ParentPay
Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn cyflwyno ParentPay, fel ffordd fwy cyfleus a diogel i chi dalu am brydau ysgol ar-lein. Pan fydd eich ysgol yn dechrau defnyddio ParentPay, byddwch yn derbyn llythyr gydag enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Bydd rhaid i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf. Hefyd, bydd angen arnoch gyfeiriad e-bost dilys.
Trwy ddefnyddio'ch cyfrif ParentPay, gallwch wneud y canlynol:
- talu am brydau ysgol ac eitemau eraill megis tripiau ysgol, gwisg ysgol ac ati.
- gweld hanes yr holl daliadau rydych wedi'u gwneud
- creu un cyfrif ar gyfer eich holl blant
- cael derbynebau a negeseuon e-bost awtomatig yn eich atgoffa bod angen rhoi rhagor o arian yn eich cyfrif. Gallwch dderbyn negeseuon atgoffa trwy neges destun ond mae yna ffi o 6c y neges ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae derbynebau a negeseuon atgoffa dros e-bost yn rhad ac am ddim.
- gwneud taliadau 24/7 gan ddefnyddio unrhyw ddyfais sydd â mynediad i'r rhyngrwyd
- talu am dripiau ysgol bob yn dipyn
Ni fydd angen i chi anfon eich plant i'r ysgol gydag arian parod neu sieciau, mae'r taliadau'n digwydd ar unwaith a bydd yr arian ar gael yn syth ar gyfrif eich plentyn. Ar ôl i'r ysgol ddechrau defnyddio ParentPay, ni fyddwn yn derbyn taliadau arian parod/sieciau am brydau ysgol yn yr ysgol.Os oes angen i chi barhau i wneud taliadau trwy ddefnyddio arian parod, gallwch ddefnyddio PayPoint sydd ar gael mewn nifer o siopau lleol yn y Sir.
Addysg ac Ysgolion
Dysgu oedolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion / Newid ysgol
- Gwneud cais am le mewn ysgol: plant 3 oed
- Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd
- Symud i ysgol uwchradd
- Newid ysgol
- Dyfarnu lleoedd ysgol: Meini prawf
- Dalgylchoedd
- Apêl: Os gwrthodir lle mewn ysgol
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Cludiant Ysgol
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
- Prydau ysgol gynradd
- Prydau ysgol uwchradd
- Prydau ysgol am ddim
- Brecwast / llaeth ysgol am ddim
- Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
- Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch
- Cwestiynau cyffredin
- Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
ParentPay
Cymorth i ddysgwyr
- Llais plentyn
- Partneriaeth â Rhieni
- Beth yw fy hawliau?
- Seicoleg Addysg a Phlant
- Darpariaeth arbenigol
- Cynnydd
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Mwy ynghylch Addysg ac Ysgolion