Sut mae apelio

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Pan fyddwn yn dod i benderfyniad, byddwn yn anfon llythyr atoch a fydd yn dweud wrthych sut y penderfynwyd ar eich Budd-dal Tai. Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau a dyddiad gorffen eich hawliad.

Os chi yw’r un a hawliodd Fudd-dal Tai (neu os chi yw’r un a benodwyd ganddo/ganddi) ac os credwch fod y penderfyniad yr ydym wedi’i wneud am eich budd-dal yn anghywir, gallwch wneud y canlynol:

  • Gofyn inni am eglurhad ynghylch ein penderfyniad a/neu am ddatganiad ysgrifenedig ynghylch y rhesymau dros y penderfyniad, neu
  • Dweud wrthym eich bod yn anghytuno â’r penderfyniad a phaham, a gofyn inni ei ailystyried, neu
  • Apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yn gyffredinol, rhaid ichi ofyn inni wneud hyn cyn pen mis ar ôl dyddiad y llythyr a anfonwn atoch ynghylch y penderfyniad oni bai fod gennych reswm arbennig dros gais hwyr. Er hynny mae terfyn amser ar gyfer apelio, sef 13 mis.

Ymdrinnir ag apêl yn unig ar y sail ei fod yn cael ei wneud ar y diwrnod y bydd eich llythyr/ffurflen apêl wedi’i llenwi yn ein cyrraedd, felly gofalwch fod y llythyr/ffurflen yn ein cyrraedd cyn pen mis calendr ar ôl dyddiad ein llythyr.

Os penderfynwch gyflwyno apêl, mae’n ofynnol dan y gyfraith inni fod â dogfen a lofnodwyd gennych yn dweud wrthym am yr hyn yr ydych am ei wneud. Ni allwn dderbyn unrhyw gais drwy e-bost.

Gallwch lawrlwytho a llenwi eich ffurflen Apêl Budd-dal Tai neu ysgrifennu llythyr atom i ddweud wrthym:

  • pa benderfyniad yr ydych yn anghytuno ag ef
  • pam yr ydych yn anghytuno

Cofiwch lofnodi’r llythyr ac yna ei anfon atom i’r cyfeiriad a nodir isod.

Landlordiaid

Mae rheolau arbennig os ydych yn landlord eiddo gan mai dim ond rhai mathau o benderfyniadau y gallwch ofyn inni eu hailystyried neu y gallwch apelio yn eu herbyn.

Y canlynol yw’r penderfyniadau hyn:

  • Penderfyniad ynghylch a yw Budd-dal Tai i’w dalu’n uniongyrchol i chi
  • Swm a chyfnod gordaliad yr ydym wedi penderfynu ei adennill oddi wrthych
  • Penderfyniad ynghylch adennill gordaliad Budd-dal Tai oddi wrthych ai peidio

Pan fyddwch yn ysgrifennu atom

Pryd bynnag y byddwch yn ysgrifennu atom am benderfyniad, bydd uwch-swyddog budd-daliadau yn edrych eto ar eich cais.

Os penderfynwn nad oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, bydd eich hawliad yn cael ei newid a byddwn yn anfon llythyr hysbysu newydd atoch yn egluro sut y cyfrifwyd swm newydd eich budd-dal. Yna byddai gennych hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad newydd hwn.

Cyflwyno Apêl i Dribiwnlys Annibynnol

Os ydych yn dal yn anfodlon ar y penderfyniad, y cam nesaf yw gofyn am i gorff annibynnol, a elwir y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, ystyried y penderfyniad a chadarnhau a yw’n gywir neu’n anghywir.

Rhaid i’ch cais am apêl gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig i ni.

Gallai fod yn llythyr oddi wrthych chi, neu rywun fel Cyngor ar Bopeth, ar eich rhan, ond rhaid i chi lofnodi unrhyw apêl.

Os ydych, cyn apelio, wedi gofyn inni ailystyried ein penderfyniad, mae gennych fis calendr i gyflwyno apêl, ar ôl dyddiad ein llythyr ailystyried a anfonwyd atoch, hyd yn oes os nad yw’r penderfyniad wedi newid.

Os nad ydych wedi gofyn inni ailystyried ein penderfyniad ond eich bod yn dymuno apelio, rhaid ichi gyflwyno eich apêl cyn pen mis ar ôl dyddiad y llythyr hysbysu yr ydym wedi’i anfon atoch.

Gall y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd ystyried apêl a gyflwynir ar ôl y terfyn amser hwn os oes amgylchiadau arbennig. Ni allant ystyried apêl a gyflwynir mwy na 13 mis ar ôl dyddiad y llythyr hysbysu am y penderfyniad gwreiddiol. I gael gwybod rhagor am hyn, ewch i wefan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd.

Mae rheolau a therfynau amser gwahanol ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch cais am gael Gostyngiad Treth Gyngor.

Lawrlwythwch ffurflen apêl Budd-dal Tai