Rhif neu fathemateg

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2022

Mae plant yn dysgu sgiliau rhif ar gyflymderau gwahanol. Bydd rhai plant yn cael anhawster arbennig gyda dysgu sgiliau, cysyniadau a ffeithiau o ran rhifau. Weithiau gelwir hyn yn Dyscalculia.

Efallai y bydd ganddynt broblemau gyda:

  • dilyn dilyniannau
  • trefnu gofod
  • adnabod patrymau
  • darlunio yn y meddwl
  • amcangyfrif

Efallai y byddant yn:

  • cael trafferth 'gweld' bod pedwar gwrthrych yn 4 heb gyfrif
  • cael trafferth symud y tu hwnt i gyfrif fesul 1
  • dibynnu ar ddefnyddio eu bysedd/blociau
  • ei chael hi'n anodd tynnu allan oherwydd bod angen cyfrif yn ôl a gallant golli trac

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

  • Mae angen addysgu sgiliau rhif yn benodol i blant â phroblemau penodol gyda mathemateg.
  • Mae angen i dasgau ganolbwyntio ar y dysgwr, gan ddefnyddio adnoddau amlsynhwyraidd a chael eu cwblhau ar gyflymder y plentyn ei hun.
  • Weithiau bydd plant yn gweithio mewn grwpiau bach, efallai gyda Chynorthwyydd Addysgu, ar ddal i fyny gyda’u mathemateg.

Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwyr gyda mathemateg neu weithio gyda rhifau.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Addysg ac Ysgolion