Rhoi gwybod am broblem sbwriel

Diweddarwyd y dudalen ar: 19/01/2023

Rydym yn gyfrifol am waredu sbwriel o balmentydd, strydoedd a thir cyhoeddus. Mae sbwriel yn cynnwys pethau megis stympiau sigaréts, gwm cnoi, papur lapio losin, derbynebau arian, caniau a chynwysyddion pryd-ar-frys. Mae rhai mathau o sbwriel yn gallu cymryd blynyddoedd i bydru'n ddim, gan achosi niwed sylweddol i fywyd gwyllt a chynefinoedd. Yn ogystal mae sbwriel yn anharddu ardaloedd, ac mae pobl yn gallu bod yn fwy parod i gyflawni rhagor o droseddau os gwelant bod sbwriel ar hyd y lle.

Mae sbwriel sy'n cael ei daflu o gerbydau yn broblem enfawr ledled y Deyrnas Unedig. Mae stympiau sigaréts, pecynnau creision, caniau diodydd a chynwysyddion bwydydd cyflym yn cael eu gwaredu ar ymylon ein ffyrdd. Yn ôl ymchwil gan Keep Britain Tidy mae 23% o bobl yn debygol o daflu sbwriel o'u car; ac mae'r broblem yn gwaethygu.

Rydym yn gofyn ichi ein helpu i gadw'n sir yn lân drwy riportio pobl rydych chi'n eu gweld yn gollwng sbwriel. Os ydynt yn gollwng sbwriel o gerbyd, nodwch y rhif cofrestru ynghyd â gwneuthuriad, model a lliw'r car os yn bosibl yn ogystal â dyddiad ac amser y drosedd ac yna rhoi gwybod am y digwyddiad gan ddefnyddio Lleol-i. Yna gall ein swyddogion gorfodi materion amgylcheddol wneud ymholiadau er mwyn dod o hyd i'r troseddwr.

Ar gyfartaledd codir tua 40 tunnell o sbwriel bob wythnos, sy'n costio mwy na £2 filiwn y flwyddyn. Drwy fwrw ati'n gyflym i symud sbwriel a deunyddiau sy'n cael eu gwaredu'n anghyfreithlon, mae'n llai tebygol y bydd mwy o ddeunyddiau'n cael eu hychwanegu.

Rhoi gwybod am sbwriel