Dirwyon ar gyfer sbwriel

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/08/2023

Gallech gael Hysbysiadau Cosb Benodedig os cewch eich dal yn gollwng sbwriel neu'n methu â chodi baw eich ci. Dyma atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch Hysbysiadau Cosb Benodedig.

Gellir talu dirwyon trwy ddychwelyd y slip wedi'i lenwi ar yr Hysbysiad Cosb Benodedig a gawsoch a'i bostio i'r cyfeiriad a nodwyd.

Fel arall gallwch dalu gyda cherdyn credyd / debyd trwy ffonio 01267 234567 neu ymweld ag un o'n Canolfannau yng Nghaerfyrddin, Llanelli neu Rydaman.

Cost sylfaenol Hysbysiad Cosb Benodedig am ollwng sbwriel yw £75, ond os telir y gost o fewn 10 niwrnod, y gost fydd £50. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i Hysbysiad Cosb Benodedig am drosedd baw cŵn (gan ei bod yn ddeddfwriaeth wahanol).

Nid oes sail ffurfiol i apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Benodedig. Y rheswm dros hyn yw mai cyfle yw’r Hysbysiad Cosb Benodedig ichi gael gwared ar y rhwymedigaeth i'ch erlyn.

Yn y bôn, golyga hyn, os ydych yn cytuno eich bod wedi cyflawni trosedd, trwy dalu'r swm a nodwyd, ni chymerir unrhyw gamau pellach mewn perthynas â'r drosedd.

Mae hyn yn arbed amser i bawb (gan gynnwys y troseddwr) o ran dwyn achos gerbron llys, ac mae’r hysbysiad cosb benodedig yn is o lawer nag unrhyw ddirwy a roddir gan y llysoedd. Y ddirwy fwyaf y gall y llysoedd ei gosod am daflu sbwriel yw £2,500.

Os nad ydych yn cytuno eich bod wedi cyflawni'r drosedd y cawsoch yr Hysbysiad Cosb Benodedig o'i herwydd, ymdrinnir â’r mater drwy erlyniad ffurfiol yn y llys.

Mater i’r llys, ar ôl derbyn y dystiolaeth, fydd penderfynu a gyflawnwyd trosedd neu beidio, ac felly a ddylid pennu unrhyw gosb neu beidio.

Nid oes rhaid inni godi arwyddion ar bob stryd, ffordd neu fan agored i ddweud wrthych am beidio â gollwng sbwriel/codi baw eich ci neu i ddweud wrthych fod swyddogion gorfodi materion yn cynnal patrolau yn yr ardal. Mae gollwng sbwriel a gadael baw cŵn yn erbyn y gyfraith.

Fel gydag arwyddion, nid yw’n ymarferol inni osod biniau sbwriel ar bob stryd a ffordd yn y sir, er y gwneir pob ymdrech i osod biniau lle mae eu hangen fwyaf megis canol trefi, llwybrau cerdded i’r ysgol a phrif fannau siopa. 

Gellir rhoi baw cŵn, ar ôl ei fagio, mewn unrhyw fin sbwriel, nid yn unig y biniau cŵn dynodedig.

Os nad oes bin ar gael, chi fydd yn gyfrifol am naill ai mynd â'ch sbwriel adref gyda chi neu ei gario nes i chi ddod o hyd i fin sbwriel.

Chi sydd yn gyfrifol am ddiffodd eich sigarét cyn ei rhoi yn y bin.

Er mwyn osgoi risg o dân, mae'n rhaid bod yn ofalus ac yn benodol dylid diffodd sigaréts yn llwyr ar y platiau sigarét a ddarperir ar lawer o finiau sbwriel cyn i'r bonyn gael ei daflu i'r bin.

Mae amryw o flychau llwch symudol ar gael neu gallech wneud eich un eich hun drwy roi peth pridd neu dywod mewn tun bach.

Mae gollwng sbwriel a gadael baw cŵn yn erbyn y gyfraith. Nid yw'n ofynnol i'n swyddogion rybuddio pobl am hyn; ac mae cyfrifoldeb ar bawb i gael gwared â sbwriel a baw cŵn.

Fodd bynnag, rydym wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ynghylch sbwriel a oedd yn cynnwys posteri, taflenni gwybodaeth, hysbysebion, radio, erthyglau i'r wasg a gwaith mewn ysgolion i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o bwysigrwydd y mater hwn.

P'un a ydych chi'n gwirfoddoli i godi'ch sbwriel wedi hynny ai peidio, rydych chi wedi cyflawni trosedd a byddwch chi'n cael Hysbysiad Cosb Benodedig.

Cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 234567 i drafod eich amgylchiadau. Caiff hyn ei adolygu ac efallai cewch fwy o amser i dalu. Fodd bynnag, ni ellir talu Hysbysiad Cosb Benodedig mewn rhandaliadau.

Mae methu â darparu enw a chyfeiriad yn drosedd o dan Adran 6 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005. Os na fydd troseddwr yn cydweithredu â'n swyddogion yna gallant ffonio'r heddlu.

Nid yw'r ffaith nad oeddech yn ymwybodol bod eich ci wedi baeddu (oherwydd nad oeddech yn y cyffiniau ar y pryd) neu nad oedd gennych fodd addas o'i godi, yn esgus rhesymegol dros beidio a chodi'r baw. Disgwylir bod rhywun sy'n gyfrifol am gi yn ymwybodol bob amser o'i leoliad a beth mae'n ei wneud.

Llwythwch mwy