Prydau ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/04/2024

Mae prydau ysgol yn gyfraniad pwysig at ddeiet plant a phobl ifanc. Mae ein bwydlenni iach, sy'n tynnu dŵr o'r dannedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Gellir darparu ar gyfer anghenion arbennig o ran deiet os ceir cais ysgrifenedig gan rieni/gwarcheidwaid.

Bob diwrnod ysgol, mae ein staff arlwyo profiadol sydd wedi cael hyfforddiant llawn yn paratoi mwy na 19,000 o brydau mewn mwy na 110 o sefydliadau addysgol.

Manteision bwyta pryd ysgol:

  • Mae’n arbed amser yn y bore gan nad oes angen paratoi cinio a hefyd nid oes angen poeni am gadw bwyd yn ffres tan amser cinio.
  • Mae prydau ysgol yn cynnig llysiau, salad a ffrwythau ffres sy'n helpu'ch plentyn i gael 5 y dydd.
  • Mae eistedd a bwyta gyda'i gilydd wrth y bwrdd yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a moesgarwch wrth y bwrdd; anogir disgyblion hefyd i roi cynnig ar fwydydd newydd.
  • Mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn derbyn gwybodaeth yn well yng ngwersi'r prynhawn os ydynt wedi cael pryd da amser cinio.
  • Rydym yn gyson yn cynnig bwydlen y dydd ar sail thema, yn ogystal â chinio Nadolig 2 gwrs arbennig yn ystod mis Rhagfyr.

Darperir y Gwasanaeth Prydau Ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn fewnol gan Is-adran Arlwyo y Cyngor Sir.