Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad)

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Os yw eich plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod mwy o help ar gael drwy Hanfodion Ysgol (PDG – Mynediad). Edrychwch i weld a ydych yn gymwys am gymorth gyda hanfodion ysgol.

Diben y Grant Datblygu Disgyblion yw rhoi cymorth ariannol i deuluoedd ar incwm isel i brynu: 

  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol, sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefftau ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Cyfarpar e.e. bagiau ysgol a deunyddiau swyddfa;
  • Cyfarpar arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg;
  • Cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw.
  • Offer TG - gliniaduron a thabledi yn unig. Bydd angen i chi gadarnhau na all ysgol eich plentyn roi benthyg gliniadur/tabled iddo i'w defnyddio gartref.

Mae cyllid o hyd at £125 ar gael i bob plentyn cymwys, ac eithrio'r rhai ym Mlwyddyn 7 sydd â hawl i £200.

Pwy sy'n gymwys?

Mae cyllid ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim o fewn blynyddoedd ysgol Derbyn i Flwyddyn 11.

Mae’r cyllid hefyd ar gael i bob plentyn sy'n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol. Mae plant sy'n derbyn gofal yn golygu plant mewn gofal cyhoeddus, sydd wedi'u lleoli gyda gofalwyr maeth, mewn cartrefi preswyl neu gyda rhieni neu berthnasau eraill drwy Ddeddf Llys.

Bydd taliadau Grant Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad) yn cael eu gwneud yn awtomatig i'r teuluoedd hynny y mae eu manylion Prydau Ysgol am Ddim (PYaDd) ar ffeil yn darparu digon o wybodaeth i'w cymeradwyo. Bydd taliadau yn cael eu gwneud yn ystod mis Gorffennaf.

Sylwer NAD yw disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim oherwydd Gwarchodaeth Drosiannol a disgyblion sy'n gadael Blwyddyn 11 ym mis Gorffennaf 2023 yn gymwys i gael taliadau Grant Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad).

Sylwer hefyd y bydd angen i ddisgyblion sy'n symud i'r Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2023 gyflwyno cais am daliadau Grant Hanfodion Ysgol (GDD - Mynediad) drwy'r ddolen ganlynol, a fydd ar gael o ddydd Llun 3 Gorffennaf ymlaen. Bydd taliadau ar gyfer y disgyblion hynny sy'n gymwys ar gyfer y grant yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl.

Gwneud cais am daliadau Grant Hanfodion Ysgol (GDD - Mynediad)

Addysg ac Ysgolion