrs. Fodd bynnag, mae rhai yn rhad ac am ddim ac mae modd cael cymorth ariannol ar gyfer rhai.

Mae pecyn adnoddau ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan wedi’i ddatblygu ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac mae wedi’i anelu at ddysgwyr Cymraeg o bob lefel.

Archwilio gweithgareddau yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Mae’r adnodd hwn yn cefnogi ymweliadau â rhai o adeiladau eiconig yr amgueddfa wrth ymarfer Cymraeg.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad sy'n ceisio rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu yn y Gymraeg. Mae cylchgronau yn ogystal â miloedd o weithgareddau a drefnir gan yr Urdd ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg drwy gydol y flwyddyn.

Urdd Gobaith Cymru

 

Gall y ffynonellau gwybodaeth canlynol fod yn ddefnyddiol ar gyfer prosiectau treftadaeth Cymru:

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn cynnwys 7 amgueddfa sy'n rhad ac am ddim o ran mynediad ac mae pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru. Dyma'r newidiadau:

  • Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd
  • Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd
  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ger Llandysul
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 4.20

Mae ystod eang o adnoddau addysgol ar gael yn rhad ac am ddim ar y gwefannau i'w defnyddio ochr yn ochr â'ch ymweliad.

Cwnsela

Os ydych chi rhwng 11 a 18 oed ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin, gallwch gael mynediad at y Gwasanaeth Cwnsela cyffredinol mewn Ysgolion ac yn y Gymuned i blant a phobl ifanc a ddarperir gan Area 43. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: area43.co.uk

 

Adnoddau Llywodraeth Cymru

Llawlyfr ar gyfer addysgwyr cartref

Canllawiau Addysg Ddewisol yn y Cartref

 

CADW

 

Gwybodaeth ac adnoddau ar ymweliadau am ddim ac adnoddau addysgol am ddim.

Adnoddau Addysg yn y Cartref gan Cadw

 

Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin

Gwybodaeth am weithgareddau, digwyddiadau a Makerspaces

Be sy'mlaen

Llwythwch mwy

Addysg ac Ysgolion