Y Cap ar Fudd-daliadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/12/2023

Mae yna derfyn ar faint o fudd-dal y gall pobl yn Sir Gaerfyrddin rhwng 16 a 64 gael. Gelwir hyn yn ‘Gap ar Fudd-daliadau’. Gallwch ddarganfod a fydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol i chi gan ddefnyddio'r cyfrifiannell .gov.uk, dim ond ychydig funudau i'w gwblhau. Er mwyn ateb y cwestiynau, bydd arnoch angen gwybodaeth am swm y dyfarniad wythnosol ar gyfer pob budd-dal neu lwfans yr ydych chi neu rywun yn eich aelwyd yn ei gael.

Pan gânt eu hychwanegu at ei gilydd, bydd y cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu ar gyfanswm yr incwm y gallwch ei gael o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ac eithrio ble caiff ei dalu gyda’r elfen cymorth)
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw ar sail Oed

O 7 Tachwedd 2016, mae'r cap ar fudd-daliadau'n newid. Y cyfraddau blynyddol newydd yw:

  • £13,400 yn achos hawlwyr sengl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin;
  • £20,000 yn achos yr holl hawlwyr eraill sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin.

Ni fydd y cap yn berthnasol i chi os ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith neu’n cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol (o fis Ebrill 2013)
  • Lwfans Gweini
  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, os caiff ei dalu gyda’r elfen cymorth
  • Pensiwn Rhyfel i Wŷr neu Wragedd Gweddw
  • Pensiynau Rhyfel
  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Lwfans Cynhaliwr

Bydd y cap yn cael ei gymhwyso drwy ddidyniadau o’ch taliadau Budd-dal Tai. Os ydych chi eisoes yn derbyn budd-daliadau ac y gallech gael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi. Byddant yn eich helpu i ddeall beth allai’r cap ei olygu i chi. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich helpu i gael gwybodaeth am y newidiadau a meddwl am beth allwch chi ei wneud nawr i baratoi.

Gall eich Budd-dal Tai ostwng i sicrhau nad yw cyfanswm eich budd-daliadau yn fwy na lefel y cap. Os bydd hyn yn digwydd, efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio arian o’ch budd-daliadau eraill i dalu’r rhent am eich cartref.

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau ac yn gweld cynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith, darparwr Rhaglen Waith neu ddarparwr Dewis Gwaith, byddant yn parhau i’ch helpu. Byddant yn eich helpu i chwilio am waith a chael y sgiliau a allai fod eu hangen arnoch i ddod o hyd i swydd. Os nad ydych mewn cysylltiad ag un o’r rhain ar hyn o bryd, byddwch yn cael cynnig apwyntiad i drafod y cymorth a’r gefnogaeth a allai fod ar gael. Os byddwch yn dod o hyd i waith, efallai na fydd y cap yn berthnasol i chi.