Sgiliau Hanfodol - Mathemateg a Saesneg

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/09/2023

Os hoffech wella'ch sgiliau Mathemateg neu Saesneg, mae ein rhaglen sgiliau hanfodol yn berffaith ar eich cyfer. Gallwch ddewis astudio rhaglen sgiliau hanfodol mewn Mathemateg, Saesneg neu'r ddwy. Mae ein rhaglenni'n addas i ddechreuwyr hyd at lefel 2 a byddant yn caniatáu ichi gamu ymlaen i astudio TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg. Mae'r sesiynau ar gael yn ystod y dydd a'r nos a gallwch eu mynychu wrth eich pwysau eich hun, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar.

Bydd y rhaglen hon yn datblygu eich sgiliau i:

  • Helpu eich plant gyda gwaith cartref
  • Meithrin hyder yn y gwaith
  • Ennill sgiliau ar gyfer cyflogaeth
  • Ennill cymhwyster i'ch helpu i gamu ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch

Sut i gofrestru?

Os ydych yn ddysgwr newydd neu os oes gennych ymholiad, ffoniwch 01267 235413 neu anfonwch e-bost i wneud apwyntiad i ddarganfod pa ddosbarth mathemateg neu Saesneg sy'n addas i chi. Rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfweliad anffurfiol gydag aelod o staff a chael asesiad cyn cofrestru. Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Dewch â chopi o'ch cerdyn adnabod â llun (pasbort neu drwydded yrru) gyda chi.

Peidiwch â phoeni am y cyfweliad asesu. Nid prawf yw hwn! Rydym am i chi lwyddo a bod yn hapus yn eich dosbarth, diben yr asesiad yw rhoi cyfle i ni ddarganfod beth rydych chi eisoes yn ei wybod, a pha ddosbarth fyddai'r gorau i chi o ran lefel a chyflymder. Gallwch weithio ar gyflymder sy'n addas i chi!

Ein nod yw darparu pob dosbarth a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.

Dyddiadau Tymor 2023/24 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2023 04 Medi 30 Hydref - 03 Tachwedd 22 Rhagfyr
Gwanwyn 2024 08 Ionawr 12 Chwefror - 16 Chwefror 22 Mawrth
Haf 2024 08 Ebrill 27 Mai - 31 Mai 19 Gorffennaf

Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi'r Llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o'r fath.

Mae'r cwrs yma mewn partneriaeth a Choleg Sir Gâr.

Addysg ac Ysgolion