Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Os gwrthodir lle i’ch plentyn yn unrhyw un o’r ysgolion rydych wedi gwneud cais amdanynt, cewch eich hysbysu dros yr e-bost. Dim ond os yw’r flwyddyn rydych yn gwneud cais amdani yn llawn y byddwn yn gwrthod lle mewn ysgol. Os gwrthodir lle i’ch plentyn yn unrhyw un o’r ysgolion rydych wedi gwneud cais amdanynt, mae yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Yr unig eithriad i hyn yw os ydych yn gwneud cais am le Meithrin rhan-amser i’ch plentyn 3 oed. Yn yr achos hwn nid oes hawl i apelio.
Sut mae apelio
- Rhaid ichi apelio o fewn yr amser ar eich llythyr hysbysu.
- Mae angen ichi ysgrifennu at y Gwasanaethau Democrataidd yn dweud pam rydych chi’n meddwl y dylai’ch plentyn gael lle yn yr ysgol.
- Caiff apeliadau eu trefnu gan y Gwasanaethau Democrataidd. Caiff eich apêl ei ystyried gan Banel Apeliadau Annibynnol o 3 neu 5 person, sy'n cynnwys pobl leyg (bobl nad oes ganddynt brofiad personol o reoli / ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol) a phobl â phrofiad o faes addysg. Nid yw aelodau’r Panel yn weithwyr cyflog i’r Cyngor a byddwch yn cael gwahoddiad i’r cyfarfod. Cynhelir y cyfarfod fel arfer yng Nghaerfyrddin neu Lanelli.
- Mae penderfyniad y Panel yn derfynol. Dim ond unwaith ym mhob blwyddyn ysgol y cewch apelio, am bob ysgol.
Gallwch ddisgwyl clywed penderfyniad y Panel ar eich apêl o fewn 7 - 10 diwrnod gwaith o’r gwrandawiad.
Addysg ac Ysgolion
Dysgu oedolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Cludiant Ysgol
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Cymorth i ddysgwyr
- Llais plentyn
- Partneriaeth â Rhieni
- Beth yw fy hawliau?
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaeth arbenigol
- Cynnydd
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion