Banc poteli / ailgylchu

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/02/2024

Rydym yn darparu casgliadau gwydr o dŷ i dŷ i 96% o aelwydydd ledled y sir, a bydd hyn yn cynyddu erbyn diwedd 2025. Felly rydym yn lleihau nifer y banciau ailgylchu gwydr o gwmpas y sir, lle nad oes eu hangen mwyach. Rhwng mis Ionawr a diwedd mis Mawrth 2024, bydd safleoedd yn cael eu gwaredu a bydd yr 20% sydd ar ôl yn yr ardaloedd lle bo'r angen a'r defnydd mwyaf. Mewn rhai safleoedd gallwch hefyd ailgylchu eitemau eraill e.e. tecstilau ac offer trydan bach.

Caiff cynwysyddion eu gwacáu yn aml, ond yn achos rhai safleoedd, mae llawer yn eu defnyddio, felly os yw'r banciau'n llawn, ewch â'ch gwastraff adref. Peidiwch â gadael unrhyw eitemau ar y llawr ar y safleoedd gan mai tipio anghyfreithlon yw hwn a gallech dderbyn hysbysiad cosb benodedig.

Cliciwch ar y botwm i weld beth sy'n cael ei ailgylchu yn eich safle ailgylchu lleol.