Gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed)

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/04/2024

Gwybodaeth Bwysig: Mae'r dudalen hon ar gyfer ceisiadau amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed) yn unig. I wneud cais am le rhan-amser (3 oed) yn un o'n hysgolion 3-11, ewch yn ôl a chlicio ar 'Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa (3 oed)'. Darllenwch y wybodaeth ganlynol cyn dechrau ar eich cais.

Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn ac os ydych yn gwneud cais am ysgol mewn sir arall, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol.

Yn 4 oed mae hawl gan eich plentyn i fynychu'r ysgol gynradd yn amser llawn. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi anfon eich plant i'r ysgol nes eu bod yn 5 oed, ond mae llawer o rieni'n gweld bod dechrau'n gynnar fel hyn yn fuddiol. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu cyn gwneud cais. Mae cysylltu â'r ysgol a siarad â'r athrawon yn ffordd wych o wybod a ydych yn gwneud y dewis iawn i chi a'ch plentyn. Dim ond ar ôl i chi wneud cais a chael cadarnhad gennym fod eich plentyn wedi'i dderbyn y gall eich plentyn ddechrau yn yr ysgol.

Dod o hyd i ysgol gynradd.

Os ydych yn ystyried anfon eich plentyn i un o'r ysgolion cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir (ffydd), (Model, Penboyr, Pentip, y Santes Fair Caerfyrddin, y Santes Fair Llanelli) yn ogystal â gwneud cais drwy'r wefan hon, gofynnir i rieni lenwi ffurflen gais bapur yr ysgol hefyd.

Gwybodaeth bwysig:  Plant a aned cyn 1 Medi 2021  

Gall plant a aned cyn 1 Medi 2021 ddechrau addysg llawn amser ar ddechrau yn y tymor o’i 4ydd pen-blwydd os bydd eu cais yn llwyddiannus. 

Ystod dyddiad geni

Dechrau ysgol Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais Dyddiad llythyron cynnig llefydd Dyddiadau cau am apeliadau

1 Medi 2020 to 31 Awst 2021

Medi 2024, Ionawr neu Ebrill 2025 31 Ionawr 2024 16 Ebrill 2024 - neu’r diwrnod Gwaith nesaf 30 Mai 2024

 

Plant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021

Yn dilyn yr ymgynghoriad, penderfynwyd dileu'r polisi plant sy'n codi'n 4 oed a derbyn dysgwyr yn amser llawn i ysgolion cynradd yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed, dechrau ym Medi 2025. Gall plant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021 wneud cais am addysg gynradd llawn amser a dechrau yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

Ystod dyddiad geni

Dechrau ysgol Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais Dyddiad llythyron cynnig llefydd Dyddiadau cau am apeliadau
1 Medi 2021 to 31 Awst 2022 Ionawr, Ebrill, Medi 2026 31 Ionawr 2025 16 Ebrill 2025 - neu’r diwrnod Gwaith nesaf 14 Mai 2025

Am mwy o gwybodaeth am newidiadau dyddiadau dechrau addysg llawn amser cliciwch yma

Gwybodaeth bwysig:  Plant a aned cyn 1 Medi 2021  

Gall plant a aned cyn 1 Medi 2021 ddechrau addysg llawn amser ar ddechrau yn y tymor o’i 4ydd pen-blwydd os bydd eu cais yn llwyddiannus. 

Ystod dyddiad geni

Dechrau ysgol Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais Dyddiad llythyron cynnig llefydd Dyddiadau cae am apeliadau

1 Medi 2020 to 31 Awst 2021

Medi 2024, Ionawr neu Ebrill 2025 31 Ionawr 2024 16 Ebrill 2024 - neu’r diwrnod Gwaith nesaf 30 Mai 2024

 

Plant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021

Yn dilyn yr ymgynghoriad, penderfynwyd dileu'r polisi plant sy'n codi'n 4 oed a derbyn dysgwyr yn amser llawn i ysgolion cynradd yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed, dechrau ym Medi 2025. Mae plant a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2021 yn gwneud cais am addysg gynradd llawn amser ac yn dechrau yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed.

Ystod dyddiad geni

Dechrau ysgol Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais Dyddiad llythyron cynnig llefydd Dyddiadau cae am apeliadau
1 Medi 2021 to 31 Awst 2022 Ionawr, Ebrill, Medi 2026 31 Ionawr 2025 16 Ebrill 2025 - neu’r diwrnod Gwaith nesaf ????

Am mwy o gwybodaeth am newidiadau dyddiadau dechrau addysg llawn amser cliciwch yma

Os ydych wedi methu'r dyddiad cau, gallwch wneud cais hwyr o hyd, ond gall effeithio ar eich siawns o gael lle.

Darpariaeth

Ganwyd rhwng

Dyddiad dechrau'r ysgol

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais

Dyddiad hysbysu

Addysg gynradd (4 i 11 oed)

1 Medi 2019 i 31 Awst 2020

Medi 2023 neu Ionawr/Ebrill 2024

31 Ionawr 2023

Ebrill 2023

Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn a dim ond ar-lein y gallwch wneud cais. Bydd angen ichi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw a chyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad* ac cyfeiriad
  • E-bost y rhiant/gwarcheidwad**
  • Enw’r plentyn, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni
  • Eich dewis ysgol – gallwch ddewis hyd at dair ysgol, mewn trefn blaenoriaeth

Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost ni allwch wneud cais ar-lein. Ewch i’ch ysgol leol a byddan nhw’n eich helpu gyda’ch cais.

Byddwch yn cael cydnabyddiaeth dros yr e-bost lle gallwch hefyd argraffu copi o’ch cais. Bydd unrhyw ohebiaeth am eich cais yn cael ei hanfon dros yr e-bost.

Os oedd eich cais o fewn y terfyn amser cewch eich hysbysu ar 16eg Ebrill neu’r diwrnod gwaith nesaf e.e. O ran y tymor yn cychwyn ym mis Medi 2024 cewch eich hysbysu ar 16eg Ebrill 2024.

Os oedd eich cais yn hwyr mae gennych lai o siawns o gael lle ac ni allwn warantu y bydd eich plentyn yn cychwyn ar ddechrau’r tymor. Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosib ond mae’r broses ymgeisio yn gallu cymryd hyd at chwe wythnos.

Os cynigir lle ichi rhaid ichi dderbyn neu gwrthod y lle a gynigiwyd erbyn y dyddiad nodir yn yr e-bost. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch. Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, RHAID ichi gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn.

Dim ond os yw’r flwyddyn rydych yn gwneud cais amdani yn llawn y byddwn yn gwrthod lle mewn ysgol. Fodd bynnag, os gwrthodir lle i’ch plentyn yn unrhyw un o’r ysgolion Cynradd rydych wedi gwneud cais amdanynt, mae yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Mi fydd yn rhaid i chi hefyd ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych am i enw'ch plentyn gael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi ac, os daw lle ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Gallwch wneud cais hwyr am ysgolion eraill.

Each i'r tudalen Apeliadau am mwy gwybodaeth.

Gwneud cais am le amser llawn mewn ysgol gynradd (4 oed)

Addysg ac Ysgolion