Canllaw termau

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/03/2022

Gall fod yn ddryslyd ac yn rhwystredig iawn bod yn rhan o drafodaeth pan nad ydych yn deall yr iaith sy'n cael ei defnyddio. Mae'r adran hon yn esbonio rhai o'r termau a'r acronymau a ddefnyddir. Fe'i cynlluniwyd i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall yr hyn sy'n cael ei drafod neu ei ysgrifennu amdano, sy'n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eu plentyn neu berson ifanc.

AAA (SEN)

Anghenion Addysgol Arbennig (y cyfeirir atynt bellach fel ADY – Anghenion Dysgu Ychwanegol). Dywedir bod gan blentyn angen addysgol arbennig os oes ganddo/ganddi anawsterau dysgu sydd angen darpariaeth addysgol arbennig.

AB (FE)

Addysg Bellach (ôl-16).

ABICh (PSHE)

Addysg Bersonol, Iechyd a Chymdeithasol

ADHD

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd – mae ADHD yn gasgliad o ymddygiadau problematig sy’n gysylltiedig ag anawsterau canolbwyntio, gan gynnwys anniddigrwydd a gorfywiogrwydd.

ADP (SPLD) 

Anawsterau Dysgu Penodol mewn maes penodol o’r cwricwlwm. 

ADY (ALN)

Anghenion Dysgu Ychwanegol

ADD (SLD)  

Anawsterau Dysgu Difrifol – mae gan ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol namau deallusol neu wybyddol sylweddol. Gallant hefyd fod ag anawsterau o ran symudedd a chydsymudedd, cyfathrebu ac amgyffred a sgiliau dysgu hunangymorth. Bydd disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol angen cymorth ym mhob un o feysydd y cwricwlwm. 

ADDA (PMLD) 

Anawsterau Dysgu Dwys ac Amryfal – yn ogystal ag anawsterau dysgu difrifol iawn, mae gan ddisgyblion anawsterau sylweddol eraill, fel anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau neu gyflwr meddygol difrifol. Mae angen lefel uchel o gymorth oedolyn ar y disgyblion, ar gyfer eu hanghenion dysgu a hefyd ar gyfer eu gofal personol. 

ALl 

Awdurdod Lleol 

ALlICh (SLCD) 

Anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu – gall y disgyblion fod ag anawsterau gydag iaith fynegiannol neu dderbyngar a/neu anawsterau prosesu. 

Amgylchedd Amlsynhwyraidd 

Lle (ystafell ddosbarth neu ystafell therapi fel arfer) lle caiff plant gyfle i ddysgu/derbyn gwybodaeth gan ddefnyddio’u synhwyrau i gyd. 

Amlddisgyblaethol 

Yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau (addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd fel arfer). 

Anawsterau Dysgu 

Mae gan blentyn anawsterau dysgu os yw’n ei chael hi’n llawer anoddach i ddysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oed. 

Apêl 

Apêl yw pan fyddwch yn dweud wrth Dribiwnlys (TAAAC) nad ydych yn cytuno â’r dewisiadau y mae eich Awdurdod Lleol wedi’u gwneud am addysg eich plentyn. Gallai hyn ymwneud â’r help sydd gennych yn yr ysgol neu’r ysgol y byddwch yn mynd iddi. Gall eich rhieni neu ofalwyr hefyd wneud apêl. 

ASA (ASD)/CSA (ASC) 

Anhwylder/Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth – y term a ddefnyddir am ystod o anhwylderau sy’n effeithio ar ddatblygiad rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu a dychymyg. 

Asesiad Craidd 

Os oes angen, gwneir hyn gan staff Gwaith Cymdeithasol o’r adran Gofal Cymdeithasol Plant yn dilyn Asesiad Cychwynnol. Mae’n asesiad manwl er mwyn edrych ar anghenion sylweddol plentyn/teulu o ran iechyd, anabledd corfforol neu broblemau ymddygiad sy’n gofyn am nifer o wahanol wasanaethau. Rhaid ei gwblhau o fewn 35 diwrnod gwaith. 

Atgyfeiriad Gwasanaeth Unigol 

Cwblheir y ffurflen hon pan fydd gan blentyn un angen clir y gellir ei ddiwallu gan un gwasanaeth. 

Athro/Athrawes Gysylltiol Cyn Ysgol 

Athro/athrawes sydd â gwybodaeth a phrofiad arbenigol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar, a gyflogir gan yr Awdurdod Lleol i roi cyngor a chymorth i staff mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen ar gynhwysiant plant sydd ag ADY. Maent yn helpu ysgolion i gynllunio’r pontio i ddosbarth Derbyn ar gyfer y plant hyn. 

Athro Ymgynghorol

Athro sy'n gweithio i'r Awdurdod Lleol sydd â gwybodaeth arbenigol am fath penodol o angen dysgu ychwanegol.

BESD 

Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a/neu Gymdeithasol

CAMHS 

Gwasanaeth(au) Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed – gwasanaeth sy’n darparu help, cefnogaeth a gofal i blant a phobl ifanc sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl. 

CCB (PSP) 

Mae ‘Cynllun Cymorth Bugeiliol’ yn ymyriad yn yr ysgol sydd wedi’i gynllunio er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal iechyd a/neu a all fod yn bryderus ac yn ffobig a/neu a allai fod mewn perygl o gael eu dadrithio drwy waharddiad cyfnod penodol neu waharddiad parhaol. Mae Cynllun Cymorth Bugeiliol wedi’i gynllunio i fod yn offeryn ymyrraeth tymor byr a adolygir yn rheolaidd. 

CCU (PCP) 

Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

CDU (IDP) 

Cynllun Datblygu Unigol. Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn addysg. Un newid pwysig fydd cyflwyno’r Cynllun Datblygu (Addysg) Unigol – CD(A)U. 

Cod Ymarfer

Canllaw i rieni, ysgolion ac Awdurdodau Lleol am yr help y gallant ei roi i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’n rhaid i ysgolion, Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant roi sylw i’r Cod (h.y. rhaid iddynt beidio â’i anwybyddu) pan fyddant yn gweithio gyda phlentyn sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Cod Ymarfer Hawliau Anabledd ar gyfer Ysgolion/Cod Ymarfer Hawliau Anabledd ar gyfer Darpariaeth Ôl-16 

Mae’r ddau’n egluro’r dyletswyddau i osgoi gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg.

Cydlynydd AAA (SENCo) 

(Cyfeirir ato bellach fel ‘Cydlynydd Anghenion Ychwanegol’ (CADY/ALNCo)). Aelod o staff ysgol neu leoliad addysg gynnar, sydd â chyfrifoldeb dros gydlynu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o fewn yr ysgol honno. 

Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY / ALNCo) 

Aelod o staff ysgol neu leoliad addysg gynnar, sy’n gyfrifol am gydlynu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o fewn yr ysgol honno. 

Cyfarfodydd Panel 

Mae gan yr Awdurdod Lleol grŵp o weithwyr proffesiynol sy’n cyfarfod er mwyn edrych ar sut mae anghenion plant yn cael eu diwallu ac er mwyn bod yn sicr bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n deg. 

Cyllid Dirprwyedig 

Mae pob ysgol yn derbyn ei chyllid gan y Llywodraeth Ganolog drwy’r Awdurdod Lleol yn ôl cyfres o fformiwlâu sy’n cael eu cyfrifo yn ôl nifer ac ystod oedran disgyblion pob ysgol. 

Cynhwysiant 

Addysgu plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd (lleol) lle bynnag y bo’n bosibl. 

Cynllun Pontio 

Cynllun a gaiff ei greu adeg pontio neu drosglwyddo o un cyfnod allweddol i’r llall. 

CGI (HCP)

Cynllun Gofal Iechyd - Cynllun cymorth ar gyfer plentyn neu berson ifanc ag anghenion iechyd.

Cynorthwyydd Addysgu (CA/TA)/Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (CCA/LSA)/Cynorthwyydd Cyffredinol (CC/GA) 

Person a gyflogir yn yr ysgol i gefnogi dysgu’r plant o dan gyfarwyddyd athro dosbarth. 

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (CCD/LSA) 

Cynorthwyydd sy’n darparu cymorth yn yr ysgol i ddisgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae CCD yn gweithio dan gyfarwyddyd athro dosbarth fel y bo’n briodol. 

DDY (ALP)

Darpariaeth Dysgu Ychwanegol - cymorth i blant a phobl ifanc sy'n ychwanegol at yr hyn sydd ar gael i bawb i'w helpu gyda'u hanghenion penodol.

Datrys Anghytundeb 

Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu trefniadau er mwyn helpu i atal neu ddatrys anghytundebau rhwng rhieni sydd â phlant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Awdurdod Lleol neu’r ysgol. Nid yw defnyddio’r gwasanaeth hwn yn effeithio ar hawl rhieni i apelio i’r Tribiwnlys AAA. 

Dechrau’n Deg 

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd sydd â phlant sy’n 0 – 3 oed. 

Deddf Cydraddoldeb 

Daeth y Ddeddf Cydraddoldeb i rym ym mis Hydref 2010. Mae’n disodli deddfwriaeth flaenorol (megis Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) ac yn sicrhau cysondeb o ran yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn gwneud eich gweithle yn amgylchedd teg ac er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. 

DGA (DDA)

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd - y Ddeddf sy'n ceisio rhoi terfyn ar y gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.

ELSA

Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol - Cynorthwyydd sydd â gwybodaeth arbenigol i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u datblygiad cymdeithasol ac emosiynol.

EOTAS 

Addysg Heblaw yn yr Ysgol 

Estyn 

Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Estyn yw Swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant. 

Ffisiotherapydd 

Arbenigwr sy’n gweithio gyda phlant sydd ag anawsterau symud. Gallant gynghori rhieni ar ymarferion addas ar gyfer eu plant. 

Gwasanaeth Anghenion Synhwyraidd/Tîm Nam ar y Synhwyrau 

Tîm o staff addysgu, a rhai nad ydynt yn addysgu, cymwysedig, profiadol sy’n darparu cymorth arbenigol ar gyfer plant sydd â nam ar eu synhwyrau ac sy’n dioddef o broblemau synhwyraidd, gan gynnwys pobl fyddar/ddall. Mae gan y staff addysgu ystod eang o sgiliau er mwyn addysgu a chefnogi plant a theuluoedd o’r adeg y ceir diagnosis yn y blynyddoedd cynnar hollbwysig a thrwy gydol bywyd ysgol. 

Gwasanaeth Cymorth/Cynnal Ymddygiad 

Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio gydag ysgolion er mwyn cefnogi disgyblion sydd ag anawsterau ymddygiad difrifol.  

Gwasanaeth Cynhwysiant 

Yn gweithio mewn ysgolion er mwyn meithrin y capasiti i gynnwys plant gydag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol ac yn darparu cymorth allgymorth ar gyfer plant a phobl ifanc unigol. 

Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni (PPS) 

Yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i rieni/gofalwyr sydd â’u plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Gwasanaethau Allgymorth 

Gwasanaethau cymorth a ddarperir i ysgolion neu ddisgyblion gan weithwyr proffesiynol arbenigol: er enghraifft, darparu cymorth ar gyfer anawsterau cyfathrebu neu ymddygiadol. 

Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol 

Un person sy’n gyfrifol am helpu’r plentyn a’r teulu drwy’r system addysg a gwneud yn siŵr eu bod yn cael y gwasanaethau iawn ar yr adeg iawn. 

Gyrfa Cymru 

Gwasanaeth i helpu pawb sy’n 13 – 19 oed baratoi ar gyfer trosglwyddo neu bontio i waith a bywyd fel oedolyn. 

Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar 

Pob darpariaeth addysg cyn ysgol megis dosbarthiadau meithrin ac ysgolion, meithrinfeydd dydd a grwpiau chwarae. 

Map Darpariaeth 

Map sy’n dangos y cymorth y mae’r ysgol/Awdurdod Lleol yn ei ddarparu ar gyfer eu disgyblion AAA, fel y gall rhieni ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael, pryd ac ym mhle. 

Monitro 

Asesiad parhaus o waith, cynnydd, gwariant neu gyflawniad. 

Nam ar y Clyw (HI) 

Mae disgyblion sydd â nam ar eu clyw yn amrywio o golli clyw i rai sy’n hollol fyddar. 

NG (VI) 

Nam ar y Golwg – ystod o anawsterau o olwg rhannol i ddallineb. 

NS (SI) 

Nam ar y Synhwyrau 

Oedran Ysgol Gorfodol

5 - 16: Yr oedran y mae'n rhaid i blant fod mewn addysg amser llawn.

Paediatregydd 

Meddyg sy’n arbenigo yn anghenion babanod a phlant. 

Proffil Un Dudalen (PUD/OPP)

Mae Proffil Un Dudalen yn dudalen sy'n llawn gwybodaeth gadarnhaol am blentyn neu berson ifanc sy'n galluogi pobl i ddod i adnabod y person, y pethau sy'n bwysig iddynt a'r ffordd orau o'u cefnogi.

Seiciatrydd 

Meddyg sy’n helpu pobl sy’n cael anawsterau gyda’r ffordd y maent yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae seiciatryddion plant yn arbenigo mewn helpu plant. 

Seicolegydd Addysgol (Seic Add)  

Mae ganddynt radd gyntaf mewn seicoleg a chymhwyster ôl-raddedig mewn Seicoleg Addysgol. Maent yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol i ddisgyblion, ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill. Mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan bwysig yn y broses o Asesu Statudol a gall gyfrannu at y broses o gynllunio ar gyfer Pontio a rhai Adolygiadau Blynyddol. 

SCT (FLO)

Swyddog Cyswllt Teulu - Mae swyddogion cyswllt teuluol yn darparu gwybodaeth gywir a diduedd am amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i rieni a gofalwyr. Nid ydynt yn 'cymryd ochrau'. Maent yn helpu teuluoedd i wneud penderfyniadau gwybodus am addysg y dysgwr.

Swyddog Arweiniol Clinigol Addysg Ddynodedig (SACAD/DECLO)

Swyddog yn y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gydlynu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

TAT (TAF) 

Mae ‘Tîm o Amgylch y Teulu’ (TAT) yn ffordd o weithio sy’n dod ag ystod eang o weithwyr proffesiynol at ei gilydd i weithio gyda theuluoedd er mwyn eu helpu i fynd i’r afael â’r amrywiaeth o heriau y maent yn eu hwynebu. 

Teuluoedd yn Gyntaf (TyG/FF) 

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Teuluoedd yn Gyntaf sy’n darparu systemau a chymorth amlasiantaeth i deuluoedd. 

TG/TGCH 

‘Technoleg Gwybodaeth’ (a elwir weithiau yn dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu).

Tîm Amlasiantaeth 

Gweithwyr proffesiynol o wahanol arbenigeddau (iechyd/addysg/gofal cymdeithasol/sefydliadau gwirfoddol) sy’n gweithio gyda’i gilydd er lles eich plentyn. 

Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC/ETW)

Mae Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwrando ac yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau am anghenion dysgu ychwanegol a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd mewn lleoliadau addysg.

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC/SENTW) 

Corff annibynnol o fewn y Gwasanaeth Tribiwnlys sy’n gwrando apeliadau gan rieni yn erbyn penderfyniadau Anghenion Dysgu Ychwanegol ar asesiadau a Datganiadau. Ers mis Medi 2002, mae rhieni wedi gallu cyflwyno apêl yn erbyn ysgol os oes problem ynglŷn â gwaharddiadau cyfnod penodol, neu os yw rhiant/gofalwr y plentyn yn teimlo bod gwahaniaethu wedi bod yn erbyn eu plentyn oherwydd ei anabledd. Mae penderfyniad y Tribiwnlys yn rhwymo’r ddau barti i’r apêl. 

Therapydd Galwedigaethol (OT) 

Gweithiwr proffesiynol a gyflogir gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd i weithio gyda’r plentyn, y rhieni a’r athrawon. Mae Therapyddion Galwedigaethol yn defnyddio technegau therapiwtig (cynghori ar gyfarpar ac addasiadau amgylcheddol lle bo’n briodol) i wella gallu plentyn i gael mynediad i’r cwricwlwm dysgu a ffisegol. 

ThILl (SLT) 

‘Therapydd Iaith a Lleferydd’ – yn helpu plant sydd ag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu. 

Uned Cyfeirio Disgyblion 

Yn darparu addysg i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd neu i eraill a all fod allan o’r ysgol am wahanol resymau. 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gorff cyhoeddus anadrannol ym Mhrydain Fawr a sefydlwyd gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006 ac a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am hyrwyddo a gorfodi cyfreithiau cydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cymerodd gyfrifoldeb dros dri Chomisiwn blaenorol: y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Cyfle Cyfartal (a oedd yn ymdrin â chydraddoldeb rhywiol) a’r Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae hefyd yn gyfrifol am agweddau eraill ar gydraddoldeb: oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred. Fel sefydliad hawliau dynol cenedlaethol, mae’n ceisio hyrwyddo a diogelu hawliau dynol ym Mhrydain Fawr. 

Ymwelydd Iechyd 

Nyrs gymwysedig a gyflogir gan y Gwasanaeth Iechyd ac sy’n rhoi cyngor ar iechyd cyffredinol plant a phroblemau iechyd penodol ac sydd â chyfrifoldeb penodol am fonitro cynnydd plentyn a chynghori’r rhieni pan fo angen. 

Ysgol a Gynhelir 

Ysgol wladol yn cynnwys ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol yn ogystal ag ysgolion arbennig cymunedol ac arbennig sefydledig. 

Ysgol Arbennig 

Ysgol sydd wedi’i threfnu’n arbennig er mwyn gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a Datganiadau na ellir diwallu eu hanghenion mewn ysgol prif ffrwd. 

Ysgol Prif Ffrwd 

Ysgol a gynhelir gan Awdurdod Lleol nad yw’n ysgol arbennig (h.y. ysgol gyffredin). Ysgolion prif ffrwd yw mwyafrif yr ysgolion ac maent yn cynnwys ysgolion Babanod, Iau, Cynradd ac Uwchradd.

Addysg ac Ysgolion