Cwestiynau Cyffredin am Eto

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/08/2023

Prosiect atgyweirio ac ailddefnyddio yw Eto sy'n ceisio sicrhau bod eitemau yn dal i gael eu defnyddio cyhyd â phosibl yn hytrach na'u gwaredu. Mae atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau yn helpu i greu ‘economi gylchol’ sy’n helpu i leihau ôl troed carbon pawb wrth i lai o eitemau gael eu gwaredu sy’n golygu bod angen creu llai o eitemau newydd.

Caiff eitemau sydd wedi’u hatgyweirio a'u hail-ddefnyddio eu gwerthu yn siop Eto, Llanelli ac yng nghanolfan ailddefnyddio Eto yn Nantycaws.

Gall trigolion roi eitemau i’r prosiect yn un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Ein bwriad yw sicrhau bod eitemau yn dal i gael eu defnyddio cyhyd â phosibl a lleihau gwastraff yn Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn gwneud hyn drwy atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau sydd wedi'u rhoi i'r prosiect.

Gallwch roi eitemau yn un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartrefa gosodwch yr eitemau yn yr y man rhoi eitemau ar y safle.

Gellir hefyd roi eitemau drwy ein gwasanaeth casglu gwastraff swmpus am gost o £25 am hyd at dair eitem. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus yma.

Yn anffodus, ni allwn dderbyn eitemau mewn unrhyw leoliad arall gan gynnwys siop Eto yn Llanelli neu ganolfan ailddefnyddio Eto yn Nant-y-caws.

Rydym yn derbyn ystod eang o eitemau gan gynnwys:

Pren ac eitemau pren

Offer garddio

Beiciau

Dodrefn trydanol

Eitemau cartref

Offer chwaraeon

Dillad (gyda thagiau)

Teganau plant

CDs a DVDs

Llyfrau

Teils

Rygiau

a llawer mwy.

Beiciau

Offer ymarfer corff

Byrddau sgrialu

Sgwteri

Clybiau golff

Offer gwersylla

Telesgopau

Byrddau syrffio

Esgidiau sgïo

Esgidiau rholio

Camerâu

Offerynnau cerdd gan gynnwys:

Citiau drymiau

Gitarau

Ffliwtiau

Recorders

Lampau

Offer

Tostwyr (newydd yn y bocs)

Tegelli (newydd yn y bocs)

Peiriannau suddio

Cymysgwyr

Gwneuthurwyr cacennau

Sosbenni pwysedd

Stereos

Chwaraewyr DVD

Chwaraewr fideo

Setiau teledu

Gliniaduron

Cyfrifiaduron

Offer hapchwarae

Gwresogyddion

Tanau

Peiriannau torri gwair

Peiriannau strimio

Ornaments

Cadeiriau

Cadeiriau esmwyth

Basgedi crog

Potiau

Pibellau

Goleuadau solar

Soffas (gyda label gwrth-dân yn gyfan),

Cypyrddau

Byrddau ochr

Dreseri

Byrddau

Meinciau

Cadeiriau

Stolion

Fframiau gwelyau

Cadeiriau siglo

Byrddau coffi

Silffoedd

Unedau cornel

Ornaments

Lluniau

Clociau

Fasys

Peiriannau sychu dillad

Bleindiau (newydd sbon)

Llenni/clustogau (newydd sbon)

Offer cegin (os ydynt mewn cyflwr da)

Hambyrddau

Jariau storio

Setiau glanhau ceir

Gemwaith/bocsys gemwaith

Celf wal

Drychau

Fframiau lluniau

Eitemau otoman/storfa

Canhwyllau

Teclyn i ddal allweddi

Clociau

Bag dogfennau

Dodrefn swyddfa e.e. cadeiriau a desgiau

Hen bethau

Rac esgidiau

Teclyn i ddal sosbannau

Fframiau cerdded

Cadeiriau olwyn

Pramiau

Cotiau teithio

Teganau reidio

Posau

Tedis

Doliau

Blociau Lego

Gemau

Offer chwarae i blant fel:

Fframiau dringo (newydd sbon)

Siglenni

Pwll padlo

Ffon pogo

Pramiau doli

Chadeiriau uchel

Teganau dysgu cynnar

Lluniau

Yn anffodus, ni allwn dderbyn yr eitemau canlynol:

Nwyddau gwyn fel peiriannau golchi llestri, peiriannau sychu dillad, peiriannau golchi ac oergelloedd/rhewgelloedd

Soffas a seddi sydd wedi'u rhwygo neu heb label tân (waeth beth fo'u hoedran/cyflwr)

Eitemau wedi torri neu anghyflawn

Matresi wedi'u defnyddio

Teledu â sgriniau wedi torri

Offer diogelwch gan gynnwys helmedau damwain, helmedau beic, clustogau uwch i blant ac ati.

Gellir dod ag unrhyw baent diangen i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a'i roi yn y man cywir fel arfer. Bydd unrhyw baent addas yn cael ei addasu trwy'r prosiect.

Gellir prynu eitemau o siop Eto yn Llanelli ac yng nghanolfan ailddefnyddio Eto yn Nant-y-caws.

Bydd gennym amrywiaeth o eitemau wedi’u gwneud o bren sydd wedi’i roi i Eto gan gynnwys tai adar, tai trychfilod, meinciau, byrddau a chadeiriau.

Bydd eitemau a roddir yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod mewn cyflwr addas a’u bod yn ddiogel i’w hailddefnyddio, eu hatgyweirio neu eu haddasu. Wedyn, bydd unrhyw waith angenrheidiol yn cael ei wneud cyn gwerthu eitemau yn siop Eto yn Llanelli neu Ganolfan Eto yn Nant-y-caws.

Rydym yn derbyn eitemau mewn cyflwr rhesymol/da. Mae pob eitem yn cael ei harchwilio a bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn addas ar gyfer y prosiect yn cael eu hailgylchu pan fo'n bosibl.

Prosiect di-elw yw hwn. Rydym yn rhagweld y bydd llogi staff, cynnal safle a chostau eraill yn fwy nag unrhyw arian a dderbynnir o ganlyniad i'r prosiect. Y nod yw lleihau gwastraff trwy sicrhau bod eitemau yn dal i gael eu defnyddio cyhyd â phosibl er mwyn lleihau ein hôl troed carbon a helpu'r amgylchedd.

Bydd pob eitem drydanol wedi cael ei phrofi yn unol â Phrofion Cyfarpar Cludadwy (PAT) sef archwiliad arferol o offer trydanol i sicrhau eu bod yn ddiogel i'w defnyddio.

Yn anffodus, ni allwn gynnig gwarant ar unrhyw eitemau.

Yn anffodus, nid ydym yn gallu dosbarthu eitemau.

Yn sicr, rydym yn derbyn taliadau cerdyn ac arian parod.

Llwythwch mwy