Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/12/2020

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r Safonau Maeth fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan ein bwydlenni sydd wedi'u cynllunio'n ofalus:

Bwyd Manylion er enghraifft swm dyddiol / wythnosol, math, dull coginio ac ati
Ffrwythau a llysiau Dim llai na 2 ddogn y dydd y plentyn (mae'n rhaid i un o leiaf fod yn llysiau neu'n salad, ac mae'n rhaid i un o leiaf fod yn ffrwyth).
Pysgod olewog Ar y fwydlen cinio ysgol o leiaf unwaith bob pythefnos.
Cynhyrchion tatws wedi'u ffrïo'n ddwfn Rhaid peidio â gweini tatws a chynhyrchion tatws sydd wedi'u coginio mewn braster/olewau yng nghegin yr ysgol neu wrth eu cynhyrchu fwy na dwywaith yr wythnos.
Cynhyrchion wedi'u ffrio'n ddwfn Rhaid peidio â gweini eitemau bwyd eraill (heblaw am datws) sydd wedi eu coginio mewn braster/olewau yng nghegin yr ysgol neu wrth eu cynhyrchu fwy na dwywaith yr wythnos.
Cynhyrchion cig wedi'u cynhyrchu Ni ddylai gael ei adffurfio/ailansoddi.
Bara (heb y taeniad) Dylid annog bwyta amrywiaeth o fara gan gynnwys bara gwenith cyflawn.
Olewau a Thaeniadau Dim ond olewau a thaeniadau sydd â llawer o fraster aml-annirlawn a/neu mono-annirlawn y gellir eu defnyddio
Byrbrydau melys a sawrus Dim ar gael
Halen Dim yn cael ei ychwanegu at lysiau yn ystod coginio. Cyfyngu ar halen o ryseitiau neu ei waredu a defnyddio yn ei le berlysiau a sbeisys derbyniol. Dim ar gael ar y byrddau cinio nac wrth y cownter gweini.

Addysg ac Ysgolion