Anawsterau Dysgu Difrifol

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2022

Mae gan rai plant anawsterau dysgu difrifol, sy'n golygu bod ganddynt broblemau sylweddol gyda deallusrwydd a gwybyddiaeth. Efallai y bydd angen llawer o gymorth arnynt gyda phob rhan o'u bywydau, gan gynnwys yr ysgol. Yn ogystal, gallent gael anawsterau gyda symudedd, cydsymud a chyfathrebu. Efallai y bydd gan rai plant anableddau synhwyraidd neu gorfforol, anghenion iechyd cymhleth neu broblemau gydag iechyd meddwl.

Mae angen i blant ag anawsterau dysgu difrifol neu ddwys ac amryfal brofi dysgu ar lefel briodol ar eu cyfer. Mae angen digon o gyfleoedd arnynt i ailadrodd profiadau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, eu sgiliau synhwyraidd, eu datblygiad corfforol ac ystyried eu hanghenion iechyd corfforol a meddyliol cymhleth.

Sut bydd yr ysgol yn helpu? 

Bydd plant ag anawsterau dysgu difrifol fel arfer yn mynd i ysgol arbennig neu leoliad arbenigol. Dylent wneud cynnydd yn yr ysgol. Bydd ganddynt Ddatganiad o Anghenion Addysgol neu Gynllun Datblygu Unigol, sy'n nodi eu targedau a sut y caiff y rhain eu cyrraedd.

Dylai rhieni a gofalwyr fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio a diwallu anghenion y plentyn. Dylid adolygu cynlluniau'n rheolaidd – o leiaf unwaith y flwyddyn, er y bydd cynnydd yn cael ei fonitro'n barhaus.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Athrawes Ymgynghorol: Tracey Bevan, e-bost: TBevan@sirgar.gov.uk  01267 246466.

Addysg ac Ysgolion