Seicoleg Addysg a Phlant

Diweddarwyd y dudalen ar: 27/09/2019

Yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Phlant rydym ni'n defnyddio seicoleg sut mae pobl yn dysgu, yn ymddwyn, yn teimlo ac yn meddwl i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial. Rydym ni'n gweithio mewn ysgolion yn bennaf, ond hefyd mewn lleoliadau cyn-ysgol, yn y cartref, mewn cartrefi maeth, ac mewn lleoliadau gofal seibiant. Weithiau byddwn ni'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Dro arall, byddwn ni'n gweithio gydag athrawon ac oedolion eraill ar ran plant. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i helpu gyda materion sy'n achosi problemau neu bryderon. Gall y rhain ymwneud â dysgu, ymddygiad, rhyngweithio cymdeithasol neu lesiant emosiynol.

Drwy ymgynghori â phlant, pobl ifanc a'r oedolion sy'n gweithio gyda nhw, byddwn ni'n penderfynu ar gynllun. Bydd hynny'n cynnwys camau gweithredu a ddylai arwain at gael hyd i ateb. Byddwn ni'n pennu amser ar gyfer adolygu cynnydd i weld a yw'r cynllun yn gweithio.

Rydym hefyd yn rhan o'r broses aml-asiantaeth o nodi anghenion addysgol arbennig sylweddol ac argymell y ffordd orau o'u diwallu.

Addysg ac Ysgolion