Gwella ymddygiad disgyblion Ysgolion Uwchradd Sir Gâr

 

Mae ymddygiad gwael wedi mynd yn arferol.”
Mae grwp bach o ddisgyblion yn gallu effeithio ar ysgol gyfan.”
Ma’ rhai pobol yn ymladd i gael sylw.”

 

Dyma rhai o’r sylwadau mae disgyblion Sir Gâr yn eu lleisio mewn ymgyrch sy’n anelu at wella ymddygiad yn Ysgolion Uwchradd yr awdurdod.

Mae’r ymdrech yn un ar y cyd rhwng y Cyngor a C.A.S.H – Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd y Sir.

Ar hyd a lled Cymru, mae niferoedd o athrawon yn tystio i enghreifftiau o’r un dirywiad yn ymddygiad rhai disgyblion ers dychwelyd i addysg ffurfiol wedi cyfnodau clo’r pandemig. Mae’r ymddygiad yn gallu bod ar ffurf defnyddio iaith sarhaus gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon; bod yn anystywallt mewn gwersi; anweddu (vaping) mewn toiledau adeg gwersi ac amryw o enghreifftiau eraill.

Er lles disgyblion ac athrawon, mae Cyngor Sir Gâr yn cefnogi eu Penaethiaid i weithredu.

Mynychodd disgyblion ac athrawon POB UN o ysgolion y Sir sesiwn rhannu profiad yn Neuadd y Sir ym mis Gorffennaf. Cafodd trawstoriad o sylwadau eu recordio a’u defnyddio i greu fideo sy’n ran o’r ymgyrch. Bydd y fideo’n cael ei ddangos ymhob un o Ysgolion Uwchradd Sir Gâr ym mis Medi ac yn cael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gwybodaeth ar bosteri a baneri’r ymgyrch yn cyfeirio disgyblion at ffynonellau lle gallan nhw gael cyngor pellach am bwysigrwydd gwella ymddygiad.

Mae angen i ysgolion reoli ymddygiad yn dda fel y gallant ddarparu amgylchedd digyffro, trefnus, diogel a chefnogol lle mae plant a phobl ifanc eisiau mynychu a lle gallant ddysgu a ffynnu. Mae dysgu sut i ymddwyn yn dda yn hanfodol i blant lwyddo'n bersonol ac iddynt lywio'u ffordd yn llwyddiannus drwy'r cymunedau lle maent yn byw.

Mae angen i rieni, disgyblion, ac aelodau o staff wybod sut gallant helpu ei gilydd. Os yw rhieni, disgyblion a staff yn gweithio gyda'i gilydd, mae ymddygiad da yn fwy tebygol o ddigwydd.

Rydym wedi cynnwys adnoddau isod sy'n cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi ymddygiad cadarnhaol.