Rydym yn gofyn i breswylwyr fabwysiadu'r dull 'hunan-ddidoli', gan ddefnyddio cynwysyddion a sachau ar wahân ar gyfer gwahanol ddeunyddiau. Mae hyn yn golygu bod y deunyddiau ailgylchu a gesglir yn llai tebygol o fod wedi'u halogi gan ddeunyddiau eraill, felly gellir eu gwneud yn gynhyrchion newydd yn haws. Drwy wneud y newidiadau hyn, rydym hefyd yn gallu cynyddu'r ystod o ddeunyddiau rydym yn eu casglu wrth ochr y pafin a gallem gyflwyno casgliadau tecstilau, eitemau trydan bach a batris.
Bydd y newidiadau hyn yn gwella ôl troed carbon y cyngor, yn ein helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru ac yn darparu gwasanaeth mwy cost-effeithiol
Ni fydd y newidiadau i gasglu deunydd ailgylchu ar wahân yn cael eu cyflwyno tan 2024.