Cyfranogiad a Hawliau Plant

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Mae gwrando arnoch chi yn bwysig iawn i ni. Eich cyfranogiad chi yw un o’n prif flaenoriaethau ni, a’n nod yw sicrhau bod diwylliant o gymryd rhan wrth wraidd yr holl Gyngor – un sy’n rhoi llais i chi ac yn gofalu bod eich barn a’ch safbwyntiau chi’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi a’ch bywyd bob dydd.

Beth yw ystyr cyfranogiad?

Cyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud a’u helpu i wneud eu penderfyniadau eu hunain – dyna ei ystyr yn y bôn.

Mae’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn dweud: “Mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried” (Erthygl 12 Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn)

Oeddech chi’n gwybod bod gan bawb dan ddeunaw oed 42 o hawliau sydd wedi’u rhestru yn UNCRC (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn)? Dyma rai ohonyn nhw:

  • yr hawl i fywyd iach
  • yr hawl i addysg
  • yr hawl i fod gyda’ch teulu
  • yr hawl i ymlacio a chwarae
  • yr hawl i safon bywyd da
  • yr hawl i gael eich diogelu rhag niwed a cham-drin.
  • yr hawl i gydgyfarfod ac ymuno â sefydliadau

Byddwn ni yn ceisio’ch helpu a darparu cyfleoedd i chi gymryd rhan mewn penderfyniadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac rydyn ni’n hyrwyddo ac yn annog pawb i gymryd rhan ar bob lefel.

Sut rydyn ni'n gwneud hyn?

Ein nod yw sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u hawliau ac yn gwybod sut i gyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau nhw. Byddwn ni’n parhau i wneud yn siŵr bod gan bob un ohonoch gyfle i gymryd rhan. Mae hyn yn golygu gwrando ar eich barn chi, eich pryderon a’ch safbwyntiau, er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau sy’n diwallu eich anghenion ac yn gwella ein ffordd o weithio.  

Gwneir hyn drwy weithio gydag ystod o grwpiau a sefydliadau fel:

Mae sawl ffordd wahanol: o ddigwyddiadau fel y gynhadledd ieuenctid flynyddol, digwyddiad cipolwg ar y gyllideb a gweithdai grŵp ffocws; ymgynghoriadau ac arolygon. Rydyn ni’n treulio’r rhan fwyaf o’n hamser yn helpu i redeg a chefnogi Cyngor Ieuenctid Sir Gâr, sy’n rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn penderfyniadau ac yn cynnig llais i holl blant a phobl ifanc y sir wneud gwahaniaeth a dylanwadu ar newidiadau.

Mae’r gyfraith yng Nghymru yn dweud bod rhaid cael Cyngor Ysgol ym mhob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig ein gwlad – felly p’un a ydych chi’n Gynghorydd Etholedig o’r ysgol neu’n poeni am elfen o fywyd yr ysgol, yna cofiwch roi gwybod i’ch Cyngor Ysgol er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd i atebion. Neu, gallwch leisio’ch pryderon i rai sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae gan wefan Llais Disgyblion Cymru lond gwlad o wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi a’ch cyngor ysgol.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gwrando ar farn pobl ifanc Sir Gâr, a’u bod nhw’n gallu effeithio ar benderfyniadau ar lefel genedlaethol, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Chymru Ifanc sy’n gwrando arnoch chi ac yn grymuso’ch llais ledled Cymru. Maen nhw’n gweithio ar 12 faes blaenoriaeth fel Bwlio, Lles, Hawliau Plant, Iechyd Meddwl a llawer mwy. I gael gwybod mwy am eu gwaith, ewch i wefan Cymru Ifanc.

Hefyd, rydyn ni’n gweithio ar lefel y DU gyda Chyngor Ieuenctid Prydain a Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig. Ewch i’w gwefan i weld enghreifftiau o’u gwaith nhw a gweld a allech chi wneud gwahaniaeth i’ch Sir Gâr chi.

Yn ddiweddar, buon ni’n gweithio gyda CADW (Children taking Action Differently in Wales) sef grŵp o bobl ifanc sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys a Cheredigion sy’n cyfarfod i drafod materion sy’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn saff ac wedi’u diogelu rhag niwed. Yna, mae barn a safbwyntiau criw CADW yn cael eu cyflwyno gerbron grŵp o oedolion o’r enw 'Cysur' - Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae gan CADW 3 prif flaenoriaeth eleni sef:

  • Iechyd Meddwl
  • Camfanteisio ar Blant
  • Camddefnyddio Sylweddau

Addysg ac Ysgolion