Budd-dal tai

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

O 12 Rhagfyr 2018, mae Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol wedi cael ei gyflwyno yn Sir Gaerfyrddin. I rai hawlwyr, bydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle Budd-daliadau Tai. Ar ôl y dyddiad hwn, mae'n bosibl y gofynnir i chi hawlio Credyd Cynhwysol os byddwch yn cyflwyno cais newydd am Fudd-daliadau Tai. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran Credyd Cynhwysol ar y wefan.

Mae Budd-dal Tai yn helpu pobl ar incwm bach i dalu eu rhent. Gellir ei ddefnyddio i dalu rhent i landlord preifat, i Gymdeithas Dai, neu i Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau a faint o'ch rhent sy'n gymwys ar gyfer budd-dal. Mae'n bosibl na fydd yn cwmpasu'r holl rent a godir arnoch. Bydd angen ichi dalu unrhyw ran o'ch rhent nad yw'n cael ei gwmpasu gan Fudd-dal Tai.

Hefyd caiff Budd-dal Tai ei alw'n Lwfans Rhent neu'n Ad-daliad Rhent weithiau. Os yw eich incwm yn fach, efallai fod gennych hawl i gael Gostyngiad y Dreth Gyngor. Gallwch hawlio Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad y Dreth Gyngor os oes gwaith gennych neu os ydych yn ddi-waith; nid oes yn rhaid eich bod yn cael unrhyw fudd-dal arall i'w hawlio.

I wneud cais am Fudd-dal Tai, mae angen ichi lenwi ffurflen gais a'i dychwelyd atom. Gallwch gwnewch gais ar-lein, neu casglu ffurflen gais o un o'n canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin.

Bydd angen ichi ddangos tystiolaeth o'r manylion canlynol inni:

  • Eich rhifau Yswiriant Gwladol chi a'ch partner
  • Pwy ydych e.e. tystysgrif geni, trwydded yrru, pasbort
  • Cyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Enillion
  • Credydau Treth
  • Unrhyw incwm arall
  • Budd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • Eich tenantiaeth ac unrhyw rent yr ydych yn ei dalu (oni bai eich bod yn denant i'r Cyngor neu'n denant Cymdeithas Dai).

Sylwch fod yn rhaid ichi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid copïau. Ni allwn dalu eich budd-dal hyd nes y byddwn wedi gweld yr holl dystiolaeth yr ydym wedi gofyn amdani.

Os na allwch ddarparu peth o'r dystiolaeth hon, cysylltwch â ni a gallwn drafod ffyrdd eraill inni allu cael y dystiolaeth./p>

Pethau i'w cofio

  • Rhaid ichi anfon eich ffurflen gais atom neu ddod â hi atom cyn gynted ag y bo modd. Bydd dyddiad dechrau talu eich budd-dal yn dibynnu ar bryd y cawn eich ffurflen gais.
  • Rhaid ichi ddarparu'r holl dystiolaeth ategol y gofynnwn amdani cyn pen mis ar ôl dyddiad eich ffurflen gais. Ni fydd modd inni dalu eich budd-dal tan inni weld yr holl dystiolaeth angenrheidiol. Os cewch anhawster anfon unrhyw dystiolaeth, dylech gysylltu â ni a gofyn am estyn y terfyn amser.
  • Os oes angen ichi wneud cais am Fudd-dal Tai a'r Gostyngiad Treth Gyngor, defnyddir yr un ffurflen ar gyfer y ddau. Dim ond un ffurflen y mae angen ichi ei llenwi.

Gall y wybodaeth bersonol a ddarparwch mewn perthynas â’ch cais am Fudd-dâl Tai a gostyngiad i’r Dreth Gyngor gael ei rhannu gyda chyrff cyhoeddus eraill lle bo’r gyfraith yn caniatáu hynny.

Ni chewch fudd-dal os na wnewch gais amdano.

Gwneud cais am Fudd-dal Tai