Sut rydym yn cael hyd i’n cynnyrch

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/09/2023

Mae ein prydau yn cael eu paratoi’n ffres ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion heb eu prosesu yn bennaf a bwyd ffres y gallwch ymddiried ynddo. Rydym yn hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd lleol ac yn cael hyd i fwyd sy’n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol. Ein nod yw ei gwneud yn haws bwyta’n iach.

Rydym yn ymdrechu bob amser i:

  • Darparu prydau maethlon a hyrwyddo iechyd a lles yn ogystal â defnyddio cynhwysion ffres o ansawdd yn unol â deddfwriaeth ynghylch prydau ysgol sef Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013
  • Datblygu cysylltiadau cadarnhaol â’r holl gyflenwyr
  • Gofalu am yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn ogystal â chreu cyn lleied â phosibl o wastraff
  • Mabwysiadu polisïau cynaliadwy a moesegol o ran caffael bwyd gan gynnwys cynnyrch organig a Masnach Deg lle bo’n briodol
  • Gweithio’n agos gyda’n cadwyn gyflenwi haen gyntaf ac ail haen er mwyn defnyddio cymaint o gynnyrch lleol a rhanbarthol â phosibl a monitro ansawdd a maeth eu cynhwysion a ddefnyddir yn ein ryseitiau hefyd
  • Peidio â defnyddio, hyd y gwyddom, fwyd ac ynddo Gynhwysion a Addaswyd yn Enetig
  • Prynu Wyau Maes
  • Addasu ein bwydlenni er mwyn defnyddio ffrwythau a llysiau tymhorol yn ogystal â chynnyrch cig Cymreig ffres

Mae diogelwch bwyd yn bwysig iawn inni hefyd a ni sy'n gyfrifol am arfer diwydrwydd dyladwy o ran y bwyd yr ydym yn ei brynu - mae’n rhaid i’n holl gyflenwyr gyrraedd safonau penodol o ran ansawdd cyn iddynt gael eu hystyried yn ddarparwyr addas er mwyn sicrhau bod modd olrhain yr holl gynnyrch a gyflenwir.

Addysg ac Ysgolion