Y gallu i ddysgu

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2022

Mae plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymderau gwahanol, ac mae pob unigolyn yn unigryw. Mae gan bob un ohonom gryfderau a gwendidau gwahanol wrth  ddysgu. Bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael mwy o anhawster na'u ffrindiau o ran dysgu. Os yw plant a phobl ifanc dair blynedd neu fwy y tu ôl i'r lefelau disgwyliedig, ar ôl i athrawon roi cynnig ar wahanol ffyrdd o helpu, gellir galw hyn yn Anawsterau Dysgu Cymedrol neu Anawsterau Dysgu Cyffredinol.

Gall plant a phobl ifanc ag Anawsterau Dysgu Cymedrol gael problemau gyda:

  • Sgiliau llythrennedd sylfaenol
  • Sgiliau rhifedd sylfaenol
  • Dealltwriaeth o gysyniadau newydd
  • Sgiliau gwrando/talu sylw
  • Cymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod i sefyllfaoedd eraill

Yn aml, bydd ganddynt hunan-barch isel, lefelau isel o ganolbwyntio a chymhelliant isel. Efallai y byddant yn gwrthod rhoi cynnig ar waith newydd oherwydd eu bod yn credu y byddant yn methu cyn iddynt ddechrau. Mae angen cymorth arnynt i gael mynediad i'r cwricwlwm.

Sut bydd yr ysgol yn helpu?

  • Gwahaniaethu tasgau – eu gwneud yn symlach
  • Cynnig gwahanol ffyrdd o gofnodi gwybodaeth, fel lluniau wedi'u labelu, diagramau neu siartiau llif
  • Gweithgareddau amlsynhwyraidd
  • Rhannu dysgu yn gamau bach
  • Helpu plant i drefnu eu gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio fframiau ysgrifennu
  • Caniatáu amser ychwanegol i gwblhau tasgau
  • Cadw cyfarwyddiadau'n fyr ac yn glir
  • Canmol cyflawniadau

Dylai plant, pobl ifanc, rhieni neu ofalwyr siarad â'r ysgol i ddechrau os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am allu'r dysgwyr i ddysgu.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi mewn gwahanol ffyrdd yn ôl eu hanghenion yn yr ystafell ddosbarth. Efallai y bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu i gefnogi anghenion neu i helpu i nodi angen. Bydd rhai plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol yn cael eu nodi fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol drwy broses gwneud penderfyniadau.

Athrawes Ymgynghorol: Tracey Bevan, e-bost: TBevan@sirgar.gov.uk  01267 246466

Addysg ac Ysgolion