Cewynnau go iawn

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/02/2024

Mae Cewynnau go iawn yn ddeniadol, yn ffasiynol ac yn gyfforddus. Mae mwy a mwy o rieni'n newid i gewynnau go iawn wrth sylweddoli bod modd haneru gwastraff y teulu ac arbed cannoedd o bunnoedd yr un pryd! 

Mae pobl yn tueddu i gredu bod cewynnau go iawn yn 'waith anodd', ond does dim angen i hynny fod yn wir. Mae llawer o gewynnau modern yn hawdd eu cau neu eu bachu a gallwch chi eu golchi ynghyd â dillad eich baban neu ar wahân ar 60c (ddwywaith yr wythnos, fel arfer). Does dim angen eu trochi na'u berwi. Gallwch cael gwared ar y leinin yn y tŷ bach.

Oeddech chi'n gwybod bod cewynnau go iawn...

  • Mae cewynnau go iawn yn costio ychydig o gannoedd, ond mae rhai tafladwy'n costio dros fil o bunnoedd ar gyfer un babi. Does dim cost ychwanegol wrth ddefnyddio cewynnau go iawn ar blant dilynol.
  • Gellir eu sychu ar lein ddillad pan fo'n bosibl, neu eu rhoi yn y sychwr dillad gyda gweddill eich golch.
  • Dydyn nhw ddim yn achosi brech clytiau nac yn cynnwys cemegion sy'n gallu sychu croen y baban yn ormodol.
  • Maen nhw'n helpu plant i sefyll yn syth trwy gynnal eu cluniau yn y lle iawn.
  • Maen nhw'n helpu babanod i roi'r gorau i wisgo cewynnau yn gynt trwy greu cysylltiad rhwng gwagio'r bledren a theimlo'n wlyb.

Mae gwahanol fathau o Gewynnau Go Iawn sy'n addas i'ch ffordd o fyw, dewis a chyllideb.  

Os dim ond cewynnau go iawn y byddwch chi'n eu defnyddio, argymhellwn y dylech chi brynu rhwng 18 a 24 o gewynnau a 4-6 gorchudd dwrglos (yn ôl y math o gewyn sydd gyda chi). O wneud hynny, bydd gyda chi ddigon o gewynnau i lenwi peiriant golchi ddwywaith yr wythnos (neu deirgwaith yn achos baban newydd ei eni).

Ar ôl diddyfnu'r baban, dylech chi ddefnyddio leininau y gallwch chi eu golchi neu eu dodi yn y toiled. Os yw perfedd eich plentyn yn gweithio'n rheolaidd, dim ond ar gyfer y tro hwnnw y bydd eisiau rhoi leinin yn y cewyn. Yn aml, fydd dim eisiau leininau ar y newydd anedig am fod y baw'n ymdreiddio trwyddyn nhw.

O ddefnyddio leininau, fydd dim eisiau trochi'r cewynnau am y byddwch chi'n cael gwared ar unrhyw faw sylweddol yn y tŷ bach ac, felly, dim ond gwlyb fydd y cewyn.

Efallai y bydd eisiau trochi cewynnau baban newydd ei eni i osgoi staeniau. O'u trochi, fe allech chi ddefnyddio un o'r toddiannau isod. Nodwch, os ydych yn defnyddio boracs i'r tŷ neu bowdwr glanweithio, efallai mai dim ond eu tynnu trwy ddŵr wedyn y bydd ei angen yn lle eu golchi:

  • Finegr gwyn distyll (2-3 llwyaid mawr)
  • Bicarbonad sodiwm (1 llwyaid mawr)
  • Boracs ar gyfer y tŷ (1 llwyaid mawr)
  • Olew coeden de (5 diferyn)
  • Powdwr glanweithio (1 llwyaid mawr)

Gallwch chi olchi'r cewynnau ynghyd â dillad eich plentyn ond, os penderfynwch chi eu trochi neu eu golchi ar wahân, gallech chi eu cadw mewn bwced â chaead. Bydd rhwyd gewynnau o gymorth hefyd, wrth symud y cewynnau o'r bwced i'r peiriant golchi.

Mae’r mathau yma o gewynnau yn sychu’n gyflym gan eu bod yn agor allan yn wastad. Maen nhw’n amlbwrpas gan fod modd eu plygu mewn nifer o ffyrdd er mwyn cael amrywiaeth o ran ffit ac amsugnedd. Gallwch ddewis o gewynnau plyg-parod neu terry.

Plygir cewynnau plyg-parod ac yna eu gosod mewn gorchudd (amlap) dwrglos ac maen nhw’n dod mewn nifer o feintiau o newydd-eni i fawr iawn. Gellir defnyddio mwy nag un cewyn yn ystod y nos. Dydy’r gorchudd ddim yn cael ei newid bob tro mae’r cewyn yn cael ei newid, byddwch yn defnyddio tua 1 gorchudd i bob 4/5 cewyn.

Mae’r cewynnau hyn yn dod mewn amrywiaeth o liwiau a ffabrigau gan gynnwys cotwm a bambŵ. Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir eich bod yn prynu o leiaf 20 o bob maint. Mae'r prisiau yn amrywio o £1.50 i £2.25 y cewyn.

Cyfanswm cost system cewynnau plyg-parod yn defnyddio 3 maint cewyn (bach, canolig a mawr) a 4 maint gorchudd (newydd-eni, bach, canolig a mawr) yw tua £295 os byddwch yn prynu popeth ar wahân.

Gallwch brynu citiau arbennig o'r geni i'r poti am tua £175 – £225. Fel arfer mae’r citiau yma yn cynnwys:

  • 24 Cewyn Plyg-parod Bach
  • 20 Cewyn Canolig
  • 18 Cewyn Mawr
  • 6 Gorchudd Newydd-eni
  • 6 Gorchudd Bach
  • 4 Gorchudd Canolig
  • 4 Gorchudd Mawr

Cofiwch y gallwch brynu 1 maint ar y tro yn hytrach na phrynu set o'r geni i'r poti.

Plygir cewynnau terry a’u dal yn eu lle â phìn neu glip modern o’r enw nappy nippa. Yna, gwisgir gorchudd (amlap) dwrglos drosto. Dydy’r gorchudd ddim yn cael ei newid bob tro mae’r cewyn yn cael ei newid, byddwch yn defnyddio tua 1 gorchudd i bob 4/5 cewyn.

Fel arfer, mae cewynnau terry yn dod mewn maint safonol 60 x 60cm ond mae eu hansawdd a'u hamsugnedd yn amrywio. Gallwch gael rhai llai 40 x 40cm sy’n wych i fabanod newydd eu geni neu gallwch brynu sgwariau mwslin.

Mae cewynnau terry yn dod mewn amrywiaeth eang o liwiau a ffabrigau, gan gynnwys cotwm a bambŵ. Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir eich bod yn prynu o leiaf 20. Mae'r prisiau yn amrywio o £1.25 i £3.95 y cewyn.

Cyfanswm cost system cewynnau terry yn defnyddio 2 faint cewyn (40 x 40 a 60 x 60), 3 maint gorchudd (bach, canolig a mawr) a 2 becyn o nappy nippas yw tua £204. Cofiwch nad oes rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro.


Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae’r cewynnau hyn wedi eu siapio i ffitio yn barod.  Mae’r cewynnau yma’n dod heb ddarnau i’w dal ar gau (dim Aplix) a gellir eu dal at ei gilydd â nappy nippa, popwyr neu Velcro, sy’n eu gwneud ychydig yn haws eu defnyddio na’r cewynnau gwastad.  Ond byddan nhw’n cymryd mwy o amser i sychu na’r cewynnau gwastad gan eu bod nhw’n fwy swmpus.

Hefyd, mae angen gorchudd dwrglos i fynd dros y cewynnau hyn. Dydy’r gorchudd ddim yn cael ei newid bob tro mae’r cewyn yn cael ei newid, byddwch yn defnyddio tua 1 gorchudd i bob 4/5 cewyn. Mae cewynnau wedi’u siapio yn dod mewn amrywiaeth o liwiau, patrymau a ffabrigau gan gynnwys cotwm, cywarch, microffibr a bambŵ. 

Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir eich bod yn prynu o leiaf 20 o bob maint.

Dim ond 2 faint sydd i'r mwyafrif o systemau cewynnau wedi’u siapio, i ffitio babanod o 7 – 35 pwys, fydd yn ddigon i fabi maint canolig o’i eni hyd at hyfforddiant poti. Hefyd, gallwch gael meintiau cynamserol a babanod mwy. Mae'r prisiau yn dechrau o £4.99 y cewyn ond y pris cyfartalog yw tua £9 y cewyn.

Cyfanswm cost system cewynnau wedi’u siapio – ar gyfartaledd – yn defnyddio 2 faint cewyn, 2 faint gorchudd a dim nappy nippas yw tua £444 os byddwch yn eu prynu ar wahân. Mae bob amser gynigion ar swmp-brynu cewynnau felly ewch i nifer o siopau i gael y pris gorau. Cofiwch nad oes rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro.

Mae modd cael cewynnau wedi’u siapio ar ffurf cewynnau un maint. Un maint yn unig yw’r cewynnau yma ac fel arfer maen nhw’n addas o tua 8 – 35 pwys. Er mwyn iddyn nhw ffitio babi bach, mae’r cewynnau yma yn cael eu plygu i lawr yn y blaen ac yn cael eu dal yn eu lle naill ai gan orchudd dwrglos, popwyr neu nappy nippa. Mae cewynnau un maint yn arbed arian ond maen nhw braidd yn swmpus ar fabanod bach a gall fod angen ychwanegu mwy o amsugnedd pan fydd y babi’n fwy. Mae'r prisiau yn dechrau o tua £7.50 y cewyn.

Cyfanswm cost system cewynnau un maint wedi’u siapio - ar gyfartaledd - yn defnyddio 2 faint gorchudd a dim nappy nippas - yw tua £244. Cofiwch nad oes rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint gorchudd ar y tro.

Mae cewynnau poced yn dod mewn 2 ran; y gyntaf yw’r rhan allanol, sef haen sy’n dal dŵr a rhan fewnol fflîs.  Rhwng yr haenau hyn mae ‘poced’ lle rydych chi’n gosod yr ail ran, ychydig o amsugnedd a all fod yn ychwanegyn i’r cewyn, yn blyg-parod neu’n gewyn terry neu ffabrig arall.

Bellach, mae’r cewyn yn barod i’w ddefnyddio ac yn cael ei gadw yn ei le â Velcro neu bopwyr. Does dim angen gorchudd dwrglos gan fod un wedi’i gynnwys mewn cewynnau poced. Pan fyddwch yn newid eich babi, mae’r cewyn cyfan yn mynd i’r bwced yn barod i’w olchi ac mae un arall yn mynd arno. Mae’r cewynnau hyn yn hawdd iawn eu defnyddio ac unwaith maen nhw wedi cael eu stwffio ag amsugnedd, maen nhw'r un mor hawdd â rhai tafladwy i’w defnyddio. Mae cewynnau poced yn hyblyg i’w defnyddio gan fod modd i chi ychwanegu amsugnedd ychwanegol yn ystod y nos neu os yw’ch babi yn gwlychu’n drwm.

Mae’r mwyafrif o gewynnau poced yn cynnwys haen PUL (Laminiad Polywrethan) wedi’i gorchuddio naill ai â microfflîs neu felôr cotwm y tu mewn. Mae microfflîs a felôr yn gweithredu fel ffabrig un ffordd sy’n gadael i leithder basio trwyddynt gan aros yn sych wrth groen y babi.

Mae modd defnyddio’r mwyafrif o ffabrigau fel deunydd amsugno ond y rhai mwyaf poblogaidd yw bambŵ, cywarch a microffibr. Gallwch naill ai brynu ychwanegion parod i gewynnau neu ffabrig fesul metr a gwneud eich rhai eich hunain.  Y cyfan sydd angen ei wneud yw torri’r ffabrig yn sgwariau 60 x 60cm, ei hemio a’i blygu i ffitio y tu mewn i’r boced.

Mae cewynnau poced ar gael mewn llawer o feintiau gwahanol o gynamserol i fawr iawn. Bydd y mwyafrif o fabanod pwysau canolig yn gallu defnyddio 2 neu 3 maint cewyn yn unig, yn dibynnu ar y brand. Mae'r prisiau yn dechrau o tua £9.99 y cewyn heb ychwanegyn a £13 gydag ychwanegyn. Gan fod cewynnau poced yn sychu’n gynt na chewynnau eraill, rydym yn argymell eich bod yn prynu o leiaf 15 o bob maint.

Cyfanswm cost defnyddio 2 faint cewyn (ystod pwysau 10-35 pwys) yw tua £300. Cyfanswm cost defnyddio 3 maint cewyn (ystod pwysau 7- 45 pwys) yw tua £540. Cofiwch nad oes rhaid i chi brynu mwy nag 1 maint ar y tro.

Mae cewynnau poced yn dod ar ffurf cewynnau un maint hefyd.  Un maint yn unig yw’r cewynnau yma ac fel arfer maen nhw’n addas o tua 8 – 35 pwys. Er mwyn iddyn nhw ffitio babi bach, mae’r cewynnau yma yn cael eu plygu i lawr yn y blaen ac yn cael eu dal yn eu lle â phopwyr. Mae cewynnau un maint yn arbed arian ond maen nhw braidd yn swmpus ar fabanod bach. Mae prisiau yn dechrau o tua £14 y cewyn.

Cyfanswm cost system cewynnau poced un maint ar gyfartaledd yw tua £210.

Mae’r cewynnau yma wedi eu gwneud o ddefnydd amsugnol wedi’i bwytho i orchudd allanol dwrglos - does dim darnau datgysylltiol.

Mae cewynnau un-darn yn cael eu rhoi yn eu lle gan ddefnyddio naill ai popwyr neu Velcro i’w cysylltu ac mae’r cewyn cyfan yn cael ei roi yn y golch.

Mae’r math yma o gewyn yn hawdd iawn ei ddefnyddio, ac yn ffitio'n daclus. Efallai bydd angen ychwanegu atyn nhw dros nos ac ar gyfer babanod sy’n gwlychu’n drwm. Yr unig anfantais yw nad ydyn nhw’n sychu mor gyflym â mathau eraill o gewynnau.

Mae cewynnau un-darn yn dod mewn amrywiaeth eang o ffabrigau, lliwiau a phatrymau.  Os ydych chi’n defnyddio’r math yma o system cewynnau, argymhellir eich bod yn prynu o leiaf 20 o bob maint.

Fel arfer, mae cewynnau un-darn ar gael mewn 3 maint: bach, canolig a mawr, i ffitio babanod o tua 8 – 40 pwys, er bod dewis cyfyngedig o gewynnau un-darn un maint ar gael sy’n addas o 8-35 pwys. Mae'r prisiau am gewynnau un-darn gwahanol feintiau yn dechrau o £12 a rhai un maint o £15.

Cyfanswm cost defnyddio 2 faint cewyn (ystod pwysau 10-35 pwys) yw tua £480. Cyfanswm cost defnyddio 3 maint cewyn (ystod pwysau 7- 40 pwys) yw tua £900. Cofiwch mai dim ond 1 maint ar y tro mae’n rhaid i chi ei brynu. Cyfanswm cost defnyddio system un maint (ystod pwysau 8 – 35 pwys) yw tua £300.

Mae llawer o frandiau o gewynnau ar gael – teipiwch y math o gewyn yr ydych chi’n ei hoffi i’ch peiriant chwilio ar y we i gael mwy o fanylion.