Cymorth Ariannol

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Pan mae gennych blant yn yr ysgol, mae’r costau’n gallu cronni’n gyflym. Gallai fod gennych hawl i gymorth ariannol gyda hanfodion ysgol, i atal arian rhag bod yn rhwystr i addysg eich plentyn.

Os nad yw eich plentyn/plant yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gallwn ni gynnig cymorth i chi. I weld a ydych yn gymwys ar gyfer Pryd o Fwyd am Ddim neu Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad), sy’n cynnwys cymorth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau.

Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl i gymorth ychwanegol drwy Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad). I gael mynediad i’r cynllun eleni, cliciwch yma.

Bydd Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu cyflwyno i holl blant ysgolion cynradd Cymru dros y tair blynedd nesaf. I helpu’r dysgwyr ieuengaf cyn gynted â phosibl, bydd pob plentyn mewn Dosbarthiadau Derbyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim o’r mis Medi hwn.

Hefyd mae nifer o gronfeydd ymddiriedolaethau elusennol ar gael y gallwch chi neu’ch plant/plentyn fod yn gymwys i gyflwyno cais iddynt.

Addysg ac Ysgolion