Anghenion dysgu ychwanegol: Y broses o wneud penderfyniadau

3. Beth yw Proffil Un Dudalen?

Mae proffil Un Dudalen yn dudalen sy'n llawn gwybodaeth gadarnhaol am blentyn neu berson ifanc sy'n galluogi pobl i ddod i adnabod y person, y pethau sy'n bwysig iddynt a'r ffyrdd gorau o gynnig cymorth.

Mae'n cynnwys gwybodaeth bwysig y mae angen ei rhannu â phawb sy'n cefnogi ac yn gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc. Mae'n sicrhau bod cymorth priodol ar gael ac yn sail ar gyfer cynllunio'r ddarpariaeth bersonol ar gyfer y dysgwr.

Mae defnyddio proffiliau un dudalen yn arfer safonol ym mhob un o'n hysgolion ac nid ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn unig. Mae proffil un dudalen yn cefnogi ysgolion i ganolbwyntio ar yr unigolyn ac i fod yn gynhwysol.

Mae proffiliau un dudalen yn cynnwys tri darn allweddol o wybodaeth ynghyd â ffotograff o'r dysgwr a'i enw llawn, gyda'i ganiatâd:

  • Beth mae pobl yn ei hoffi / ei werthfawrogi am y plentyn neu'r person ifanc;
  • Beth sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc (teulu, ffrindiau, diddordebau, hobïau ac ati);
  • Y ffordd orau o gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc.

Pe bai’r penderfyniad yn cael ei wneud yn ystod y cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar y dysgwr, yna byddai angen Cynllun Datblygu Unigol arno.