Cwestiynau

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Dylai'r Cwestiynau Cyffredin canlynol ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am y broses Derbyn i Ysgolion. Cysylltwch drwy'r tab "Cysylltu â ni" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.

Nac ydych.

Gallwch fynegi pa ysgol yr hoffech i'ch plentyn fynd iddi. Ond nid oes sicrwydd bydd lle yn yr ysgol a ffefrir gennych. Os oes mwy o geisiadau nag sydd o leoedd, neu os yw'r Grŵp Blwyddyn eisoes yn llawn, efallai na fydd lle yn cael ei gynnig i chi.

 

Gallwch wirio'ch Dalgylch i nodi'r ysgolion sy'n agos at eich cyfeiriad cartref. Rhowch eich côd post.

Oes

Bydd dal angen i chi wneud cais. Ni roddir ystyriaeth i gynnig lle i chi oni bai bod cais yn cael ei wneud, hyd yn oed os mai hon yw eich ysgol leol chi, a bod brodyr a chwiorydd eisoes yn yr ysgol.

Na.

Er bod byw yn nalgylch yr ysgol yn rhoi mwy o flaenoriaeth i chi o ran cael lle mewn ysgol, nid yw'n rhoi sicrwydd y cewch le yn yr ysgol. Mae gan rai ardaloedd boblogaethau uchel, ac efallai na fydd lle yn cael ei gynnig i rai plant.

Dod o hyd i'ch dalgylch

Gwnewch gais i Dderbyniadau Sir Gaerfyrddin am ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn achos pob plentyn sydd am fynychu ysgol yn Sir Gaerfyrddin.

Rhaid i chi wneud cais i'r Sir mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi.

Gall rhieni wneud cais am le mewn unrhyw Ysgol mewn unrhyw Sir.

Mae Derbyniadau'n seiliedig ar gyfeiriad cartref y disgybl. Ni ellir ystyried y feithrinfa neu'r ysgol gynradd a fynychir wrth gynnig lleoedd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ysgol benodol ar dudalen Fy Ysgol Leol ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion wefan y gallwch ymweld â hi a darllen eu prosbectws ar-lein. Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gysylltu â'r ysgol i gael copi o'i phrosbectws.

Gofynnwch am gael ymweld â'r ysgol a siarad â'r Pennaeth.

Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni

Mae gan Rieni a Gofalwyr yr hawl i fynegi pa ysgol yr hoffent i'w plentyn fynd iddi a rhoi rhesymau dros y dewis hwnnw. Gelwir hyn yn ddewis rhieni.

Nid yw mynegi ysgol a ffefrir yn rhoi sicrwydd y caiff eich plentyn le yn yr ysgol honno.

Mae llawer o rieni yn ffafrio eu hysgol ddalgylch oherwydd mae hynny'n aml yn golygu y bydd plant yn gallu gwneud mwy o ffrindiau lleol a cherdded i'r ysgol.

Bydd y ffurflen gais yn caniatáu i chi gael 3 dewis a ffefrir. Bydd angen i chi roi'r ysgolion a enwir yn eich trefn ddewisol drwy eu graddio fel eich dewis 1af, 2il ddewis a 3ydd dewis.

Os mai dim ond un ysgol rydych yn ei henwi ac nad ydych yn cael cynnig lle yno, efallai na chewch le mewn unrhyw ysgol arall rydych yn ei hoffi. Bydd gwneud cais yn hwyr yn lleihau eich siawns o gael lle mewn ysgol arall o'ch dewis, oherwydd mae'n bosib bydd yr holl leoedd wedi cael eu dyrannu eisoes.

Wrth wneud cais am le yn yr ysgol, mae bob amser yn syniad da gwneud cais am 3 dewis a ffefrir ar eich ffurflen gais gychwynnol.

Rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar gyfer pob cam o addysg eich plentyn (e.e. Meithrin, Cynradd ac Uwchradd).

Mae pob cais ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cael ei wneud ar-lein.

Os nad oes gennych gyfrifiadur gartref, efallai y gallwch ddefnyddio un yn eich llyfrgell leol, cyfleusterau eraill fel canolfannau cymunedol a gefnogir gan yr awdurdod lleol, a'ch ysgol leol.

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am le mewn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (Ysgol Ffydd) gallwch wneud cais ar-lein ond efallai bydd angen i chi gwblhau gwybodaeth ychwanegol yn uniongyrchol gyda'r ysgol.

Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Ysgolion Ffydd) yn Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Ysgol Model
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Penboyr
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Pentip
Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn Llanelli
Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yng Nghaerfyrddin

Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd) yn Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd, Llanelli.

Mae'n rhaid i chi wneud cais ar-lein i Gyngor Sir Caerfyrddin drwy ddilyn y dolenni isod. Bydd pob ffurflen gais yn rhoi dyddiad dechrau'r ysgol yn seiliedig ar ddyddiad geni eich plentyn.

Os byddwch yn symud rhwng ysgolion nid oes dyddiad cychwyn penodol. Gallwch ddewis dyddiad amodol ond bydd angen cytuno ar hyn gyda'r ysgol os byddwch yn llwyddo i gael lle mewn ysgol.

Os nad oes gennych gyfrifiadur, defnyddiwch y cyfrifiadur yn eich llyfrgell leol. Gall rhieni hefyd gysylltu ag ysgolion yn uniongyrchol i ofyn am fwy o wybodaeth am yr ysgol. Fel arall, gofynnwch i'ch teulu neu'ch ffrind.

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol am y tro cyntaf mewn Ysgol Feithrin, Ysgol Gynradd neu Ysgol Uwchradd, mae'n rhaid i chi wneud cais drwy wefan Cyngor Sir Caerfyrddin erbyn y dyddiadau cau penodol.

Bydd yr amserlenni hefyd yn y Llyfryn Gwybodaeth i Rieni diweddaraf.

Mae hysbysiadau yn rhoi gwybod am ddyddiadau cau ar gael yn eich llyfrgelloedd lleol, clinigau babanod, meddygfa, yn ogystal â mewn ysgolion, meithrinfeydd ac ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter.

 

Bydd angen i chi ddilyn yr un broses ymgeisio. Cofiwch lenwi'r holl fanylion perthnasol.

Prif neu unig gyfeiriad cartref presennol y plentyn.

Os ydych yn bwriadu symud cyfeiriad, bydd gennych opsiwn ar y ffurflen gais i gynnwys y cyfeiriad newydd.

Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cyfeiriad cartref.

Pan nodir cyfrifoldeb rhieni yna mae'n ofynnol eich bod wedi ymgynghori â'r holl bartïon ac wedi cael eu cymeradwyaeth cyn gwneud cais.

Os na all pobl sydd â chyfrifoldeb rhieni gytuno ar eu dewis o ysgol, bydd angen i chi ddatrys y mater cyn gwneud cais. Os na ellir cytuno ar ddewis o ysgol, bydd angen i chi ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol i ddatrys y mater cyn i'r cais gael ei ystyried.

Pan fydd y cyfrifoldeb am y plentyn yn cael ei rannu, a phan fydd y plentyn yn byw gyda’r ddau riant, neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol am y plentyn, am ran o’r wythnos, y brif breswylfa fydd y cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y rhan fwyaf o’r wythnos, neu lle mae'r preswylio'n 50/50, cyfeiriad y rhiant sy'n cael Budd-dal Plant.

Mae'n bosibl y gofynnir i'r rhieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol a fydd yn ategu'r cyfeiriad a ddefnyddir pan gaiff lle ei gynnig.

Os ydych yn symud cyfeiriad ac nad oes angen lle mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin arnoch mwyach, anfonwch e-bost at y Tîm Derbyniadau i ganslo'r lle yn yr ysgol.

Os ydych yn symud cyfeiriad ond dal angen lle ysgol, anfonwch e-bost at y Tîm Derbyniadau â manylion eich cyfeiriad newydd.

Bydd gwneud cais ar ôl y dyddiadau cau a hysbysebir yn cael ei ystyried fel Cais Hwyr.

Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i blant fod yn yr ysgol yn amser llawn ar ddechrau'r tymor ar ôl iddyn nhw droi'n bump oed.

Gall plant yn Sir Gaerfyrddin ddechrau addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor maent yn troi'n 4 oed.

Yn achos ysgolion Cymunedol ac ysgolion Gwirfoddol a Reolir, yr Awdurdod Lleol, sef Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau.

Yn achos ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd), gwneir y penderfyniadau gan y Corff Llywodraethu, sydd fel arfer yn sefydlu panel derbyn i benderfynu ar y ceisiadau.

Rhaid i awdurdodau derbyn dderbyn plant hyd at nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael (nifer derbyn).
Os oes mwy o geisiadau na'r nifer derbyn, yna bydd yr awdurdod derbyn yn cynnig lleoedd i blant yn unol â'r rhestr o reolau ar gyfer derbyn plant i'r ysgol.

Mae'r rheolau, a elwir yn feini prawf gor-alw, yn cael eu defnyddio ar gyfer pob cais am le mewn ysgol sydd â mwy o geisiadau na lleoedd. Maent yn cynnwys os ydych yn byw yn nalgylchoedd yr ysgol, os oes gennych frawd neu chwaer eisoes yn yr ysgol; mae'r Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni yn dangos y rhestr lawn o'r meini prawf a'r hyn a ddefnyddir wrth ddyrannu lleoedd mewn ysgolion lle mae gormod o alw.

Na, Awdurdodau Derbyn yw'r unig rai sy'n gallu dyrannu lleoedd.

Nid yw penaethiaid yn gyfrifol am benderfynu pwy all fynychu eu hysgol nac unrhyw ysgol arall.

Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn na chorff roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylai rhieni ddiystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.

Ar gyfer ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Ffydd), gwneir penderfyniadau gan y corff llywodraethu, sydd fel arfer yn sefydlu panel derbyn i benderfynu ar y ceisiadau.

Nac ydy.

Ar gyfer ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, fel arfer mae meini prawf yn ymwneud â'r Eglwys y mae'r ysgol yn perthyn iddi. Mae'n bwysig gwirio beth yw'r meini prawf pan fyddwch yn gwneud cais. Mae gan ysgolion Gwirfoddol a Reolir yr un meini prawf ar gyfer gor-alw ag ysgolion cymunedol yr Awdurdod Lleol.

Rhaid i chi wneud eich gorau i gyflwyno'ch cais i'r awdurdod derbyn erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd. Os ydych yn hwyr yn cyflwyno'ch cais, ni fydd yn cael ei ystyried gyda'r rhai oedd ar amser. Os caiff yr holl leoedd eu dyrannu i'r ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau, gallai hyn olygu y bydd eich plentyn yn colli allan ar le yn yr ysgol a ffefrir gennych.

Dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf (y Cylch Derbyn Arferol)

Mae pob awdurdod derbyn yn nodi amserlen ar gyfer hysbysu rhieni o benderfyniadau ar y Diwrnodau Cynnig Cenedlaethol dynodedig yng Nghymru ynghylch ceisiadau ysgol a gyflwynir yn brydlon. Gellir dod o hyd i'r amserlen hon yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni 

Y Diwrnodau Cynnig Cenedlaethol yw:

  • Ar gyfer ysgolion Cynradd 16 Ebrill neu'r diwrnod gwaith nesaf.
  • Ar gyfer ysgolion Uwchradd 1 Mawrth neu'r diwrnod gwaith nesaf.
  • Ar gyfer Meithrin rhan-amser ym mis Hydref.

Bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried mewn rowndiau dilynol, fel arfer bob mis.

 

Newid ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd (Y tu allan i'r Cylch Derbyn Arferol)

Os ydych yn symud rhwng ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd, dylech gael gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag sydd gynharaf.

Dylai rhieni wirio eu mewnflwch Sothach a Sbam os nad ydynt wedi derbyn hysbysiad o benderfyniad erbyn diwedd y diwrnod cynnig Cenedlaethol.

Dylai rhieni nad ydynt wedi derbyn penderfyniad anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk gyda chyfeirnod y Cais.
Gellir dod o hyd i gyfeirnod y Cais ar yr e-bost cadarnhau a anfonwyd atoch chi ar ôl i chi gyflwyno cais.

Mae'n rhaid bod rhieni wedi gwneud cais am y flwyddyn academaidd berthnasol sy'n ymwneud â'r diwrnod cynnig cenedlaethol.

 

Rhaid i rieni e-bostio derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt yn dymuno newid eu dewisiadau ysgol.

Prosesir y ceisiadau yn y drefn y cânt eu derbyn. Efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd.

Bydd newidiadau a wneir ar ôl y dyddiadau cau a gyhoeddwyd yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr

E-bostiwch y Tîm Derbyniadau gydag enw llawn y plentyn, y dyddiad geni, yr ysgol(ion) rydych wedi gwneud cais amdanynt neu'r cyfeirnod.

Gellir ychwanegu unrhyw blentyn nad yw'n cael lle at restr aros: bydd angen i chi ofyn i'ch plentyn gael ei ychwanegu at y rhestr aros drwy e-bostio  derbyniadau@sirgar.gov.uk

Rhaid cadw plant ar y rhestr hon tan 30 Medi yn y flwyddyn ysgol y gwnaethpwyd cais amdani. Weithiau daw lle ar gael ddechrau Medi, oherwydd bod plant yr oedd disgwyl iddynt ddechrau mewn ysgol wedi mynd i ysgol arall am ryw reswm. Weithiau ni fydd dim lleoedd ar gael.

Na fydd.

Os daw unrhyw leoedd ar gael i'w cynnig, bydd yr Awdurdodau Derbyn yn edrych ar yr holl blant ar y rhestr aros, ynghyd ag unrhyw geisiadau newydd a dderbynnir yn unol â'r meini prawf/rheolau dyrannu mewn achosion o or-alw.

Efallai na fydd bod ar y rhestr aros yn rhoi sicrwydd o gael lle yn yr ysgol.

Gwiriwch Fewnflwch e-bost y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych ar y ffurflen gais.

Gofynnir i chi glicio "derbyn neu wrthod y lle".

Os caiff hyn ei gadarnhau'n brydlon mae'n helpu'r Awdurdod Lleol a'r ysgol i baratoi ar gyfer eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol.

Pan fydd lle wedi'i dderbyn, mae angen i rieni gysylltu â'r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.

Ni all plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y lle wedi'i dderbyn.

Mae gan rieni'r hawl i Apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle mewn ysgol (lle ysgol amser llawn yn unig).

Dylai rhieni ystyried gwneud cais am ysgolion eraill.

Os nad ydych wedi cael cynnig lle yn eich dewis ysgol, mae gennych yr hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol (nid oes hawl i apelio ar gyfer ceisiadau meithrin).

Bydd y panel Apêl yn ystyried eich achos dros adael i'ch plentyn fynychu'r ysgol ac achos yr Awdurdod Derbyn dros wrthod eich cais. Bydd y panel apêl yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol ac mae'n gyfreithiol rwymol.

Wrth wneud cais am le yn yr ysgol, mae bob amser yn syniad da meddwl am ysgolion eraill y byddech hefyd yn hapus â nhw rhag ofn na fydd eich dewis cyntaf ar gael.

Os byddwch yn gwneud cais am un ysgol yn unig, yna mae'n bosib na fydd lle mewn unrhyw ysgol gennych, heblaw ysgol efallai nad ydych yn dymuno ei mynychu.

 

Dim ond ar gyfer plant oedran ysgol amser llawn y gall rhieni apelio, y rhai mewn addysg feithrin amser llawn hyd at Flwyddyn 11.

Os yw eich plentyn o oedran meithrin rhan-amser, ni allwch apelio yn erbyn gwrthod cynnig lle.

Os gwrthodir lle i'ch plentyn, mae gennych yr hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol, ac eithrio'r rhai y mae eu plentyn wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu'r rhai y gwrthodwyd lle meithrin rhan-amser iddynt.

Bydd yr e-bost gwrthod yn esbonio'r canlynol:

  • rhesymau dros wrthod
  • gwybodaeth am eich hawl i apelio a manylion am sut i wneud apêl
  • manylion ble ddylech anfon eich hysbysiad o apêl.
  • bydd y terfyn amser o ran apelio yn cael ei nodi yn eich llythyr gwrthod.

Caiff eich apêl ei chlywed yn breifat.

Os oes llawer o apeliadau ar gyfer un ysgol, gellir gwneud cam cyntaf yr apêl fel grŵp a chael rhieni eraill yn bresennol sydd hefyd wedi apelio.

Bydd y gwrandawiad apêl yn dilyn y patrwm a nodir isod:

Cam 1

  • Bydd y swyddog yn esbonio pam y gwrthododd yr awdurdod derbyn eich cais/ceisiadau (e.e. byddai gormod yn yr ysgol).
  • Bydd y rhiant yn cael cyfle i gwestiynu rhesymau'r awdurdod derbyn dros wrthod.

Os bydd y Panel yn penderfynu ar y pryd nad oedd angen gwrthod lle, er enghraifft, os na fyddai'r ysgol yn rhy llawn, bydd y gwrandawiad yn dod i ben, a bydd y rhiant yn cael gwybod bod yr apêl wedi bod yn llwyddiannus.

Os bydd y Panel yn penderfynu bod rhesymau dros wrthod ar y sail byddai'r ysgol yn rhy llawn, yna bydd ail gam yn dilyn, bydd y rhain bob amser yn apeliadau unigol (preifat).

Cam 2

  • Bydd y rhiant yn esbonio pam y dylid rhoi lle i'w blentyn yn yr ysgol er ei bod yn llawn
  • Bydd y Panel a'r awdurdod derbyn yn cael cyfle i gwestiynu rhesymau'r rhieni
  • Bydd yr Awdurdod Derbyn wedyn yn crynhoi'r achos
  • Cewch chi gyfle hefyd i grynhoi eich achos

Bydd y Panel yn gwrando ar bob ochr i'r achos a gall ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg os oes angen eglurhad neu ragor o wybodaeth arnynt i ddod i benderfyniad.

Dylai penderfyniad y Panel gael ei anfon yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Gall Apeliadau Grŵp gymryd mwy o amser.

Os ydych wedi apelio ac wedi bod yn aflwyddiannus ni fyddai gennych hawl i ail apêl ar gyfer yr un ysgol yn yr un flwyddyn academaidd/ysgol.

Gall awdurdodau derbyn ystyried cais newydd os bu newid sylweddol yn eich amgylchiadau.

Gallwch wneud cais arall am le mewn blwyddyn academaidd/ysgol arall a hefyd gael hawl newydd i apelio os na fyddwch yn llwyddo i gael lle.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r Gwasanaethau Democrataidd neu Derbyniadau.

Dim ond cwynion ysgrifenedig am gamreoli Panel Apêl Derbyniadau y gall yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ymchwilio iddynt. Nid yw'n delio â chwynion lle mae rhywun yn teimlo bod y penderfyniad a wnaed yn anghywir.

Gellir cysylltu â'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Rhif Ffôn (01656) 641150

Llwythwch mwy

 

Addysg ac Ysgolion