Cludiant Ysgol
Efallai y bydd eich plant yn gallu cael cludiant am ddim i'r ysgol, yn dibynnu ar ba mor bell y maent yn byw o’r ysgol ac unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddynt.
Mae pob plentyn o oed cymwys yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol os yw’n byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn mynd i’w ysgol ddynodedig neu agosaf. Hefyd mae’n rhaid ei fod yn byw o leiaf:
- 2 filltir o'r ysgol os yw yn yr ysgol gynradd
- 3 milltir o'r ysgol os yw yn yr ysgol uwchradd
Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni cyn penderfynu i ba ysgol i anfon eich plant er mwyn cael gwybod a fyddant yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol. O dan rhai amgylchiadau gellir darparu cludiant hefyd ar gyfer disgyblion nad ydynt fel arfer yn gymwys o dan y polisi cyffredinol.
Cyfrifoldeb rhieni yw trefnu a thalu am gludo disgyblion i’r ysgol os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim. Mae'n bosibl y gall cludiant cyhoeddus fod ar gael, am ragor o wybodaeth cysylltwch â Traveline ar 0871 200 22 33 neu ewch i'w wefan.
Rydym yn gweithredu cynllun teithio rhatach ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim am eu bod yn byw yn rhy agos i'r ysgol, a lle nad oes unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus, lle gall seddi gwag ar fws ysgol presennol fod ar gael ar ôl dyrannu seddi i’r holl ddisgyblion sydd â hawl i’w derbyn. Unwaith bydd cerbyd yn llawn, ni fyddwn yn darparu cerbydau mwy i gynnig mwy o seddi rhatach. Dim ond ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol y caiff sedd wag ei chynnig ac nid yw’n golygu o reidrwydd y caiff sedd ratach ei chynnig mewn blynyddoedd i ddod. Codir tâl am ddarparu tocynnau teithio sedd gwag.
Caiff rhieni sydd wedi cyflwyno cais am gludiant am ddim ac wedi cael eu gwrthod ofyn am adolygiad o'r penderfyniad, a byddant yn cael gwybod am y broses gyda’r hysbysiad ysgrifenedig yn gwrthod y cais.
Addysg ac Ysgolion
Dysgu oedolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Cludiant Ysgol
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Cymorth i ddysgwyr
- Llais plentyn
- Partneriaeth â Rhieni
- Beth yw fy hawliau?
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaeth arbenigol
- Cynnydd
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion