Cwestiynau Cyffredin Prydau Ysgol am ddim

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (eFSM) bydd eich plentyn yn derbyn pryd o fwyd am ddim, a gall yr ysgol fanteisio ar gyllid a fydd yn eu galluogi i ddarparu rhaglenni cymorth wedi’u targedu, prynu offer ac adnoddau ac ati.

Os yw’n well gan eich plentyn fynd â bocs bwyd neu wneud trefniadau eraill, mae’n dal yn bwysig i gofrestru am brydau ysgol am ddim (eFSM) fel y gall yr ysgol fanteisio ar gyllid.

Nac oes, dim ond unwaith y mae angen i chi ymgeisio ar-lein ond rhaid i chi ein hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau drwy ffôn neu drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

Gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

Nac ydy, bydd disgyblion sy'n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol yn cael pryd am ddim yn awtomatig.

Pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein rydym yn gallu gwirio’ch hawl yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Cadarnhau Pwy sy’n Gymwys sy’n cael ei ddarparu gan yr Adran Addysg a byddwn yn dweud wrthych a yw’ch cais yn llwyddiannus ai peidio. Dim ond os na allwn gadarnhau eich bod yn gymwys y byddwn yn gofyn ichi ddarparu tystiolaeth ddogfennol.

Yn anffodus ni allwn ôl-ddyddio hawl i Brydau Ysgol am Ddim i wneud iawn am arian cinio ysgol nad yw wedi’i dalu, nac ad-dalu arian cinio a oedd wedi’i dalu cyn dyddiad y cais llwyddiannus.

Ni roddir unrhyw ad-daliad mewn perthynas ag arian prydau ysgol oni bai fod amgylchiadau eithriadol – bydd angen i chi anfon neges e-bost neu anfon llythyr at y swyddfa Prydau Ysgol am Ddim yn egluro’r “amgylchiadau eithriadol”.

Nid awdurdodau lleol sy’n pennu’r meini prawf cymhwyso ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim ac ni allwn eu hepgor. Mater i’r llywodraeth ganolog, nid llywodraeth leol, yw newid y meini prawf felly eich Aelod Seneddol yw’r person priodol i gysylltu ag ef ynglŷn â hyn.

Am bob plentyn sydd â hawl i Brydau Ysgol am Ddim mae’r ysgol yn cael arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i wella’r ddarpariaeth a gwella cynnydd plant a’u canlyniadau. Y Grant Premiwm Disgybl yw’r enw ar hyn. Gall eich plentyn ddal i ddod â phecyn cinio i’r ysgol os yw’n well ganddo ond drwy wneud cais drwy’r Porthol Prydau Ysgol am Ddim rydych yn sicrhau bod yr ysgol yn cael y grant hwn.

Fe wnawn ni hysbysu’r ysgol, felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Mae gan Ysgolion Uwchradd system arlwyo dim-arian-parod felly bydd yr arian yn cael ei gredydu i gyfrif eich plentyn/plant bob bore; mae unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei glirio ar ddiwedd y dydd (nid yw system Ysgol Dyffryn Taf yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Arlwyo CSG felly mae ganddynt hwy eu trefniadau eu hunain).

Cysylltwch â swyddfa’r ysgol neu cysylltwch â’r swyddfa Prydau Ysgol am Ddim er mwyn iddynt hysbysu’r ysgol ar eich rhan drwy ein ffonio ar 01267 246521 neu drwy anfon e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk.

Yn anffodus, os oes gan y naill bartner neu’r llall hawl i Gredyd Treth Gwaith, nid ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Lle mae gan riant/gofalwr hawl i Gredyd Treth Gwaith yn ystod cyfnod “rhedeg ymlaen” o 4 wythnos ar ôl i’w gyflogaeth orffen neu ei fod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, yna mae’n gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim am y cyfnod 4 wythnos hwnnw.

Yn anffodus, ni allwn gadarnhau eich bod yn gymwys drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Cadarnhau Pwy sy’n Gymwys. Bydd angen ichi gyflwyno copi papur o’ch Hysbysiad Penderfyniad Credyd Treth.

Unwaith y bydd y cyfnod hawl dros dro o 4 wythnos wedi dod i ben, bydd angen prawf arnom fod un o’r budd-daliadau cymhwyso eraill sydd wedi’u rhestru ar y we dudalen wedi cael ei ddyfarnu.

Fel gofalwr y plentyn / plant rydych yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim os ydych yn cael un o’r budd-daliadau cymhwyso. Mae’r naill riant neu’r llall hefyd yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i’r plentyn / plant sy’n byw gyda chi os ydynt yn hawlio budd-dal cymhwyso drwy ein ffonio ar 01267 246521 neu drwy anfon e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk.

Os yw’n drefniant parhaol ac os byddwch yn cael Budd-dal Plant a.y.b., gallwch ymgeisio yn eich rhinwedd eich hun. Os mai trefniant dros dro ydyw, gall yr hawliad aros fel ag y mae ond rhaid i hynny gael ei nodi gan y swyddfa Prydau Ysgol am Ddim felly bydd angen i chi gysylltu â ni drwy ein ffonio ar 01267 246521 neu drwy anfon e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk.

Rydym yn canslo prydau ysgol am ddim ar y Dydd Gwener canlynol ar ôl i waith ddechrau gan y bydd Credydau Treth yn cael eu hôl-ddyddio i’r dyddiad y dechreuoch chi weithio.

Mae myfyrwyr yn gymwys yn y rhan fwyaf o achosion gan eu bod yn cael Credyd Treth plant yn unig, ond bydd angen i chi ymgeisio yn ôl yr arfer.

Os yw dros 16, nid yw’n gymwys a bydd angen iddo/iddi ymgeisio am ‘Lwfans Cynhaliaeth Addysg’ yn lle hynny. Os yw dan 16, mae angen ichi gysylltu â'r swyddfa brydau ysgol am ddim i gael rhagor o fanylion drwy ein ffonio 01267 246521 neu drwy anfon e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk.

Nid yw Gofalwyr Maeth yn gallu hawlio am brydau am ddim os ydynt yn cael y Lwfans maethu llawn.

Mae Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yn gymwys ond mae angen i chi ymgeisio yn eich rhinwedd eich hun. Os ydych yn derbyn Taliad i Berthynas nid ydych yn gymwys.

Efallai na fydd gan riant fudd-daliadau yn ei henw hi, neu brawf a.y.b. oherwydd sefyllfa frys. Bydd angen i Cymorth i Fenywod gadarnhau’r amgylchiadau’n ysgrifenedig drwy e-bost ac yna gellir caniatáu’r ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim dros dro nes gellir cadarnhau bod y rhiant yn gymwys. Fodd bynnag, bydd angen i chi ymgeisio o hyd.

Mae ceisiadau yn cael eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith fel arfer. Os rhoddwyd cyfeiriad e-bost, byddai ymateb wedi cael ei e-bostio (efallai ei fod wedi mynd i’ch ffolder “sbam” e-bost) – bydd angen ichi wirio gyda'r swyddfa prydau ysgol am ddim i ganfod y rheswm pam nad ydych wedi clywed unrhyw beth drwy ein ffonio ar 01267 246521 neu drwy anfon e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk.

Ffoniwch ni ar 01267 246521 neu anfonwch e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk a gallwn e-bostio copi o'ch llythyr cadarnhau Prydau Ysgol am Ddim atoch fel prawf.

Gallwn wneud nodyn o’r trosglwyddiad ond gallech ein hysbysu yn ystod gwyliau’r haf i sicrhau bod ein cofnodion yn cael eu diweddaru’n gywir drwy ein ffonio ar 01267 246521 neu drwy anfon e-bost i PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk.

Mae’r trothwy incwm blynyddol uchaf o £16,190 yn gymwys i deuluoedd sy’n cael Credyd Treth Plant ond nad oes ganddynt hawl i Gredyd Treth Gwaith.

Ar ôl hanner tymor mis Chwefror, bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu i bob plentyn Meithrin, Derbyn, a Blwyddyn 1, 2, 3, 4 a 5 llawn amser yng Nghaerfyrddin.

Mae'r ffurflen gais PYDdC yn rhoi lle i chi roi gwybod i ni am unrhyw ofynion dietegol arbennig sydd gan eich plentyn. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu â'r staff arlwyo perthnasol.

Bydd y cyflymder y gall Awdurdodau Lleol ledled Cymru gyflwyno PYDdC yn wahanol am sawl rheswm. Am y rheswm hwn, mynegodd Llywodraeth Cymru nad oeddent am gyfyngu ar ba mor gyflym yr oedd Awdurdodau Lleol yn gallu darparu'r cynnig a'u bod yn darparu hyblygrwydd. 

Byddwn yn eich diweddaru ynghylch pryd y gallwn weithredu PYDdC i grwpiau blwyddyn eraill cyn gynted ag y daw'r manylion yn glir.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd PYDdC  yn cael ei gyflwyno i bob disgybl mewn ysgolion cynradd, o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6. Fodd bynnag, gan fod Sir Gaerfyrddin yn cynnig darpariaeth Feithrin llawn amser, bydd PYDdC ar gael i ddisgyblion Meithrin llawn amser yn unig. Mae hyn yn unol â'r meini prawf cymhwysedd presennol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru lle nad yw disgyblion rhan-amser yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Rydym yn gweithio'n galed i benderfynu ar y cynharaf y byddwn yn gallu cyflwyno'r cynnig i flwyddyn 6. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei gyfleu pan ddaw'r manylion yn glir.

Gallech fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych chi’n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Nid yw Credyd Treth Plant a'ch incwm blynyddol yn fwy na £16,190
  • Nid yw Credyd Cynhwysol ac incwm net blynyddol eich cartref yn fwy na £7,400
  • Cymorth o dan ran V1 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith yn ychwanegol at unrhyw un o'r budd-daliadau hyn ni fyddwch yn gymwys, hyd yn oed os yw incwm yr aelwyd yn is na £16,190.

Os ydych yn derbyn budd-daliadau y ffordd hawsaf o wirio a oes gan eich plentyn hawl i gael prydau ysgol am ddim yw gwneud cais, yna gall yr awdurdod lleol wirio eich cymhwysedd ar System Wirio Llywodraeth Cymru.

Edrychwch i weld a oes gan eich plentyn hawl i Brydau Ysgol am Ddim neu hanfodion ysgol eraill yma: Darganfod mwy am brydau ysgol am ddim | LLYW.CYMRU

Ni fydd cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) yn effeithio ar deuluoedd ar incymau isel. Byddwch yn dal i allu derbyn hanfodion ysgol eraill, fel gwisg ysgol, dillad chwaraeon ac offer ysgrifennu.

Os yw eich plentyn yn dechrau mewn dosbarth derbyn ym mis Medi, bydd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) newydd. Fodd bynnag, os yw’r rhiant yn derbyn incwm penodol bydd yn rhaid iddynt wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim (FSM) o hyd. Mae hyn oherwydd os na fyddant yn gwneud hynny, ni fyddant yn gallu cael mynediad i gyllid arall, fel grant Hanfodion Ysgol (PDG - Mynediad).

Os yw eich plentyn yn dechrau mewn dosbarth derbyn ym mis Medi, bydd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) newydd. Fodd bynnag, os yw’r rhiant yn derbyn incwm penodol rhaid iddynt wneud cais o hyd ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim (FSM). Mae hyn oherwydd os na fyddant yn gwneud hynny, ni fyddant yn gallu cael mynediad i gyllid ar gyfer Hanfodion Ysgol (PDG – Mynediad), fel cymorth gyda gwisg ysgol, dillad chwaraeon ac offer ysgrifennu.

Daeth taliadau i deuluoedd sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim dros wyliau ysgol i ben ar 31 Mai 2023.

Llwythwch mwy

Addysg ac Ysgolion