Anghenion dysgu ychwanegol: Y broses o wneud penderfyniadau

1. Beth yw anghenion dysgu ychwanegol?

Mae gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Mae gan blentyn neu berson ifanc o oedran ysgol orfodol anhawster/anabledd dysgu os oes ganddynt:

  • anhawster llawer mwy mewn dysgu na mwyafrif y bobl eraill o'r un oedran, a/neu
  • anabledd at ddibenion deddf cydraddoldeb 2010 sy'n ei atal neu'n ei rwystro rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill o'r un oedran mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw'n debygol o gael (neu byddai'n debygol o gael os nag oes darpariaeth ddysgu ychwanegol) llawer mwy o anhawster i ddysgu na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol.

Mae'n bosibl i blentyn neu berson ifanc gael anhawster dysgu neu anabledd nad yw'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Gall ysgolion helpu drwy gwricwlwm cynhwysol ac efallai y bydd angen iddynt gymryd camau i helpu'r dysgwr i wneud cynnydd.  Ni fydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer pob anhawster neu anabledd dysgu sy'n deillio o gyflwr meddygol.

Os oes gan ysgol bryderon am ddysgwr, bydd yn cysylltu â chi i drafod ymhellach. Fel arall, gall teuluoedd a gofalwyr gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol neu drwy ein Gwasanaeth Partneriaeth â Rhieni.  Bydd nodi anghenion dysgu ychwanegol yn seiliedig ar benderfyniadau cydweithredol sy'n cynnwys teuluoedd a gweithwyr proffesiynol mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.