Nam ar y golwg

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Yng Nghymru mae gan tua 0.2% o boblogaeth yr ysgol nam sylweddol ar eu golwg. Nam ar y golwg yw lle na ellir cywiro golwg yn llawn drwy wisgo sbectol/lensys.

Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu y gall fod gan gynifer â 10% o ddysgwyr wall plygiannol heb ei ddatgelu - sy'n golygu bod amhariad ar eu gallu i ddysgu a chymryd rhan weithredol mewn gwersi oherwydd nad ydynt yn gweld optometrydd ac yn gwisgo sbectol. Felly, efallai y bydd dysgu hyd at 3 phlentyn ym mhob dosbarth yn cael ei effeithio gan olwg wannach heb ei datgelu.

Arwyddion o nam ar y golwg mewn plant:

  • Colli sylw a chanolbwyntio.
  • Meddwl yn crwydro’n aml.
  • Llawysgrifen wael.
  • Yn drwsgl.
  • Diffyg cyswllt llygaid.
  • Colli lle wrth ddarllen.
  • Anawsterau wrth barchu gofod personol plant eraill.
  • Yn blino'n gyflym.
  • Angen mwy o amser nag eraill i gwblhau tasgau.
  • Yn ei chael hi'n anodd darllen print mân.
  • Yn ei chael hi'n anodd darllen o'r bwrdd gwyn.
  • Cwyno'n aml am ben tost.
  • Yn rhwbio'u llygaid yn aml.
  • Yn ei chael hi'n anodd copïo.
  • Dibynnu'n fawr ar gefnogaeth cymheiriaid i gwblhau tasgau / mynd o gwmpas.
  • Yn ei chael hi'n anodd dehongli lluniadau / lluniau os nad yw'r gwrthgyferbyniad yn dda.

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

Gall athrawon helpu plant sydd â cholled golwg mewn ystafelloedd dosbarth drwy:

  • Sicrhau mannau dysgu ysgogol a deunyddiau cwricwlwm hawdd eu defnyddio
  • Cynnal asesiadau risg mewn perthynas â mannau dysgu er mwyn sicrhau diogelwch dysgwyr â nam ar eu golwg
  • Sicrhau bod print clir ar ddeunydd darllen (Arial, maint ffont 14) a'i fod ar bapur A4, a hynny fan lleiaf (bydd angen print mwy ar rai plant)
  • Gwahaniaethu – gan gynnwys offer a thechnegau dysgu amgen
  • Goleuadau/bleinds priodol i ddiwallu anghenion plant unigol
  • Sicrhau amgylchedd dirwystr, lle mae offer yn cael ei storio mewn mannau hawdd eu cyrraedd
  • Newid ac addasu deunyddiau addysgol
  • Meddwl am leoedd eistedd
  • Cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anghenion dysgwyr unigol.

Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am olwg y dysgwr.

Mae gan yr Awdurdod Lleol Athrawon Cymwysedig Plant â Nam ar y Golwg a gwasanaeth Arbenigol Symudedd / Sefydlu sydd ar gael i asesu a chefnogi anghenion eich plentyn yn ôl y gofyn. Gweler y Ddarpariaeth Arbenigol.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Rheolwr y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd: Sallie Durbridge, e-bost: SADurbridge@sirgar.gov.uk 01267 246406

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Addysg ac Ysgolion