Cam-drin Domestig

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Ystyr cam-drin domestig yw bod eich partner neu unrhyw aelod arall o’ch teulu yn eich cam-drin yn seicolegol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn rhywiol neu’n ariannol. Gall y cam-drin fod yn un digwyddiad neu’n gam-drin sy’n digwydd dro ar ôl tro ond fel rheol, patrwm ymddygiad ydyw. Os ydych yn teimlo bod eich partner yn fygythiol tuag atoch neu’n codi ofn arnoch i’r fath raddau nes eich bod yn teimlo bod yn rhaid ichi newid eich ymddygiad, gallwch fod yn dioddef cam-drin domestig.

Mae Trais Rhywiol yn cynnwys cam-drin plant yn rhywiol, ymosod yn rhywiol, camfanteisio rhywiol, puteindra, anffurfio organau cenhedlu benywod, treisio ac ati. Pryd bynnag y digwyddodd, boed hynny dro ar ôl tro neu unwaith yn unig, os digwyddodd yn erbyn eich ewyllys, nid yw’n dderbyniol.

Os ydych yn teimlo bod eich partner yn fygythiol tuag atoch, os oes arnoch ofn y bydd eich partner yn ymateb yn ymosodol neu os yw cam-drin rhywiol wedi effeithio arnoch, codwch y ffôn i gysylltu ag un o’r asiantaethau lleol a rhestrir isod sydd yn darparu cymorth i ddynion a menywod 9am-5pm:

  • Calan DVS (Dyffryn Aman) - 01269 597474
  • CarmDas (Caerfyrddin) - 01267 238410
  • Threshold DAS (Llanelli) - 01554 752422
  • Goleudy - 0300 123 2996

Y tu allan i'r oriau hyn, neu os oes angen llety brys arnoch, cysylltwch â’r llinell gymorth gyfrinachol, rhad ac am ddim, i Gymru gyfan:

Mewn argyfwng, ffoniwch yr heddlu drwy ddeialu 999.

Os atebwch ‘Ydw’ i unrhyw un o’r cwestiynau canlynol, gallech chi fod mewn perthynas lle cewch eich cam-drin neu gallech fod mewn perthynas a allai ddatblygu’n un lle cewch eich cam-drin.

A ydych yn teimlo’n nerfus yng nghwmni eich partner?