Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/04/2024

Ydych chi am ddysgu hanfodion gwyddor Iaith Arwyddion Prydain?  Gallwch ddysgu sut i ofyn cwestiynau, a deall yr atebion a roddir!

Cwrs i ddechreuwyr yw hwn sef Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain lefel 1. Ni fydd angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch ynghylch Iaith Arwyddion Prydain.  Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno am ddwy awr yr wythnos am 10 wythnos, a'i achredu gan Agored Cymru. Cwrs ystafell ddosbarth dan arweiniad tiwtor yw hwn.

Ar ddechrau’r cwrs byddwch yn cytuno ar eich nodau gyda'ch tiwtor ac yn llunio'ch cynllun dysgu eich hun. Byddwch yn cadw eich gwaith mewn portffolio ac yn olrhain yr hyn rydych yn ei ddysgu. Bydd eich tiwtor yn asesu hyn ac yn rhoi adborth i chi'n rheolaidd i'ch helpu i wella. Bydd pob gwers yn ychwanegu at yr hyn rydych wedi ei ddysgu eisoes (ond bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith yn ystod yr wythnos). 

Lleoliad Diwrnod / Amser Wythnosau  Dyddiad Dechrau Y Ffi Cyflwyno'r cwrs
Canolfan Ddysgu Llanelli - Y Sied Nwyddau i'w gad 10 i'w gad £85  Ystafell ddosbarth
Canolfan Ddysu Caerfyrddin Dydd mawrth, 5-7yp 10 22/05/2024 £85

Ystafell ddosbarth

Canolfan Ddysu Caerfyrddin Dydd mawrth, 7-9yp 10 22/05/2024 £85

Ystafell ddosbarth

Canolfan Gymunedol Cwmaman i'w gad 10 i'w gad £85

Ystafell ddosbarth

Sut i gofrestru?

Ffoniwch 01267 235413 neu e-bost i gofrestru, neu os oes gennych ymholiadau pellach. Ar ddyddiad dechrau eich cwrs, byddwch yn cwblhau ffurflen gofrestru ac yn talu. Gellir talu ag arian parod, siec yn daladwy i 'Cyngor Sir Caerfyrddin' neu ar-lein (rhoddir dolen wrth gofrestru). A fyddech cystal â dod â chopi o'ch pasbort neu drwydded yrru sy'n cynnwys llun fel prawf hunaniaeth.

Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.

Addysg ac Ysgolion