Prydau Ysgol am Ddim

Gallech fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen warant y Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Plant ac nid yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190
  • Ategiad Credyd Treth Gwaith – wedi’i dalu 4 wythnos ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol ac nid yw incwm net blynyddol eich aelwyd yn fwy na £7,400 (£616.67 y mis)
  • Cymorth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith yn ogystal ag unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys, hyd yn oed os yw incwm yr aelwyd yn is na £16,190.

Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ac angen rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau e.e., newid cyfeiriad, ysgol, newid hawl i fudd-daliadau neu blentyn ychwanegol yn mynychu'r ysgol, mae angen i chi roi gwybod i ni am eich 'Newid mewn Amgylchiadau'.

Os ydych eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim ond nad oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau, NID oes angen i chi wneud cais eto.

GWNEUD CAIS AM BRYDAU YSGOL AM DDIM A RHOI GWYBOD I NI AM NEWID YN EICH AMGYLCHIADAU

 

Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd yn raddol

Bydd Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd yn cael eu gwneud mewn cyfnodau o wahanol grwpiau blwyddyn. Ers mis Medi 2022, mae pob plentyn Meithrin a Derbyn llawn amser wedi cael cynnig Pryd Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd (UPFSM). Ymestynnwyd y ddarpariaeth hon i holl ddisgyblion Blwyddyn 1 ym mis Ionawr 2023,i holl ddisgyblion Blwyddyn 2 ym mis Ebrill 2023, Blwyddyn 3 a 4 ym mis Medi 2023, ac i holl ddisgyblion Blwyddyn 5 yn Chwefror2024.

Yn dechrau ar 8 Ebrill 2024., byddwn yn ehangu'r cynnig i gynnwys holl ddisgyblion Blwyddyn 6

Cofiwch NAD YW disgyblion rhan-amser na'r rhai mewn lleoliadau gofal plant (hyd yn oed os yw'r lleoliad mewn ysgol e.e., Cylch Meithrin) yn gymwys.

Nid yw'r cynnig hwn yn dibynnu ar incwm eich cartref neu a ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, mae pob plentyn yn y grwpiau blwyddyn hyn yn gymwys i fanteisio ar y cynnig. Dim ond yn ystod y tymor ysgol y mae'r pryd ar gael ac nid yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim presennol yn parhau i fod ar waith ar gyfer POB disgybl amser llawn cymwys arall sydd ar y gofrestr yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.

Nid oes angen gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i'r ysgol am unrhyw anghenion arbennig o ran diet ar gyfer eich plentyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion dietegol eich plentyn.

Os yw eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim a/neu unrhyw fudd-daliadau cysylltiedig eraill ar hyn o bryd, gallwn eich sicrhau na fydd hyn yn cael ei effeithio. Ar hyn o bryd mae'r broses ar gyfer gwneud cais am bryd ysgol am ddim yn parhau yn ei lle ac anogir teuluoedd i wneud cais yn y ffordd arferol