Cerdded i'r Ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2024

Mae ein Rhaglen Cerdded i'r Ysgol yn eich annog chi i gerdded, beicio neu fynd ar gefn sgwter i'r ysgol ac yn ôl adref gyda'ch plentyn/plant.

Mae cerdded i'r ysgol o fantais i ddisgyblion, rhieni, yr ysgol a'r gymuned leol mewn amryw o ffyrdd:

  • Mae'n datblygu sgiliau cerdded yn ddiogel a sgiliau diogelwch ffordd
  • Mae'n lleihau tagfeydd traffig o amgylch gatiau'r ysgol - dim mwy o ymladd am y lle parcio olaf
  • Mae'n arbed amser - yn aml mae'n gyflymach i gerdded (pellter bach hyd yn oed) yn hytrach nag eistedd mewn traffig!
  • Mae disgyblion yn cyrraedd yr ysgol yn fwy effro ac ar amser
  • Mae llai o nwyon o geir yn golygu gwell ansawdd aer
  • Mae'n hybu ymarfer corff cymedrol

Os hoffech roi cynnig arni, bydd y cynlluniau canlynol yn rhoi ychydig o syniadau i chi ynghylch sut i fynd ati yn ogystal ag adnoddau defnyddiol i'w lawrlwytho.

Cerdded ar ddydd Mercher / Cerdded unwaith yr wythnos

Beth am osod her i'ch plentyn/plant o gerdded i'r ysgol o leiaf unwaith yr wythnos am dymor cyfan neu'r flwyddyn ysgol gyfan hyd yn oed? Beth am lawrlwytho'r garden gofnodi i nodi cynnydd eich plentyn/plant o ran yr her o gerdded i'r ysgol unwaith yr wythnos?

Parcio a Chamu

Os ydych chi'n byw yn rhy bell i ffwrdd o'r ysgol i gerdded y siwrnai gyfan, beth am barcio ychydig i ffwrdd a cherdded 5/10 munud olaf y siwrnai? Bydd hyn yn helpu i leihau tagfeydd wrth gatiau'r ysgol ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol.

Pa ffordd heddiw?

Cystadleuaeth wythnos o hyd sy'n cael ei chynnal mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â dosbarth yn cystadlu yn erbyn dosbarth arall er mwyn gweld pa un sy'n gallu 'Camu' bellaf o'ch ysgol yw Her Pa Ffordd Heddiw. Cynhelir yr Her yn ystod wythnosau a ddynodwyd yn arbennig ar gyfer Her Pa Ffordd Heddiw.

Drwy ddechrau ar y tirnod agosaf i'ch ysgol ar y map Pa Ffordd Heddiw bob tro y mae ef/hi yn teithio i'r ysgol ar droed, ar feic, drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhannu car neu gyda phlant eraill neu drwy barcio a chamu*. Y dosbarth buddugol yw'r un sy'n lliwio'r mwyaf o olion traed fesul disgybl ac sy'n mynd bellaf o amgylch Sir Gaerfyrddin mewn wythnos.

*Parcio a chamu = parcio o leiaf 5-10 munud i ffwrdd o'r ysgol a cherdded gweddill y daith yn ddiogel.

Addysg ac Ysgolion