Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2022

Rydym wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i gefnogi ysgolion i roi cyfleoedd i blant wneud cymaint o weithgarwch corfforol â phosibl, er mwyn helpu i gyrraedd y nod o 60 munud o weithgarwch y dydd a hynny o leiaf 5 gwaith yr wythnos.

Rydym yn cefnogi ysgolion cynradd drwy raglenni 'Chwarae i Ddysgu' ac 'Aml-sgiliau a Champau'r Ddraig', yn cydgysylltu'r rhaglen '5x60' i blant oedran uwchradd, ac yn arwain ar y rhaglen Llysgenhadon Ifanc er mwyn helpu pobl ifanc i arwain ac ysbrydoli eraill i fod yn fwy egnïol.

Archwilio a dysgu

Un o gamau cynharaf y 'llwybr chwaraeon' yw Archwilio a Dysgu, lle mae plant yn archwilio ffyrdd gwahanol o fod yn gorfforol egnïol ac yn dechrau dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus. 

O ran plant y Cyfnod Sylfaen (3-7 oed) mewn ysgolion ar draws y sir, rydym yn cefnogi staff ysgolion i ddefnyddio'r adnodd 'Chwarae i Ddysgu' er mwyn helpu i wella sgiliau corfforol plant megis neidio, glanio, taflu a dal, gan wneud hyn oll i'w paratoi at ddyfodol egnïol. Mae'r adnodd yn cynnwys llyfrau stori, cardiau chwarae a sgiliau sydd wedi'u hanelu at gael plant i fod yn fwy egnïol mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

Wrth i blant ddatblygu, rydym yn cefnogi ysgolion i ddysgu ‘Aml-sgiliau'r Ddraig’ sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ystwythder, cydbwysedd, cydsymud, hyder a phenderfyniadau – ac wedyn 'Campau'r Ddraig' lle mae plant yn trosglwyddo'r holl aml-sgiliau ac yn eu rhoi ar waith yn un o Gampau'r Ddraig.

Rydym yn canolbwyntio ar ddysgu plentyn-ganolog er mwyn bodloni anghenion, galluoedd a diddordeb y plentyn. Cyfnod datblygu y plentyn yn hytrach na'i oed sy'n bwysig, ac mae'r adnoddau wedi'u dylunio fel bod athrawon, gwirfoddolwyr, disgyblion, rhieni a staff yr ysgol yn gallu eu defnyddio yn ystod amser gwersi, amser cinio a chyn ac ar ôl oriau ysgol.

Cymryd rhan

Erbyn hyn dylai fod gan bobl ifanc ystod o sgiliau er mwyn cymryd rhan mewn chwaraeon o'u dewis nhw. Mae'n bosibl nad yw rhai pobl ifanc wedi dod o hyd i gamp/gweithgaredd y maent yn ei fwynhau hyd yn hyn, ond rydym yn bwriadu newid hynny! Fel mae'r enw'n ei awgrymu, nod rhaglen ‘5x60’ yw cael cynifer o bobl ifanc â phosibl i gymryd rhan mewn o leiaf 5 sesiwn o 60 munud o weithgarwch corfforol yr wythnos.

Mae'r holl ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin yn elwa ar swyddog penodedig sy'n llunio amserlenni ar gyfer gweithgareddau hwyliog, hamdden, cynhwysol ac anffurfiol a hynny cyn, yn ystod, ac ar ôl ysgol gan roi pwyslais ar ddenu pobl ifanc na fyddent fel arfer am gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Mae'r math o weithgareddau'n amrywio o ysgol i ysgol ac yn cynnwys pethau fel cerdded, chwarae ffrisbi, codi hwyl, nofio, aerobeg, dawnsio stryd, bocsio-ymarfer, tennis, badminton, tennis bwrdd, syrffio, mynydda, cyfeiriannu a beicio.

Llysgenhadon Ifanc

Menter ledled y DU yw'r Llysgenhadon Ifanc lle mae pobl ifanc yn ysbrydoli eu cyfoedion i fod yn fwy egnïol! Ymhlith dyletswyddau Llysgennad Ifanc y mae cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn fwy aml, bod yn fodel rôl cadarnhaol a hyrwyddo ffordd iach o fyw, creu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc, a bod yn llais dros yr holl bobl ifanc yn eu hysgolion, eu clybiau chwaraeon a'u cymunedau.

Gall disgyblion mewn ysgolion cynradd fod yn Llysgenhadon Ifanc Efydd dros eu hysgolion, gall disgyblion mewn ysgolion uwchradd fod yn Llysgenhadon Ifanc Arian dros eu hysgolion neu'n  Llysgenhadon Ifanc Aur dros y sir, a gall Llysgenhadon Ifanc Aur profiadol gamu ymlaen i lefel Blatinwm lle mae eu maes gorchwyl yn aml yn ymestyn y tu hwnt i'r sir e.e. grŵp llywio cenedlaethol.

Addysg ac Ysgolion