Dysgu oedolion

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/04/2024

A ydych chi'n 16+ ac eisiau dysgu rhywbeth newydd neu gael cymhwyster ffurfiol? Mae gennym ganolfannau addysg yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Llandeilo.

Rydym yn cynnal cyrsiau SSIE, Saesneg a Mathemateg hyd at lefel TGAU mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr, sy'n ategu eu darpariaeth ac yn creu llwybrau dilyniant i ddysgwyr. Mae ein cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn cael eu darparu ar ran y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg.