Cynnydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Prosiect yw Cynnydd sy'n cefnogi disgyblion rhwng 11 a 18 oed y nodir eu bod mewn perygl mawr o gael eu hymddieithrio rhag addysg. Gallai hyn fod yn sgil presenoldeb, cyrhaeddiad, ymddygiad neu am resymau eraill. Mae cefnogi'r bobl ifanc hyn yn eu helpu nhw i gwblhau eu haddysg ffurfiol a symud ymlaen i ddysgu, hyfforddiant neu gyflogaeth bellach.

Gwnaethom gynnig cwricwlwm amgen am dri diwrnod yr wythnos tan fis Mehefin 2018. Rydym yn dal i gynnig cymorth ymgysylltu drwy ein Tîm Ymgysylltu ag Ysgolion a'r Tîm Pontio i Gymunedau Oedolion sy'n gweithio mewn ysgolion uwchradd ledled y sir. Yn ogystal rydym yn cynnig cymorth lles emosiynol ac yn gweithio'n agos iawn â Thîm Cynnydd Coleg Sir Gâr er mwyn cefnogi pobl ifanc wrth iddynt symud ymlaen i goleg. Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cynnig cymorth o ran codi dyheadau, cysylltu â chyflogwyr a pharatoi pobl ifanc ar gyfer lleoliadau gwaith yng Nghyfnod Allweddol 4.

Os oes gennych unrhyw bryderon, gallwch gysylltu â Phennaeth neu Bennaeth Blwyddyn eich plentyn i drafod atgyfeiriad i brosiect Cynnydd a sut y gallwn ni helpu i gefnogi eich plentyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Tina Grech, Rheolwr Prosiect Cynnydd drwy ffonio 01267 246653 neu Mat Dick, Swyddog Data Cynnydd drwy ffonio 01267 246640 neu drwy e-bostio ni: ECSCynnydd@sirgar.gov.uk.

Addysg ac Ysgolion