Sut caiff Budd-dal Tai ei dalu?

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/03/2020

Os oes hawl gennych i dderbyn Budd-dal Tai, yna gellir talu hwn mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan ddibynnu ar y math o eiddo rydych yn byw ynddo. Efallai y bydd eich taliad cyntaf yn fwy na'r swm arferol oherwydd ei fod yn cynnwys ôl-daliad o'r dyddiad y dechreuodd eich hawl.

Os ydych yn denant cyngor, caiff eich Budd-dal Tai ei dalu i'ch cyfrif rhent unwaith yr wythnos. Bydd unrhyw fudd-dal yr ydych yn ei dderbyn yn cael ei ddidynnu oddi ar eich rhent llawn gan adael llai o rent, neu ddim rhent, i chi ei dalu. Caiff y rhan fwyaf o denantiaid preifat eu talu bob pythefnos, mewn ôl-ddyled.

Os ydych yn cael eich talu gan gredyd uniongyrchol i'ch cyfrif banc (BACS), bydd eich arian yn cyrraedd eich cyfrif ar ddydd Mawrth bob 4 wythnos. Os hoffech chi i ni dalu eich Budd-dal Tâl yn uniongyrchol i'ch cyfrif gan mai'r dull mwyaf diogel a chyflym o dalu yw hwn, dylech lawrlwytho'r ffurflen BACS a'i chwblhau a'i dychwelyd i: Budd-dal Tai, 3ydd Llawr, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP.

Taliadau pedair wythnos 2020/21 ar gyfer tenantiaid preifat

Dyma'r dyddiadau ar gyfer taliadau lwfans rhent bob pedwar wythnos ar gyfer tenantiaid preifat sy'n daladwy drwy BACS neu drwy siec:

  • 7fed Ebrill 2020
  • 5ed Mai 2020
  • 2il Mehefin 2020
  • 30ain Mehefin 2020
  • 28ain Gorffennaf 2020
  • 25ain Awst 2020
  • 22ain Medi 2020
  • 20fed Hydref 2020
  • 17eg Tachwedd 2020
  • 15fed Rhagfyr 2020
  • 12fed Ionawr 2021
  • 9fed Chwefror 2021
  • 9fed Mawrth 2021

Taliadau uniongyrchol i landlordiaid

I'r rhan fwyaf o bobl mewn eiddo a rentir yn breifat, ni ellir talu Budd-dal Tai'n uniongyrchol i'r landlordiaid oni bai bod yr hawliwr yn methu rheoli ei faterion ariannol, yn annhebygol o dalu ei rent neu y mae ganddo ôl-ddyledion rhent o 8 wythnos neu fwy. Os ydych chi'n landlord ac mae'r amodau hyn yn berthnasol, dylech lenwi a dychwelyd cais y Landlord am ffurflen daliad uniongyrchol.