Baw cŵn

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/11/2023

Mae'n rhaid i chi godi baw eich ci ym mhob man cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin. Cofiwch waredu eich baw ci yn ofalus. Os ydych yn mynd am dro, defnyddiwch y nifer o finiau sbwriel cyhoeddus sydd ar gael ym mhob rhan o'r sir.

Os yw'n bosibl, ceisiwch annog eich ci i fawa yn eich gardd (gall gwneud hyn pan yw'n ifanc iawn helpu). Gallwch brynu blychau baw a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer cŵn (‘doggy loos’). Mae hwn yn gweithio'n union fel bin. Mae'n cael ei gladdu'n rhannol yn yr ardd – ond ni fydd angen ichi ei wagio byth, gan y bydd natur yn gofalu bod y baw'n dadelfennu ac yn mynd i'r pridd heb wneud unrhyw niwed. Mae'r blychau ar gyfer baw cŵn yn cael eu gwerthu mewn nifer o siopau anifeiliaid anwes lleol a gellir hefyd eu harchebu dros y ffôn neu ar-lein gan gyflenwyr sy'n gwerthu nwyddau ar gyfer anifeiliaid anwes.

Os oes yn rhaid i chi gael gwared ar faw ci drwy ei roi yn eich bag du, sicrhewch ei fod wedi ei lapio'n dda a'i fod yn gymysg â mathau eraill o wastraff.

Codi, Bagio a Binio'r Baw!

  • Cadwch gyflenwad o fagiau plastig wrth ymyl tennyn eich ci (mae bagiau plastig o'r archfarchnad yn rhawiau baw rhagorol) fel na fyddwch yn eu hanghofio pan ewch am dro. Rhowch eich llaw yn y bag plastig a chodwch faw eich ci.
  • Yn ofalus, trowch y bag plastig y tu mewn allan a bydd eich baw ci yn y bag.
  • I waredu eich bag rhowch ef mewn bin sbwriel cyhoeddus.

Os ydych yn gweld rhywun sy'n methu â glanhau ar ôl eu ci, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib. 

Os ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ymunwch â'n hymgyrch ar Facebook a Twitter - gallech chi helpu ni i gyrraedd miloedd o bobl! Postiwch eich neges, lluniau neu fideos gan ddefnyddio'r hashnod #BagioBinio. Byddwn yn cadw llygad barcud am eich postiadau ac yn rhannu/aildrydar eich lluniau a'ch fideos - diolch am ein helpu ni i godi ymwybyddiaeth.

Rhoi gwybod am faw cŵn